Cofnodion:
Penderfyniad:
1.
Cymeradwyo'r ceisiadau am ddyfarniadau, fel y nodir yn atodiad B i'r adroddiad
preifat a ddosbarthwyd, o Gronfa Harold a Joyce Charles ar gyfer blwyddyn
academaidd 2024/2025, ar gyfer ceisiadau cymwys a dderbyniwyd ar y dyddiad cau
neu cyn hynny.
2.
Cymeradwyo'r dyraniad o £10,000.00 ar gyfer 5 myfyriwr amser llawn (atodiad B).
3. Awdurdodi taliadau i'r ymgeiswyr hynny y mae cefnogaeth barhaus gan
Gronfa Harold a Joyce Charles ar eu cyfer eisoes wedi'i chymeradwyo.
Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig:
Darparu cefnogaeth ariannol briodol i fyfyrwyr a fyddai fel arall yn
dioddef caledi.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau.