Agenda item

Arolwg o Aelodau Etholedig 2024/2025

Cofnodion:

Darparodd swyddogion drosolwg cryno i'r aelodau o'r adroddiad a gynhwyswyd yn y pecyn agenda.


Gofynnodd yr Aelodau a gynhaliwyd arolwg y flwyddyn flaenorol ar sail un i un.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod yr arolwg wedi cael ei gynnal ar sail un i un dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf; roedd y dull hwn yn darparu data cyfoethocach gan aelodau. Yn seiliedig ar yr adborth a gafwyd, y gobaith yw y bydd gan yr aelodau hyder y gellir addasu a gwella gwasanaethau.

 

Gofynnodd yr aelodau am yr hyn a oedd wedi newid o ganlyniad i arolwg y llynedd.


Cadarnhaodd swyddogion fod yr adborth a dderbyniwyd wedi llywio'r rhaglen hyfforddi a datblygu. Yn flaenorol, roedd yr aelodau wedi gofyn am hyfforddiant craffu ar y gyllideb, sydd bellach wedi'i gynnwys yn y rhaglen hyfforddi. Mae canlyniadau'r arolwg yn cael eu hadrodd yn ôl i'r pwyllgor hwn er mwyn cwblhau'r argymhellion.


Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd wrth yr aelodau fod adborth o'r arolwg blynyddol blaenorol wedi arwain at ddatblygu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i edrych ar ymdrin ag aflonyddu, cam-drin a bygwth ar gyfer cynghorwyr. Mae'r arolwg yn gyfle dysgu er mwyn i swyddogion ac aelodau nodi meysydd i'w gwella. Anogwyd yr aelodau i hyrwyddo cymryd rhan yn yr arolwg hwn o fewn eu cyfarfodydd grŵp, a rhoi adborth gonest fel y gellir mynd i'r afael ag unrhyw faterion.

 

Penderfyniad:  Argymhellir bod yr aelodau'n cytuno:

(a) Bod arolwg blynyddol yn cael ei gynnal gyda'r holl aelodau etholedig rhwng Tachwedd 2024 ac Ionawr 2025.

(b) Bod cynnwys yr arolwg blynyddol yn seiliedig ar y drafft a atodir yn Atodiad 1.

(c) Bod yr arolwg yn cael ei gynnal ar sail 1:1 gan staff y Gwasanaethau Democrataidd.

 

Dogfennau ategol: