Cofnodion:
Hysbyswyd yr Aelodau fod Cyngor Bwrdeistref
Castell-nedd Port Talbot wedi llwyddo i gyflawni Lefel 2 Cynllun Meincnodi
Hyderus o Ofalwyr Employers for Carers (wedi'i gyflawni).
Nodwyd bod yr Aelodau wedi cymeradwyo aelodaeth
tanysgrifiad y Cyngor i Employers for Carers yn 2022; roedd swyddogion ar draws y Tîm Pobl
a Datblygu Sefydliadol wedi bod yn gweithio i roi trefniadau'r Cyngor ar waith
er mwyn cefnogi gweithwyr â chanddynt gyfrifoldebau gofalu y tu allan i'r
gwaith. Amlygodd swyddogion fod y trefniadau wedi'u cyflwyno ar gyfer asesiad,
ac o ganlyniad roeddent wedi cyrraedd meincnod Lefel 2 (wedi’i gyflawni).
Nodwyd bod swyddogion yn bwriadu parhau i adeiladu ar y gwaith hwn.
Cyfeiriodd swyddogion at yr ystod o dystiolaeth a
gyflwynwyd i'w hystyried, yr oedd peth o'r dystiolaeth hon yn cynnwys:
·
Trefniadau cyfathrebu ar gyfer
gweithwyr a oedd yn ofalwyr ac ymrwymiad y Cyngor i gefnogi gofalwyr yn y
gweithlu.
·
Gwobr Gofalwyr Cymru - Roedd
Gofal Cartref wedi llwyddo i sicrhau'r wobr cydnabyddiaeth ar gyfer Rheolwr Llinell yn y Gwobrau Wythnos Gofalwyr
a drefnir gan Gofalwyr Cymru am y gefnogaeth barhaus a roddir i weithwyr. Roedd
hyn yn dangos y gefnogaeth bwrpasol maent yn ei darparu.
·
Cyflwyniadau i arddangos bod
ystod o bobl, gan gynnwys Rheolwyr Llinell, wedi cael eu briffio i sicrhau eu
bod yn ymwybodol o sut i gefnogi gofalwyr yn y gweithlu.
·
Arolwg staff gofalwyr er mwyn
cael gwybodaeth hanfodol am ba gymorth sydd ei angen arnynt a beth arall y
gallai'r Cyngor ei wneud i'w helpu.
·
Ymgyrch i recriwtio Hyrwyddwyr
Gofalwyr, a oedd yn gallu cyfeirio gofalwyr at lwybrau cymorth a chynyddu
ymwybyddiaeth.
·
Sesiynau galw heibio ar gyfer
Diwrnod Hawliau Gofalwyr i gynyddu ymwybyddiaeth o'r gefnogaeth sydd ar gael.
·
Datblygu sianel gofalwyr Viva
Engage, sy'n hyrwyddo hunanymwybyddiaeth a deunyddiau cymorth yn wythnosol.
·
Sut roedd Employers for Carers
wedi'i gynnwys yn y broses cynefino/sefydlu ar gyfer dechreuwyr newydd.
Amlygwyd bod y meini prawf ar gyfer meincnodi yn
ymwneud yn bennaf â chynyddu ymwybyddiaeth, a sicrhau bod pobl sy'n gallu
cefnogi gofalwyr yn y gweithle yn gwybod pa gymorth i'w ddarparu, a bod pobl â
chyfrifoldebau gofalu yn gwybod ble i fynd pan roedd angen y cymorth hwnnw
arnynt.
Gofynnodd yr Aelodau pa gamau gweithredu ychwanegol
oedd eu hangen er mwyn cyrraedd y lefel nesaf. Darparodd swyddogion y rhestr
ganlynol ar gyfer cyflawni Lefel 3:
Llongyfarchodd y Pwyllgor y Tîm ar eu cyflawniadau.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.