Cofnodion:
Dywedodd swyddogion
wrth yr aelodau fod cyfarfod arbennig posib wedi'i ychwanegu at y rhaglen waith
ar gyfer mis Rhagfyr mewn perthynas â'r gwaith sydd wedi’i gynllunio ar gyfer
Theatr y Dywysoges Frenhinol. Bydd y gwaith yn cael effaith sylweddol ar gyfleusterau'r
aelodau gan gynnwys mannau parcio i'r aelodau, argaeledd ystafelloedd
pwyllgorau, siambr y Cyngor a'r Ganolfan Ddinesig. Mae gan Bwyllgor y
Gwasanaethau Democrataidd gylch gwaith ar gyfer cyfleusterau aelodau a bydd y
pwyllgor yn cael ei gynnwys wrth gynllunio unrhyw fesurau lliniaru
angenrheidiol. Cadarnhaodd swyddogion fod trafodaethau'n parhau â chydweithwyr
yng Nghyfarwyddiaeth yr Amgylchedd, i nodi canlyniadau'r gwaith cynlluniedig;
gan nad yw llawer o ffactorau'n hysbys ar hyn o bryd, nid yw'n glir pa fesurau
lliniaru y gall fod eu hangen.
Cododd yr aelodau bryder y gallai'r gwaith rwystro aelodau rhag mynd i
gyfarfodydd a defnyddio cyfleusterau'n bersonol. Mae'n bwysig sicrhau bod
dewisiadau amgen priodol ar gael ar gyfer cyfarfodydd a gweithgareddau.
Cytunodd Pennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd fod hwn yn ystyriaeth allweddol a bod
angen sicrhau y nodir ystafelloedd/cyfleusterau eraill addas sy'n bodloni
gofynion cyfreithiol. Cynllun wrth gefn posib fyddai defnyddio'r ystafelloedd
cyflwyno a chynadledda ar y llawr gwaelod ar gyfer cyfarfodydd craffu gyda'r
siambr yn cael ei chadw ar gyfer cyfarfodydd llawn y Cyngor, gyda'r gwaith yn
peidio am barhad y cyfarfod. Y nod yw lleihau'r effaith ar fusnes y Cyngor
cymaint â phosib.
Gofynnodd yr aelodau
pryd y byddai'r pwyllgor yn cael y cyfle i fynegi barn ar y trefniadau craffu
newydd?
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a
Democrataidd wrth aelodau nad oedd yr adolygiad craffu wedi'i gynnwys eto ar
gyfer dyddiad penodol. Bydd cyfarfod gyda
chadeiryddion craffu ac is-gadeiryddion yn cael ei gynnal yn fuan i gasglu eu
barn. Mae potensial i ailedrych ar y system gydag Archwilio Cymru’n darparu
trosolwg annibynnol. Ymgynghorir â Phwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a bydd
yn rhan o'r prosesau adolygu. Efallai bydd angen cynnal cyfarfod arbennig os
oes angen gwahodd aelodau eraill y pwyllgor, er mwyn sicrhau bod y safbwyntiau
ehangaf yn cael eu cofnodi.
Nodwyd y
Flaenraglen Waith.
Dogfennau ategol: