Cofnodion:
Rhoddodd Pennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd gefndir i waith y grŵp gorchwyl a
gorffen fel y’i cynhwysir yn yr adroddiad yn y pecyn agenda. Cyfeiriwyd at y
cynllun gweithredu ar dudalen 110 o'r pecyn adroddiad. Cynigir y bydd y pwyllgor
yn cael gwybod am gynnydd bob hanner blwyddyn. Bydd polisïau a gweithdrefnau
gwahanol yn cael eu cyflwyno i'r pwyllgor neu'r bobl eraill sy'n gwneud
penderfyniadau ar wahanol adegau yn ystod y flwyddyn nesaf. Cadarnhawyd bod
hyblygrwydd yn y cynllun gweithredu ar gyfer ychwanegu materion newydd yn ôl yr
angen. Bydd y grŵp gorchwyl a gorffen yn parhau i fod yn weithredol er
mwyn trafod meysydd penodol cyn dod â hyn yn ôl i'r pwyllgor hwn i'w
gymeradwyo'n derfynol.
Ategodd yr aelodau fformat y cynllun gweithredu ac roeddent yn edrych ymlaen at
roi'r camau gweithredu a nodwyd ar waith.
Penderfyniad: Argymhellir bod:
1. Aelodau Pwyllgor y Gwasanaethau
Democrataidd yn cymeradwyo canlyniadau'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen sydd
wedi'u cynnwys yn Atodiad A.
2. Pwyllgor y Gwasanaethau
Democrataidd yn monitro'r cynllun gweithredu bob chwe mis er mwyn monitro
cynnydd a pherfformiad.
Dogfennau ategol: