Cofnodion:
Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad a ddosbarthwyd ym
mhecyn yr agenda.
Amlinellodd y Cyfarwyddwr Strategaeth a
Gwasanaethau Corfforaethol y newidiadau a wnaed i'r gofrestr risgiau strategol.
Y bwriad yw cyflwyno cofrestr risgiau wedi'i diweddaru bob chwe mis yn hytrach
na phob blwyddyn. Erbyn hyn, mae sgôr risg gynhenid a sgôr risg weddilliol.
Mae'r matrics a ddefnyddir yn gosod uchafswm risg o 25 a'r raddfa risg leiaf
fyddai 2.
Yn ystod yr haf, rhoddwyd datganiad am barodrwydd i
dderbyn risg ar waith. Mae hyn yn nodi ymagwedd yr awdurdod at y risgiau a geir
yn y gofrestr risgiau strategol. Mae'r datganiad yn seiliedig ar yr egwyddorion
sydd wedi'u cynnwys yn The Orange Book: Management of Risk - Principles and
Concepts a gyhoeddwyd gan lywodraeth y DU. Bydd angen i'r gofrestr risgiau
strategol gyd-fynd â'r datganiad am barodrwydd i dderbyn risg.
Nodir nad yw'r sgôr risg darged wedi'i chwblhau
eto. Y rhesymeg dros hyn yw bod sgôr risg gynhenid, sy'n seiliedig ar
arbenigedd y swyddogion sy'n gyfrifol am y risgiau hynny; rhoddir camau
gweithredu lliniarol a rheolaethau ar waith a'r risg sy'n weddill yw'r risg
weddilliol. Yna bydd yr awdurdod yn gyfrifol am benderfynu a ellir rheoli lefel
y risg weddilliol neu a oes angen ei lleihau. Beth yw'r risg darged ar gyfer yr
eitem benodol?
Cyfeiriodd yr aelodau at SR06 a'i gyfeiriad at
adnoddau cyfalaf a refeniw annigonol, a allai achosi problemau. Awgrymwyd y
dylid rhestru hyn hefyd o dan eitemau eraill a chyfarwyddiaethau eraill.
Cadarnhaodd swyddogion fod yr eitem hon yn cynnwys trefniadau cynllunio
ariannol cyfan y cyngor ac nad yw'n benodol i gyfarwyddiaeth.
O ran SR25, holodd yr aelodau a oedd ddefnyddio'r
gair “dyheadau” yn briodol gan fod seminar flaenorol yn nodi y byddai dirwyon
yn cael eu gosod pe na bai targedau'n cael eu cyflawni. Roedd yr aelodau hefyd
yn pryderu na fyddai'r targedau'n cael eu cyflawni. Cadarnhaodd swyddogion fod
y Cyngor wedi gosod targed o 2030 ar gyfer newid yn yr hinsawdd a
datgarboneiddio. Nododd swyddogion y pwysau ar y gyllideb a'r effaith y mae hyn
yn ei chael ar y gallu i gwblhau prosiectau sy'n cyfrannu at y targed o ran datgarboneiddio.
Nodwyd bod gan bob cyfarwyddiaeth ei chofrestr
risgiau ei hun dan y gofrestr risgiau strategol gyffredinol. Cytunodd
swyddogion y byddent yn ystyried cyfeirio at y risgiau mwy penodol i
gyfarwyddiaeth fel rhan o'r gofrestr risgiau strategol.
Cyfeiriodd yr aelodau at SR23 sydd wedi'i dynnu a'i
gynnwys yn SR01 bellach. Cydnabyddir bod y risg wedi symud o fod yn gyfrifoldeb i’r Cyfarwyddwr Addysg i
fod yn gyfrifoldeb i Gyfarwyddwr Adran yr Amgylchedd. Mae'r risg yn cyfeirio at
adeiladau ar gyfer dysgu a'r effeithiau ar hynny. Holodd yr aelodau a oedd y
risg hon wedi trosglwyddo i Adran yr Amgylchedd yn hytrach nag Addysg.
Cadarnhaodd swyddogion, er bod penaethiaid yn meddu ar ymreolaeth dros
ysgolion, fod yr holl waith ar yr isadeiledd yn cael ei wneud gan y tîm yn
Adran yr Amgylchedd, sy'n gyfrifol am y risg strategol gyffredinol. Felly,
roedd yn gwneud synnwyr cyfuno'r risg. Cadarnhaodd y swyddog fod y gyllideb yn
dal i fod yn rhan o gyllideb y Adran Addysg, ac mae'r swyddogion yn gweithio
gyda'r tîm cynnal a chadw eiddo i sicrhau bod gwaith priodol a gwaith â
blaenoriaeth yn cael ei wneud.
Yn dilyn gwaith craffu, nododd yr Aelodau'r
adroddiad.
Dogfennau ategol: