Agenda item

Ymgynghoriad ar Lawlyfr Datblygiad Cynllunio Strategol

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariad i'r Pwyllgor ar sefyllfa bresennol datblygiad y Cynllun Datblygu Strategol.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod Swyddogion ar draws y rhanbarth wedi ymgysylltu â Llywodraeth Cymru fel rhan o ymgynghoriad anffurfiol; cynhaliwyd hyn oddeutu dwy flynedd yn ôl ac roedd yn ymwneud â llawlyfr anffurfiol. Nodwyd y caiff y llawlyfr ei lunio gan Lywodraeth Cymru ac y byddai'n darparu dull cyson o ran paratoi cynlluniau datblygu strategol ledled Cymru.

 

Mynegwyd er y cynhaliwyd yr ymgynghoriad anffurfiol beth amser yn ôl fod y swyddogion yn dal i aros i gael ymgynghoriad ffurfiol ynghylch fersiwn ddrafft o'r canllawiau; mae Llywodraeth Cymru wedi oedi sawl gwaith wrth gyhoeddi'r ddogfen honno ar gyfer ymgynghori. Ni ddisgwylir i'r llawlyfr drafft fod ar gael tan wanwyn 2025, gyda'r cyhoeddiad terfynol erbyn diwedd haf/dechrau hydref 2025. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y ddogfen hon yn hanfodol o ran galluogi a hwyluso cynlluniau datblygu strategol ledled Cymru gan y bydd yn nodi'r dull gweithredu yr oedd angen ei gymryd.

 

Ychwanegodd Swyddogion fod paratoi'r Cynllun Datblygu Strategol yn adlewyrchiad o'r hyn yr oedd cynghorau unigol yn ei wneud gyda'u cynlluniau datblygu lleol, a bod angen gwneud llawer o waith i baratoi'r cynlluniau hyn.

 

Cadarnhawyd bod trafodaethau niferus wedi eu cynnal ynghylch adnoddau ariannol a staff i gyflawni'r rhaglen waith; byddai'r ymrwymiad ariannol i gyflawni Cynllun Datblygu Strategol yn sylweddol, ac amcangyfrifwyd y byddai'r ffigyrau rhwng £2.5m a £3.5m. Nodwyd bod Swyddogion a gwleidyddion wedi bod yn lobïo Llywodraeth Cymru o ran darparu adnoddau digonol a boddhaol i alluogi cyd-bwyllgorau corfforedig i fwrw ymlaen â'r rhaglen waith hon.

 

Cafwyd trafodaeth ynghylch pwysigrwydd sicrhau bod digon o staff ar gael i baratoi'r Cynllun Datblygu Strategol a chyflawni'r rhaglen waith; roedd awdurdodau lleol unigol wrthi'n cyfrannu at baratoi eu cynlluniau datblygu lleol newydd. Felly, ar hyn o bryd, nid oedd yn bosib dargyfeirio staff yr Awdurdod Lleol i ffwrdd o'r rhaglen waith benodol honno er mwyn bwrw ymlaen â'r gwaith sy'n ymwneud â'r Cynllun Datblygu Strategol. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Swyddogion ar draws awdurdodau lleol wedi derbyn cyfarwyddyd clir gan Lywodraeth Cymru i barhau i fwrw ymlaen â'u cynlluniau datblygu lleol newydd.

 

O ran y sefyllfa bresennol, mynegwyd na fydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru mewn sefyllfa i ddechrau unrhyw waith ar y Cynllun Datblygu Strategol nes i broblem adnoddau gael ei datrys.

 

Soniodd Swyddogion eu bod wedi derbyn gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch y gofynion i lunio cytundeb cyflawni erbyn diwedd 2024; fodd bynnag, am y rhesymau a grybwyllwyd uchod, ni fyddai modd cyflawni hyn ar hyn o bryd. Eglurwyd y bydd cytundeb cyflawni ar gyfer y Cynllun Datblygu Strategol yn debyg i unrhyw Gynllun Datblygu Lleol; bydd yn nodi'r amserlen, cwmpas unrhyw gynllun i gynnwys y gymuned a'r adnoddau y mae eu hangen. Nid oedd swyddogion mewn sefyllfa i egluro'r manylion hyn ar hyn o bryd.

 

Cyfeiriwyd at ranbarthau gogledd Cymru a chanolbarth Cymru, a oedd mewn sefyllfa debyg i ranbarth y de-orllewin. Roedd y Swyddogion yn deall bod dinas-ranbarth Caerdydd wedi datblygu fersiwn ddrafft gynnar o'i gytundeb cyflawni; fodd bynnag, nid oedd manylion yn y ddogfen honno ar hyn o bryd ynghylch sut i ddod o hyd i adnoddau i gynnal y broses honno.

 

Er nad oedd unrhyw waith sylweddol wedi'i wneud hyd yn hyn ar y Cynllun Datblygu Strategol, amlygwyd bod Swyddogion o awdurdodau lleol ar draws y rhanbarth yn parhau i gydweithio o ran astudiaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth; roedd yr holl awdurdodau lleol yn mynd â rhaglenni eu cynlluniau datblygu lleol newydd rhagddynt ac roeddent wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd o ran astudiaethau posib ar y cyd. Soniwyd y bydd y darnau hyn o waith yn darparu'r seiliau ar gyfer y Cynllun Datblygu Strategol, a phryd y gellid ei ddatblygu.

 

Cyfeiriwyd at y goblygiadau cyfreithiol a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn benodol y posibilrwydd o adolygiad barnwrol. Eglurodd Swyddogion ei fod bellach wedi'i nodi mewn statud a rheoliadau fod yn rhaid i ranbarthau gyflwyno Cynllun Datblygu Strategol ar ryw adeg; roedd yn bwysig i'r adroddiad nodi bod risg gynhenid yn ymwneud â pheidio â bod mewn sefyllfa i fynd â rhaglen waith y Cynllun Datblygu Strategol rhagddo.

Holodd yr Aelodau sut y bydd peidio â mynd â'r Cynllun Datblygu Strategol rhagddo'n effeithio ar waith ehangach y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Cadarnhawyd na fyddai hyn yn atal gwaith rhag mynd rhagddo mewn ffrydiau gwaith eraill; fodd bynnag, bydd yn bwysig sicrhau cysondeb rhwng yr holl ddogfennau a rhaglenni gwaith perthnasol. Mynegwyd y bydd y Cynllun Datblygu Strategol yn cyflwyno fframwaith cynllunio defnydd tir ar gyfer y rhanbarth yn y pen draw, ond dylai gyd-fynd â'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ac
unrhyw ddogfennaeth ynghylch datblygu economaidd ac ynni.

 

Cafwyd trafodaeth bellach ynglŷn â'r llawlyfr ar gyfer cynlluniau datblygu strategol. Soniwyd bod y fersiwn ddrafft weithredol yr oedd Swyddogion wedi ei gweld, o'r ymgynghoriad cychwynnol, yn sylweddol ac yn gynhwysfawr iawn. Mynegodd Swyddogion eu barn ynghylch sut gallai'r ddogfennaeth hon fod wedi cael ei llunio.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod pob awdurdod lleol yn derbyn dogfennau ymgynghori gan Lywodraeth Cymru, a oedd yn cynnwys nifer o gynigion. Amlygodd Swyddogion fod un o'r cynigion yn ymwneud â'r amserlenni a oedd yn gysylltiedig â chynlluniau datblygu lleol newydd. Eglurwyd bod gofyniad i adolygu cynlluniau datblygu lleol newydd bob pedair blynedd, ond gallai Llywodraeth Cymru ystyried ymestyn y cylch adolygu hwnnw i chwe blynedd; gallai hyn helpu awdurdodau lleol a chydbwyllgorau corfforedig yn y rhanbarth i fwrw ymlaen â chynlluniau datblygu strategol. Dywedodd Swyddogion fod hyn yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod gallu ac adnoddau yn broblem.

Nodwyd bod Swyddogion eisoes wedi cael sesiwn friffio gan Lywodraeth Cymru ac un o'r pynciau trafod oedd rôl cyd-bwyllgorau corfforedig a sut y gallent ddylanwadu ar yr ymgynghoriad cynllunio strategol; roedd Llywodraeth Cymru yn disgwyl meithrin dealltwriaeth o farn cyd-bwyllgorau corfforedig am eu rôl o ran cysylltu â'r system gynllunio yn ei chyfanrwydd, nid drwy'r Cynllun Datblygu Strategol yn unig.

 

Cyfeiriwyd at yr amserlenni ar gyfer datblygu a gweithredu'r Cynllun Datblygu Strategol. Nodwyd bod y llawlyfr cychwynnol yn awgrymu y gellid cyflwyno cynlluniau datblygu strategol o fewn pum mlynedd; er bod cydnabyddiaeth y byddai'n debygol o gymryd mwy o amser na hyn. Ategwyd bod y cytundeb cyflawni drafft yr oedd dinas-ranbarth Caerdydd wedi'i lunio yn nodi amserlen chwe blynedd. Dywedodd Swyddogion fod y broses hon yn cynnwys llawer o waith cyn cyrraedd sefyllfa lle roedd gan y rhanbarth gynllun datblygu strategol mabwysiedig ar waith. 



 

Dogfennau ategol: