Agenda item

Glamorgan Further Education Trust Fund

Cofnodion:

 

Penderfyniad:

 

1.Bod y ceisiadau am ddyfarniadau, fel y nodwyd yn atodiadau B ac C i'r adroddiad preifat a ddosbarthwyd a wnaed o Gronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Morgannwg ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/2025, i geisiadau cymwys a dderbyniwyd ar neu cyn y dyddiad cau, yn cael eu cymeradwyo.

 

2. Bod dyrannu arian hyd at uchafswm o £2,000.00 ar gyfer 3 myfyriwr amser llawn (atodiad B) ac £1,000.00 ar gyfer 4 myfyriwr rhan-amser (atodiad C) yn cael ei gymeradwyo.

 

3.Awdurdodi taliadau i'r ymgeiswyr hynny y cymeradwywyd cefnogaeth barhaus gan Gronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Morgannwg ar eu cyfer eisoes.

 

Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig:

 

Darparu cefnogaeth ariannol briodol i fyfyrwyr a fyddai fel arall yn dioddef caledi.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.