Cofnodion:
Dywedodd David Griffiths, Pennaeth Peirianneg a
Thrafnidiaeth wrth aelodau ei fod yn adolygiad lefel uchel cynnar o gapasiti'r
meysydd parcio ac mae wedi cael ei gyflwyno oherwydd ymholiadau y mae'r Cyngor
yn ymdrin â nhw mewn modd strategol. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod Signal
Capital wedi cyflwyno cynnig i'r awdurdod ynghylch rheoli maes parcio Aml-lawr
Port Talbot.
Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod angen buddsoddiad cyfalaf
sylweddol gwerth o leiaf £2.5 miliwn ar y maes parcio yn y tymor byr a'r tymor
canolig ac roedd yr argymhellion yn gofyn am ganiatâd i swyddogion ddechrau
trafodaethau pellach gyda Signal Capital ynghylch rheoli'r maes parcio.
Esboniodd swyddogion fod maes parcio Sgwâr Bethany, maes
parcio Stryd Rosser a Maes Parcio Ffordd Osgoi Pontardawe wedi cael eu
hystyried i gefnogi'r Cynllun Datblygu Lleol ac mae ganddynt botensial fel
safleoedd datblygu tai at ddibenion adfywio. Byddai'r meysydd parcio hyn yn
cael eu cadw nes y bydd cyfleoedd yn cael eu cyflwyno at ddibenion tai newydd
neu adfywio gyda gwaith arolygu manwl yn cael ei wneud ar y pwynt hwnnw.
Nid oedd gan yr aelodau unrhyw gwestiynau a oedd yn ymwneud
â maes parcio Stryd Rosser.
Mewn perthynas â maes parcio Heol Milland (Castell-nedd),
gofynnodd yr aelodau a oedd y swm a dalwyd gan ffair Castell-nedd a gynhelir
adeg y Pasg ac yn yr Haf yn cael ei ystyried yn yr incwm ar gyfer y maes
parcio.
Esboniodd swyddogion nad yw'r gwasanaeth parcio yn derbyn
unrhyw incwm o ffair Castell-nedd ond mae'r cyngor a National Rail yn sicrhau
bod y maes parcio ar gael i'r ffair gael ei chynnal. Mae cyfrifwyr a swyddogion
eiddo sy'n rheoli'r ffair wedi cadarnhau bod cost wirioneddol i'r awdurdod ac
roedd yr awdurdod wedi rhoi cymhorthdal i bob pwrpas y llynedd, sef cyfanswm o
£42,340.
Cafodd yr aelodau eu synnu gan y gost i'r cyngor ac roeddent
yn meddwl y byddai'r cyngor yn gwneud arian o'r ffair.
Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod maes parcio Heol Milland
wedi'i rannu tua 50/50 gydag un rhan yn eiddo i Network Rail sy'n ei is-osod i
Trafnidiaeth Cymru fel rhan o'u portffolio rheilffyrdd. Mae'r rhan arall yn
eiddo i'r Arch Co. ac mae'r adran honno ar brydles i'r cyngor. Mae'r brydles
bron yn costio cymaint â'r incwm parcio y mae'n ei ennill a chyda chostau
cynnal a chadw ar ben hyn, mae'n arwain at golled net i'r cyfrif gweithredol
parcio.
Fodd bynnag, dywedwyd wrth yr aelodau fod y cyngor bellach
yn meddiannu maes parcio Network Rail hefyd, heb gymeradwyaeth ffurfiol gan
Network Rail. Dywedodd swyddogion fod yr adran ystadau'n gweithio ar resymoli'r
brydles honno ar hyn o bryd.
Esboniodd swyddogion mai'r awdurdod sy'n gyfrifol am
drwsio'r maes parcio a'r gwanwyn diwethaf, bu'n rhaid i'r pennaeth gwasanaeth
gael £75,000 o'r gyllideb gyfalaf i atgyweirio wal gynnal er mwyn i'r ffair
gael ei chynnal ym mis Medi.
Gofynnodd yr is-gadeirydd a oedd swyddogion yn gwybod faint
fyddai'r Arch Co. yn cynyddu'r rhent. Esboniodd swyddogion y disgwylir i'r
brydles yn Heol Milland ddod i ben ar ddiwedd mis Rhagfyr ac mae ffigyrau
dangosol yr Arch Co. ddwywaith y gost bresennol a gallent fod cymaint â
£100,000. Byddai hyn yn golygu y byddai'r cyngor yn cymorthdalu'r maes parcio
pe bai hynny'n digwydd.
Esboniodd swyddogion y bydd y brydles yn trosglwyddo i'r
flwyddyn nesaf pan fydd yn dod i ben, felly bydd maes parcio Heol Milland ar
gael o hyd ar gyfer parcio yn ystod yr wythnos gyntaf ym mis Ionawr a bydd
swyddogion yr ystadau yn dechrau trafodaethau ynghylch hyn ond nid oes
penderfyniad i'w wneud nawr. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod yr argymhellion yn
yr adroddiad yn gofyn i'r awdurdod ddechrau trafodaethau cadarn ar y brydles.
Roedd swyddogion yn teimlo pe bai'r Arch Co. yn barod i
beidio â chynyddu cost y brydles, yna byddai hynny'n hwyluso'r broses o wneud
penderfyniadau. Os yw'r Arch Co. yn gorfodi'r mater ac yn cynyddu'r brydles yn
ormodol, yna bydd angen ystyriaeth ddifrifol.
Eglurodd swyddogion pe na bai'r cyngor yn prydlesu'r maes
parcio mwyach, byddai ar gael ar gyfer parcio ceir o hyd, ond gallai gael ei
reoli gan Arch Co. neu y gallai National Rail brynu'r maes parcio yn ôl gan
Arch Co. a'i redeg fel cyfleuster parcio eu hunain.
Gofynnodd yr aelodau a wnaeth y maes parcio golled o bron i
£20,000 yn 2022/23.
Cadarnhaodd swyddogion ei fod o ganlyniad i broblemau cynnal
a chadw, goleuadau aflwyddiannus a fandaliaeth i'r peiriannau talu ac
arddangos. Dywedodd swyddogion nad yw'n faes parcio sy'n hyfyw i'r cyngor gan
nad yw'r cyngor yn berchen ar hanner uchaf y maes parcio a dyna le mae'r holl
arian yn cael ei ennill. Mae hyn oherwydd nad oes rhaid i gwsmeriaid gerdded
mor bell i'r orsaf drenau trwy barcio yno.
Gofynnodd y cadeirydd pe bai'r cyngor yn gorffen prydlesu'r
darn mwy o dir, a allai gael ei ryddhau i'w ddatblygu? Gofynnodd y cadeirydd a
oes angen i'r cyngor ystyried gostyngiad cyffredinol yn nifer y lleoedd parcio
yng Nghastell-nedd fel rhan o'r cynnig hwnnw.
Esboniodd swyddogion fod gofyniad ar National Rail a
Trafnidiaeth Cymru i gael digon o leoedd parcio ym maes parcio Heol Milland a'u
bwriad yw parhau i'w gynnal fel maes parcio.
Dywedodd swyddogion fod rhan o'r trafodaethau ehangach yn
gysylltiedig â'r ganolfan drafnidiaeth, lle byddai'n rhaid i'r cyngor hefyd
ddarparu rhywfaint o leoedd parcio ychwanegol. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau y
byddai Heol Milland gyfan yn cael ei chadw fel maes parcio i bob pwrpas er bod
potensial i Arch Co. ryddhau eu tir i'w ddatblygu, ond mae gan National Rail
hawliau mynediad dros dir Arch Co.
Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod maes parcio Heol Milland yn
rhan o orlifdir sy'n golygu bod cyfyngiadau o ran pa ddatblygiadau allai
ddigwydd yno ac mae'n annhebygol iawn y byddai datblygiad adeiladau'n cael ei
gymeradwyo.
Trafododd yr aelodau Maes Parcio Aml-lawr Port Talbot a
nodwyd eu bod yn teimlo bod y cynnig gan y swyddogion yn annoeth, gan ystyried
bod y cyngor wedi derbyn £15,000,000 o'r Gronfa Ffyniant Bro ar gyfer Theatr y
Dywysoges Frenhinol yn y Ganolfan Ddinesig. Roedd yr aelodau o'r farn bod y
gallu i barcio wrth ymweld â'r theatr yn hanfodol a'u bod yn pryderu am
ddechrau trafodaethau gyda chwmni preifat oherwydd gall hyn arwain at yr
awdurdod yn colli rheolaeth dros y parcio.
Dywedodd yr Aelodau fod awgrym wedi'i wneud mewn seminar
ddiweddar am y Gronfa Ffyniant Bro i ddefnyddio rhywfaint o'r cyllid hwn i
wella maes parcio'r Ganolfan Ddinesig trwy ei wneud yn faes parcio dwy lefel o
bosib. Dywedodd yr aelod fod y dirprwy arweinydd wedi dweud na i'r awgrym hwn.
Roedd yr aelodau'n poeni y gallai unrhyw barcio hyfyw o amgylch y ganolfan
ddinesig ddiflannu, yn enwedig gydag ardal Sgwâr Bethany'n cael ei ddatblygu.
Roedd yr aelodau'n pryderu y gallai cwmni preifat dreblu
pris parcio neu is-osod i gwmni rheoli parcio arall a allai gyflwyno dirwyon
mawr os bydd rhywun yn derbyn cosb barcio. Roedd ganddynt bryderon hefyd y
gallent gau'r maes parcio am 5pm.
Roedd yr Aelodau'n poeni pe bai cwmni preifat yn cael
trafferth wrth wneud arian ym Maes Parcio Aml-lawr Port Talbot, yna byddent yn
ei ddychwelyd i'r cyngor, gan gynyddu'r gost i'r cyngor wrth iddynt geisio
sicrhau bod cyfleusterau'r maes parcio o'r radd flaenaf ar ddiwedd y brydles.
