Cofnodion:
(Ar y pwynt hwn yn y cyfarfod, ailddatganodd y Cynghorydd C Phillips ei
gysylltiad â'r eitem hon, a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r bleidlais
ar ôl hynny.)
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, caiff y
gwrthwynebiadau eu diystyru'n llawn ar gyfer Gorchymyn (Cilgant Elba a Chilgant Baldwins, Twyni Crymlyn)
(Gwahardd Cerbydau Modur ac Eithrio Mynediad ) 2024
(fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) a chaiff y cynllun ei
roi ar waith fel yr hysbysebwyd.
Bydd y gwrthwynebwyr yn cael eu hysbysu o
benderfyniad y bwrdd yn unol â hynny.
Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig:
Mae'r
Gorchymyn yn angenrheidiol er mwyn atal pobl nad ydynt yn breswylwyr rhag
parcio'n ddifeddwl er budd diogelwch ar y ffyrdd.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Dogfennau ategol: