Cofnodion:
Cyflwynodd swyddogion adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth i roi Polisi Gwirfoddoli newydd ar waith ar draws y Cyngor.
Eglurwyd bod datblygiad y Polisi Gwirfoddoli wedi'i
nodi fel un o'r ymrwymiadau a wnaed yng Nghynllun Gweithlu Strategol y Cyngor
a'r Cynllun Gweithredu Cyflawni, ar gyfer ail flwyddyn Strategaeth y Gweithlu.
Hysbyswyd yr Aelodau fod y Cyngor eisoes wedi
defnyddio gwirfoddolwyr ar draws llawer o wasanaethau, ond nid oedd fframwaith
safonol ar gyfer recriwtio a rheoli'r gwirfoddolwyr hynny; byddai datblygu
polisi yn helpu i sicrhau dull cyson o weithredu ac yn sicrhau y glynir at
drefniadau, megis camau gwirio cyn cyflogi. Tynnodd swyddogion sylw hefyd at y
manteision lles, gan fod lles gwirfoddolwyr yn gwella o ganlyniad i wirfoddoli.
Dywedodd swyddogion y bydd y Polisi Gwirfoddoli yn
creu cyfleoedd ar draws y Cyngor ac y gall y rheini nad ydynt yn gweithio i'r
Cyngor, yn ogystal â gweithwyr y Cyngor, ymgymryd â nhw; byddai'n fesur arall
yn yr ystod o fuddion y mae'r Cyngor yn eu darparu.
Cafwyd trafodaeth ynghylch monitro a mapio
effeithiau'r polisi hwn ar draws y Cyngor. Nodwyd nad oedd swyddogion yn casglu
data mewn perthynas â gwirfoddolwyr ar hyn o bryd; fodd bynnag, gwneir
trefniadau i fonitro cysondeb y dull gweithredu, a bydd y data perthnasol yn
cael ei gasglu wrth symud ymlaen. Soniwyd bod swyddogion wedi ymgysylltu â
gwasanaethau sy'n defnyddio gwirfoddolwyr ar hyn o bryd ac sydd, er enghraifft,
wedi sicrhau bod gwasanaethau megis ysgolion yn ymwybodol o'r camau gwirio cyn
cyflogi.
Gofynnodd yr Aelodau am ddealltwriaeth well o rai o
fanylion manylach y polisi a'r hyn y gellid ei gyflawni. Eglurwyd y byddai'r
gwasanaethau eu hunain yn llunio rhestr o gyfleoedd gwirfoddoli ac yn eu
hysbysebu, gan wahodd pobl i gyflwyno eu hunain i ymgymryd â rôl benodol; cyn i
aelod o staff benderfynu gwirfoddoli, dylai drafod y rôl gyda'i Reolwr Llinell
i sicrhau nad oes unrhyw wrthdaro buddiannau. Dywedodd swyddogion na fyddai
rolau gwirfoddoli yn cael gwared ar gyflogaeth â thâl ac y byddent yn ategol i
wasanaethau craidd y Cyngor; ni fyddai gwirfoddolwr yn ymgymryd â gwaith
gweithiwr cyflogedig.
Yn ogystal â'r uchod, amlygwyd bod y Cyngor eisoes
yn defnyddio llawer o wirfoddolwyr ar draws gwasanaethau megis ysgolion,
parciau a theatrau; fodd bynnag, gobeithio y byddai'r polisi yn cynyddu'r
cyfleoedd ac yn darparu fframwaith er mwyn gallu rhoi cyhoeddusrwydd i'r
cyfleoedd hynny. Cadarnhaodd swyddogion ei fod yn ffordd ddefnyddiol i bobl
ennill profiad a mynd ymlaen i gael swydd, neu ei fod ar gyfer y rheini sydd am
helpu yn unig.
Holodd yr Aelodau am y trefniadau ymarferol o ran
monitro a hyfforddi'r gwirfoddolwyr, a chyfeiriwyd at y defnydd o'r polisi hwn
ar gyfer y rheini a oedd mewn perygl o golli swydd. Dywedwyd na fyddai
gwirfoddolwyr yn cael eu gadael heb oruchwyliaeth yn unrhyw un o'r
gweithleoedd, yn enwedig y rheini sy'n ymwneud â'r gwasanaethau plant neu
oedolion; byddai swyddog cyflogedig yn gweithio ochr yn ochr â nhw bob amser.
Dywedodd swyddogion, mewn amgylchiadau lle'r oedd rhywun mewn perygl o golli ei
gyflogaeth, byddent yn defnyddio ffyrdd eraill i'w gefnogi i ddod o hyd i
gyflogaeth amgen yn bennaf; fodd bynnag, gallai fod yn rhywbeth i'w ddefnyddio
ochr yn ochr â llwybrau eraill, er enghraifft er mwyn helpu rhywun i ennill
sgiliau newydd a defnyddiol.
Rhoddwyd mwy o eglurder ynghylch gwiriadau'r
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) a thalu am y gwiriadau hyn. Cadarnhaodd
swyddogion fod gwiriadau GDG ar gyfer gwirfoddolwyr yn rhad ac am ddim; er bod
ffi weinyddol fach i brosesu'r GDG, sef tua £5 am bob gwirfoddolwr.
Cafwyd trafodaeth ynghylch mudiadau gwirfoddoli a
oedd eisoes yn bodoli ar draws y Fwrdeistref Sirol; holodd yr Aelodau am yr
aliniad rhwng y sefydliadau hyn a'r Polisi Gwirfoddoli. Eglurodd swyddogion fod
y Polisi Gwirfoddoli yn benodol ar gyfer pobl a fyddai'n gwirfoddoli'n
uniongyrchol gyda'r Cyngor ac nid trwy'r sefydliadau gwirfoddoli presennol.
Nodwyd bod sefydliadau megis Cyfeillion Parc Margam yn debygol o fod â'u
trefniadau eu hunain ar waith ar gyfer aelodaeth. Soniwyd y byddai sefydlu
Polisi Gwirfoddoli yn rhoi mwy o bwyslais ar rôl rheolwyr gwirfoddolwyr; a
sicrhau y cydymffurfir â gwiriadau recriwtio diogel, er enghraifft.
Amlygodd yr Aelodau fod rhai o'r sefydliadau
gwirfoddoli allanol yn cefnogi gwasanaethau'r Cyngor ar hyn o bryd. Gofynnwyd a
fyddai'r sefydliadau hyn wedi'u heithrio rhag cofrestru ar gyfer y cynllun pe
bai ond yn berthnasol i'r rheini a oedd yn gwirfoddoli'n uniongyrchol gyda'r
Cyngor. Eglurodd swyddogion nad oedd y Polisi Gwirfoddoli yn gynllun yr oedd yn
rhaid i bobl a/neu grwpiau gofrestru ar ei gyfer - yn hytrach roedd yn arfer
safonol. Nodwyd bod sefydliadau gwirfoddoli eisoes wedi rhoi trefniadau ar waith
mwy na thebyg, a oedd yn debyg i drefniadau’r Polisi Gwirfoddoli; awgrymodd
swyddogion y gallent argymell manylion y polisi i'r sefydliadau gwirfoddoli
perthnasol.
Gofynnodd y Pwyllgor i sefydliadau sefydledig gael
eu hysbysu am y polisi hwn er mwyn cynyddu cwmpas a chyfleoedd; a galluogi
aelodau o'r sefydliadau i wirfoddoli os oeddent yn dymuno gwneud hynny.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo rhoi Polisi Gwirfoddoli ar waith, fel y
manylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.