Roedd swyddogion yn deall pryderon yr aelodau ond esboniwyd
nad yw'r cynnig wedi dod gan swyddogion, mae Signal Capital wedi mynd at yr
awdurdod a'r Prif Weithredwr. Gofynnwyd i'r swyddogion ystyried yr opsiwn.
Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod angen gwneud gwaith
sylweddol i wella Maes Parcio Aml-lawr Port Talbot, ac mae cyfalaf yn dod yn
bwysau sylweddol yn yr awdurdod gyda'r ôl-groniad sylweddol o waith yn yr
adrannau eiddo a phriffyrdd yn ogystal â chyllid cyfatebol ar gyfer dyheadau
adfywio'r cyngor.
Esboniodd swyddogion fod arian y Gronfa Ffyniant Bro yn
rhagnodol iawn o ran sut y gellir ei ddefnyddio a'r ffaith bod y cyllid ar gael
ar gyfer yr adeilad yn unig ac nid yr isadeiledd ategol o amgylch y safle.
Nododd swyddogion y bydd y Tîm Ystadau'n trafod prydles a dywedwyd wrthynt fod
Signal Capital yn chwilio am brydles hirdymor 25 o flynyddoedd ar y sail y
byddai ei hangen arnynt dros gyfnod sylweddol fel y gallent fuddsoddi yn yr
adeilad a gwella'i safon. Mae Signal Capital wedi bod yn ymgymryd â rhai costau
manwl ynghylch y rhaglen fuddsoddi honno.
Rhoddwyd gwybod i'r aelodau mai model busnes Signal Capital
yw gwneud y maes parcio yn rhad ac am ddim i ddefnyddwyr ac os bydd nifer yr
ymwelwyr yn cynyddu, yna byddent yn cynyddu'r gost rhent i bob deiliad uned
sy'n gweithredu o fewn y ganolfan siopa ei hun. Byddai'r cwmni'n elwa o gymryd
rheolaeth o'r maes parcio aml-lawr er mwyn cynyddu nifer yr ymwelwyr yng
nghanol y dref.
Nododd swyddogion ei fod yn fodel gwahanol i'r ffordd y
mae'r cyngor yn gweithredu meysydd parcio yn y fwrdeistref sirol.
Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod gan Signal Capital
gynlluniau sy'n golygu y byddent am gadw'r meysydd parcio ar agor yn hwyrach
gyda'r nos. Maen nhw hefyd wedi dweud y byddent yn parhau i sicrhau bod y maes
parcio ar gael i staff Canolfan Ddinesig y Cyngor a bod y trefniadau sydd ar
waith nawr yn parhau. Byddai hyn hefyd yn golygu y byddai defnyddwyr y theatr
yn gallu parcio yno oherwydd y byddent yn ei chadw ar agor tan o leiaf 11.00pm
neu 11.30pm.
Esboniodd swyddogion y byddai angen iddynt nawr trafod
manylion y trefniant a byddai angen iddynt gytuno ar delerau ynghylch y
buddsoddiad, hyd y brydles, yr oriau gweithredol a'r trefniadau parcio ar gyfer
staff a defnyddwyr y theatr hefyd.
Dywedodd swyddogion y byddai'n dod yn ôl at yr aelodau wedyn
er mwyn iddynt benderfynu a ydynt am ddilyn y llwybr hwnnw neu a fyddai'n well
gan aelodau gadw perchnogaeth ohono, er, byddai hynny'n gofyn am rywfaint o
fuddsoddiad cyfalaf a'r gallu i sicrhau grantiau o fannau eraill i gefnogi
adnewyddu ffabrig yr adeilad.
Roedd yr aelodau'n poeni ei fod yn annhebygol y gallai cwmni
wneud elw heb godi tâl am barcio os nad oedd y cyngor wedi gallu gwneud elw
wrth godi tâl.
Awgrymodd yr aelodau y dylai'r awdurdod gymryd arian o'r
rhaglen gyfalaf i wella'r maes parcio a dylai'r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr o
ganlyniad i brosiect y Gronfa Ffyniant Bro olygu y byddai'r maes parcio'n
niwtral o ran cost.
Dywedodd yr aelodau a oedd wedi siarad â rheolwr y ganolfan
siopa ei fod wedi awgrymu y dylai Signal Capital, sy'n berchen ar y ganolfan
siopa, fod yn gyfrifol am reoli'r maes parcio aml-lawr gan nad oeddent yn hapus
gyda chyflwr y maes parcio na'r gwasanaethau yr oeddent yn eu derbyn. Teimlai'r
aelodau y dylai'r cyngor ddechrau trafodaethau os ydynt yn ffafriol, a byddai'n
gam mwy cadarnhaol.
Nododd yr Aelodau fod Signal Capital yn rheoli'r ganolfan
siopa sy'n gysylltiedig â'r maes parcio, ac efallai y byddant yn gallu ei
rheoli'n well na'r awdurdod gan eu bod yn ymwybodol o'r anghenion a'r galw yn
well na'r cyngor.
Dywedodd swyddogion fod Signal Capital yn rheoli meysydd
parcio ar draws y wlad ac mae ganddynt fodel busnes sydd wedi cael ei brofi.
Rhoddwyd gwybod i'r aelodau y bydd y cwmni'n dechrau trafodaethau â'u llygaid
ar agor ac roeddent yn annhebygol o ymrwymo i rywbeth fel gorfod uwchraddio'r
adeilad fel rhan o'r cytundeb prydles os nad oeddent yn credu ei fod yn gynnig
difrifol.
Teimlai'r swyddogion fod angen i'r materion hyn ddod i'r
amlwg yn y trafodaethau manwl gyda'r tîm ystadau a bydd y manylion ynghylch hyn
yn cael eu hailgyflwyno i'r aelodau cyn iddynt wneud unrhyw benderfyniad ar y
mater.
Nododd y Cynghorydd Hurley, Aelod y Cabinet dros Newid yn yr
Hinsawdd a Thwf Economaidd, fod model busnes y cwmni yn golygu y byddai'n
wrthgynhyrchiol iddynt gynyddu taliadau a gwthio pobl i ffwrdd o'r busnesau y
maent yn ceisio eu cefnogi, ac roedd ganddo ffydd eu bod yn gwybod beth oeddent
yn ei wneud. Nododd eu bod am gynyddu nifer yr ymwelwyr a byddai hyn o fudd i'r
dref gyfan.
Dywedodd Aelod y Cabinet hefyd, mewn perthynas â'r gwaith
cynnal a chadw yn y dyfodol, ei fod yn hyderus bod y tîm ystadau'n brofiadol
iawn o ran rhoi amodau mewn prydlesi fel y gall y cyngor sicrhau y bydd y
gwaith yr oeddent wedi addo'i wneud yn cael ei wneud.
Dywedodd Aelod y Cabinet hefyd wrth aelodau fod yn rhaid i'r
cyngor ystyried rhesymoli asedau a'r gwaith cynnal a chadw cysylltiedig yn y
dyfodol. Dywedodd fod aelodau'n gwybod bod angen i'r awdurdod arbed arian ac os
bydd rhywun yn cynnig cymryd cyfrifoldeb dros yr asedau hynny a'u gwella ac o
bosib gwella'r gwasanaeth y mae preswylwyr yn ei dderbyn, yna mae angen i'r
cyngor ystyried y cynlluniau hynny o ddifrif.
Teimlai'r cadeirydd fod angen cynnwys sicrwydd ynghylch yr
oriau agor gyda'r nos a buddsoddiad cyfalaf mewn cytundeb tynn i sicrhau eu bod
yn digwydd ac er mwyn atal trosglwyddo'r maes parcio yn ôl i'r cyngor gydag
ôl-groniad mawr o waith cynnal a chadw.
Teimlai'r cadeirydd pe bai'r adroddiad yn cael ei
ailgyflwyno, os yw aelodau'r Cabinet yn bwriadu parhau â'r trafodaethau, yna
mae'n debyg y byddai aelodau'r pwyllgor craffu am weld y manylion llawn a'r
sicrwydd dros y materion gweithredol hynny.
Gofynnodd y cadeirydd am ddadansoddiad o'r effaith ar incwm
meysydd parcio eraill y cyngor oherwydd pe bai ffioedd yn cael eu gostwng ym
maes parcio aml-lawr Port Talbot byddai'n effeithio ar incwm meysydd parcio
eraill yng nghanol y dref.
Teimlai'r cadeirydd y dylai'r cyngor geisio rhagweld
rywfaint o newid yn nifer yr ymwelwyr os yw'n bosib.
Dywedodd swyddogion eu bod wedi tynnu sylw at hynny fel
ffactor risg yn yr adroddiad ond o brofiad, mae pobl yn parcio mor agos ag y
gallant at y siopau ac maent annhebygol o gerdded o faes parcio Heol yr Orsaf
at y ganolfan siopa ac yn ôl yn y glaw neu wrth gario nwyddau er mwyn arbed
ychydig bunnoedd.
Defnyddiodd swyddogion enghraifft Pontardawe lle nad oes gan
y cyhoedd ddiddordeb mewn parcio ym maes parcio'r ffordd osgoi a phrin yw'r
defnydd ohono oherwydd mae pobl yn parcio ar y brif ffordd wrth ymyl y siopau.
Dywedodd swyddogion y byddai'n anodd iawn rhoi data i'r
aelodau ar yr hyn y byddai'r cyngor yn ei golli ond gallant roi data i'r
aelodau ar yr arian y mae'r meysydd parcio yn ei gymryd. Byddai'n anodd iawn
gweithio allan pwy sydd ddim yn mynd i barcio yn y maes parcio arall.
Rhoddwyd gwybod i aelodau bod llawer o fusnesau ar Heol yr
Orsaf yn prynu tocynnau tymor gan y cyngor gan eu bod am barcio'n agos at eu
hadeiladau. Maent yn annhebygol o fod eisiau parcio ym maes parcio aml-lawr
Port Talbot.
Esboniodd swyddogion fod maes parcio Heol yr Orsaf yn
gweithredu fel maes parcio gorlif ar gyfer yr orsaf reilffordd gyda llawer o
bobl yn parcio yno i ddal y trên, er bod maes parcio yn yr orsaf reilffordd,
felly maent hefyd yn annhebygol o barcio ym maes parcio aml-lawr Port Talbot a
cherdded i'r orsaf drenau.
Teimlai'r Cynghorydd Steve Hunt, Arweinydd y Cyngor, ei fod
yn bwysig bod yn agored ac yn dryloyw a chytunodd â rhai o'r pwyntiau a godwyd.
Atgoffodd yr Arweinydd yr aelodau i fod yn ymwybodol o effaith colli swyddi
Tata Steel a'r pryderon o ran yr economi, nid yn unig yn y ganolfan siopa, ond
y cymunedau ehangach ar draws Port Talbot.
Dywedodd yr arweinydd mai'r cwmni yw perchnogion y ganolfan
siopa, ac er eu budd nhw dylent sicrhau eu bod yn denu busnesau newydd gan fod
sawl uned wag ac nad yw pethau'n mynd yn haws.
Teimlai'r arweinydd y bydd o fudd i fusnesau a masnachwyr
Port Talbot, ond mae'n bwysig bod yr awdurdod yn sicrhau bod pob aelod o'r
cyngor yn cymryd rhan yn y broses ac nid y pwyllgor craffu'n unig. Roedd yn
teimlo ei fod yn bwysig bod gan aelodau'r wybodaeth y mae ei hangen arnynt i
wneud penderfyniadau ac i fynegi eu barn ynghylch yr hyn y maent yn teimlo sy'n
iawn neu'n anghywir ac i bawb ddeall canlyniadau penderfyniadau.
Dywedodd yr arweinydd fod yr awdurdod yn mynd i fod yn
destun ymgynghoriad cyllidebol, ac mae pob pwyllgor craffu'n gweld bod heriau
ac arbedion y mae'n rhaid eu gwneud a chostau i'r awdurdod eu bod yn ceisio'u
lliniaru hefyd. Esboniodd yr arweinydd fod adroddiadau swyddogion yn dechrau'r
sgwrs ac yna caiff y canlyniadau yn eu hailgyflwyno i'r aelodau.
Teimlai'r arweinydd ei fod yn bwysig bod aelodau'n ei
gefnogi ar hyn o bryd ac ni fyddai cau'r drws ar drafodaethau'n penderfyniad
doeth.
Tynnodd yr aelodau sylw at y ffaith bod y maes parcio yn y
sinema ym Mhort Talbot yn enghraifft o'r sector preifat yn methu â rheoli
meysydd parcio'n dda.
Gofynnodd Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thwf
Economaidd i'r aelod a allent ddarparu'r wybodaeth i'r pwyllgor craffu a'r
Cabinet am y problemau a'r profiadau gyda'r maes parcio preifat yn y sinema neu
a allai swyddogion roi adborth fel y gallant ystyried yn llawn sut y gallai
meysydd parcio preifat gael eu heffeithio.
Dywedodd yr aelod y gallent roi tystiolaeth i Aelod y
Cabinet o fynd i'r llys ynadon ar ran trigolion lle anfonodd y cwmni parcio dîm
o gyfreithwyr o Fanceinion i erlyn dynes a oedd 3 munud dros yr amser parcio
penodedig. Cynigiodd yr aelod e-bostio'r manylion hwnnw a rhoi aelodau'r
cabinet mewn cysylltiad â'r preswylydd. Dywedodd yr aelod fod trigolion yn
parhau i gael eu herlyn yn y maes parcio hwnnw ac nad yw am i'r cyngor fod yn
gysylltiedig â chwmnïau tebyg.
Dywedodd swyddogion fod y manylion yn y cytundeb prydles yn
hanfodol ac mae angen i'r cyngor fod yn gwbl dryloyw o ran hynny. Dywedodd
swyddogion, os nad yw'n bodloni pryderon yr aelodau, yna gall swyddogion ymdrin
â hynny yn y dyfodol a gan ei fod yn benderfyniad mor bwysig, efallai y bydd y
cyngor yn gofyn i'r cwmni ddod i mewn i'r siambr i gyflwyno eu model busnes ar
sut y byddent yn gweithredu os ydynt yn awyddus i gymryd cyfrifoldeb am yr
adeilad. Byddai hyn yn caniatáu i aelodau ofyn y cwestiynau hynny iddynt yn
uniongyrchol cyn gwneud penderfyniad ar y mater.
Nid oedd gan yr aelodau gwestiynau am faes parcio Sgwâr
Bethany ym Mhort Talbot.
Dywedodd yr aelodau eu bod yn gobeithio bod pob maes parcio
yng Nghastell-nedd Port Talbot yn gysylltiedig â'r holl brosiectau eraill sy'n
digwydd. Roedd aelodau'n teimlo pan fydd yr awdurdod yn ceisio adfywio canol
trefi y dylid trafod pob agwedd ar bolisïau ac adroddiadau fel bod sgyrsiau'n
cysylltiedig ac nid ydynt am i'r cyngor ymddangos ei fod yn gwneud
penderfyniadau gwrthgyferbyniol yng ngolwg y cyhoedd.
Rhoddodd yr aelodau enghraifft o wella'r ganolfan
gelfyddydau ym Mhontardawe, ond yna tynnu'r cyfleusterau parcio oddi arni.
Roedd yr Aelodau'n sicr y bydd gan y swyddogion a'r cyngor drosolwg da o bopeth
sy'n cael ei wneud drwy'r amser i sicrhau bod sgyrsiau cysylltiedig yn digwydd
rhwng yr holl benderfyniadau.
Cytunodd swyddogion na ddylai'r cyngor gael gwared ar y maes
parcio ac mae angen ystyried y buddsoddiadau a'r gwelliannau eraill sy'n cael
eu gwneud yng nghanol y dref ac yn enwedig yn y ganolfan gelfyddydau ar hyn o
bryd. Nid yw swyddogion yn gwybod sut y bydd hynny'n effeithio ar faes parcio
Pontardawe, ond ni fyddent yn cael gwared arno nes i ddatblygwr gyflwyno'i
hunain a hyd yn oed wedyn ddim ond pe bai'r aelodau'n fodlon nad oedd galw am y
maes parcio hwnnw.
Dywedodd swyddogion y byddent yn ei fonitro ac y bydd yn
rhaid iddynt wneud arolygon manwl ar gael gwared ar unrhyw faes parcio yn y
fwrdeistref.
Mae swyddogion yn gwybod bod maes parcio'r ffordd osgoi yn
colli arian sy'n peri pryder, gan fod gan Bontardawe ganol tref fach mae angen
ei gadw'n gynaliadwy ac nad yw swyddogion am wneud rhywbeth sy'n mynd i gael
effaith negyddol ar y ganolfan gelfyddydau a'r cyfleusterau yno. Gobaith
swyddogion yw y bydd adfywio'r Ganolfan Gelfyddydau'n denu rhagor o ymwelwyr,
ond ar hyn o bryd mae'n colli arian a does neb yn parcio yno. Os yw'r Ganolfan
Gelfyddydau'n cynyddu nifer yr ymwelwyr, gallai'r arolygon galwedigaethol
ddangos y bydd angen i'r cyngor gadw'r maes parcio hwnnw.
Atgoffodd swyddogion yr aelodau nad ydynt yn gofyn am
benderfyniad yn yr adroddiad hwn ar faes parcio'r ffordd osgoi ym Mhontardawe
ac maent yn tynnu sylw at y ffaith ei fod yn rhywbeth y mae angen i'r cyngor ei
ystyried ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd yr aelodau mai'r unig adeg lle byddant yn defnyddio
maes parcio'r ffordd osgoi yw pan fyddant yn mynd i Ganolfan y Celfyddydau a'r
unig amser y maent yn ei weld yn cael ei ddefnyddio gyda'r nos yw pan fydd
digwyddiadau yn y Ganolfan Gelfyddydau. Nododd yr Aelodau ei bod yn arbennig o
anodd ei fesur oherwydd ei fod yn rhad ac am ddim i barcio adeg hynny, a dyna
pam y mae pobl yn ei ddefnyddio mae'n debyg.
Dywedodd yr Aelodau ei fod yn dangos bod galw amdano er nad
yw'n ddefnyddiol o ran cynhyrchu incwm.
Awgrymodd yr aelodau eu bod yn helpu i arolygu'r defnydd o'r
maes parcio, efallai y bydd swyddogion yn gallu defnyddio rhestr bostio'r
Ganolfan Gelfyddydau i ofyn i'r cwsmeriaid ble maent yn dueddol o barcio pan
fyddant yn dod i Bontardawe. Teimlai'r aelodau y byddai'n ffordd rad o sefydlu
rhai tueddiadau o ran ble mae pobl yn parcio.
Nododd yr aelodau fod niferoedd incwm ar gyfer y meysydd
parcio ond nid niferoedd tocynnau. Er mwyn edrych ar gapasiti'r meysydd parcio,
roedd angen data gwell gan gynnwys data mwy manwl gan nad yw'n ddigon i wybod
am y ddeiliadaeth gyfartalog am ychydig ddyddiau'n unig.
Dywedodd yr Aelodau fod angen iddynt wybod am y dyddiau yn y
flwyddyn lle mae'r cyngor bron iawn wedi cyrraedd ei gapasiti i sicrhau bod yr
awdurdod yn gallu bodloni hynny. Gofynnodd yr Aelodau am sicrwydd y bydd gwaith
yn cael ei wneud i wella'r data y mae aelodau'n seilio'r penderfyniadau hyn
arno.
Cytunodd swyddogion a dywedwyd, yn ddelfrydol, y dylai bod
ganddynt ddyfeisiau cyfri defnyddwyr ym mhob cilfach a maes parcio. Fe
wnaethant edrych ar gael dyfeisiau cyfri defnyddwyr ym maes parcio aml-lawr
Castell-nedd, ond roedd yn rhy ddrud. O ran Pontardawe, byddai swyddogion yn
cynnal arolygon manwl, a byddent yn ei wneud 3-4 gwaith y dydd dros saith
niwrnod yr wythnos i nodi'r gwahaniaeth rhwng nosweithiau lle cynhaliwyd sioeau
a nosweithiau lle na chynhaliwyd sioeau.
Esboniodd swyddogion pam ei fod yn anodd cael data manwl ar
gyfer maes parcio aml-lawr Castell-nedd. Dywedwyd bod data ar gael pan fydd
cwsmeriaid yn talu am barcio gan ddefnyddio'r peiriant neu wrth dalu gan
ddefnyddio'r ffôn, fodd bynnag, roedd hynny'n dweud wrth swyddogion faint o
bobl sy'n talu i barcio ond nad yw'n cyfleu'r nifer sy'n defnyddio'r maes
parcio. Mae hyn oherwydd nad yw'r holl staff ac aelodau sy'n parcio yno'n cael
eu nodi gan nad ydynt yn talu i barcio. Mae'r sefyllfa'n debyg yn y ganolfan
hamdden gan nad ydy defnyddwyr y ganolfan hamdden yn talu oherwydd cytundeb
gyda Hamdden Celtic.
Esboniodd swyddogion y gallai edrych fel bod llawer o geir
yno, ond ni fydd y ffigurau incwm a nifer y tocynnau a werthir yn agos at nifer
y bobl sy'n defnyddio'r maes parcio.
Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau mai'r unig ffordd o gael darlun
cywir o'r defnydd o'r maes parcio yw gwneud arolwg manwl neu ddefnyddio
dyfeisiau i gyfri nifer y defnyddwyr.
Gofynnodd yr aelodau a yw'r wardeniaid parcio yn cadw cofnod
o faint o geir sydd wedi parcio. Dywedodd swyddogion eu bod yn chwilio am
gerbydau sy'n parcio'n anghyfreithlon yn unig. Gall swyddogion ofyn i
wardeiniaid gyfri ceir sydd wedi'u parcio fesul maes parcio os oeddent am gael
y data hwnnw ar gyfer meysydd parcio wrth edrych ar gael gwared arnynt er mwyn
cael darlun fwy clir.
Esboniodd swyddogion, er nad ydynt yn bwriadu gwneud unrhyw
beth gyda maes parcio aml-lawr Castell-nedd, nodwyd nad yw erioed wedi bod yn
llawn ers iddo gael ei adeiladu ac er ei fod yn edrych yn brysurach nag y bu
erioed, mae hynny oherwydd mae staff wedi dychwelyd i weithio yng Nghanolfan
Ddinesig Castell-nedd ar ôl COVID-19 ac o ganlyniad i boblogrwydd y ganolfan
hamdden ond nid yw'r bobl hynny'n talu i barcio.
Esboniodd swyddogion fod ffair Castell-nedd a'r ŵyl
fwyd a gemau criced yn golygu bod y parc yn fwy prysur. Maen nhw'n rhagweld pan
ddaw rygbi'r gynghrair i'r Gnoll y bydd hynny hefyd yn cynyddu nifer yr
ymwelwyr, ond y digwyddiadau yma yw'r unig adegau lle mae incwm yn cynyddu.
Teimlai'r aelodau, pe bai'r warden yn gwirio i weld a oes
gan gerbydau heb docynnau drwydded ar ddiwedd eu rownd ac yn cyfuno'r ffigur
hwn â nifer y ceir sydd wedi parcio, byddai'n rhoi ffigwr sylfaenol ar gyfer y
ganran fras o geir sydd â thrwyddedau a faint sydd heb. Roedd yr aelodau o'r
farn y gellid defnyddio hyn ynghyd â phethau eraill i roi gwell syniad o nifer
y bobl sy'n defnyddio'r maes parcio.
Dywedodd y cadeirydd ei fod wedi gweld y maes parcio'n llawn
yn ystod yr wythnos a'i fod wedi gorfod parcio ar lefelau uwch gan fod y maes
parcio mor llawn ond nododd fod nifer y bobl sy'n gweithio yn y swyddfa ar
ddiwrnod penodol yn gallu effeithio ar nifer y bobl sy'n defnyddio'r maes
parcio. Teimlai'r cadeirydd fod aelodau wedi derbyn gwybodaeth wahanol rhwng y
data a oedd yn yr adroddiad a'u profiad fel aelodau.
O ran data deiliadaeth, teimlai'r aelodau fod angen edrych
ar ei gasglu mewn ffordd fwy cadarn. Gofynnodd yr Aelodau a ellid defnyddio
rhywfaint o'r dechnoleg y mae timau priffyrdd yn ei defnyddio i gyfri cerbydau
wrth y fynedfa i gyfri'r cerbydau sy'n dod i mewn ac allan gan ddefnyddio
dolenni. Byddai hyn hefyd yn golygu na fyddai angen i unrhyw staff fod yno am
8pm neu 9pm.
Cytunodd swyddogion y gallent wneud hyn ond mae cost yn
gysylltiedig â hynny, fel yr adnodd o fynd â'r swyddog gorfodi allan i gyfrif
pob cilfach parcio a mesur pob llawr. Fel arfer, ni fyddai swyddogion yn edrych
ar y cilfachau gwag.
Mae swyddogion wedi gofyn i dîm yr arolwg rheoli rhwydwaith
wneud arolygon, ond mae'n gostus, ac maent yn teimlo y byddai angen iddynt
edrych ar gyflogi cwmni arbenigol i osod dyfeisiau cyfri. Esboniodd swyddogion
y byddai angen iddynt sgwrsio gyda'r cwmnïau hynny am y costau a pha ddata bydd
y dyfeisiau'n ei ddarparu o ran deiliadaeth.
Eglurodd swyddogion hefyd nad oes gan y gyllideb barcio
unrhyw arian ar hyn o bryd a'u bod yn ceisio rheoli'r gwariant a chydbwyso'r
gyllideb wrth symud ymlaen, mae hyn yn golygu bod pob darn o arian sy'n cael ei
wario'n rhoi pwysau ychwanegol ar y sefyllfa ariannol.
Rhoddodd y Cynghorydd Wyndham Griffiths, Aelod y Cabinet
dros Gynllunio Strategol, Trafnidiaeth a Chysylltedd, sicrwydd i aelodau eu bod
wedi cael trafodaethau am faes parcio'r ffordd osgoi, a byddant yn cynnal
astudiaethau manwl pan fydd y theatr yn agor unwaith eto a rhoddwyd sicrwydd i
aelodau y bydd hyn yn cael ei wneud.
Gofynnodd aelodau a yw'r un dechnoleg o roi gwifren ar draws
y ffyrdd i gyfri nifer y cerbydau sy'n gyrru drosti'n rhywbeth y gellid ei
ystyried fel opsiwn rhatach. Dywedodd swyddogion y byddent yn gofyn am hyn.
Dywedodd swyddogion eu bod wedi gwneud gwaith tebyg gyda
phresenoldeb wrth y ddesg o fewn adeiladau a dywedwyd y gellir defnyddio
deallusrwydd artiffisial i wneud y gwaith yn gywir yn ogystal â defnyddio'r
System Rhwydwaith Ardal Eang Pellter Hir, sef synwyryddion ar bob cilfach
parcio sy'n nodi pan fydd yn cael ei ddefnyddio ac yna'n cynhyrchu data. Mae'n
debygol y byddai'n costio swm o 6 ffigur i'w roi ar waith.
Ni fydd dulliau eraill fel anfon pobl o gwmpas i edrych o
bryd i'w gilydd neu gael dolenni ar gyfer ceir sy'n mynd i mewn ac allan mor
gywir.
Nododd Aelod y Cabinet y Cynghorydd Hurley fod rhan o Fargen
Ddinesig Bae Abertawe'n cynnwys cyd-gysylltu a'r Rhyngrwyd felly bydd yn siarad
â'r swyddogion i weld pa bosibiliadau sydd ar gael.
Roedd y cadeirydd yn teimlo bod hyn yn awgrym da.
Yn dilyn craffu, cefnogwyd argymhelliad 1 i fynd gerbron y
Cabinet.
Yn dilyn craffu, cefnogwyd argymhelliad 2 i fynd gerbron y
Cabinet.
Yn dilyn craffu, cyflwynwyd diwygiad mewn perthynas ag
argymhelliad 3. Cefnogwyd yr argymhelliad diwygiedig fel y nodir isod i fynd
gerbron y Cabinet.
Parhau i drafod a chytuno ar delerau gyda Signal Capital i
brydlesu maes parcio aml-lawr Port Talbot ac i ailgyflwyno adroddiad pellach
i'r cabinet ar gyfer penderfyniad terfynol. "Cynnwys cynlluniau buddsoddi
cyfalaf, oriau agor arfaethedig a'r effaith ar Feysydd Parcio Canol Tref Port
Talbot a gedwir gan y cyngor."
Yn dilyn craffu, cefnogwyd argymhelliad 4 i fynd gerbron y
Cabinet.
Yn dilyn craffu, cefnogwyd argymhelliad 5 i fynd gerbron y
Cabinet.
Yn dilyn craffu, argymhellodd a chymeradwyodd yr aelodau y
canlynol i'r Cabinet eu hystyried.
Mae swyddogion yn archwilio opsiynau ar gyfer casglu data
meddiannaeth i'w hadrodd yn ôl i'r pwyllgor craffu.
Dogfennau ategol: