Cofnodion:
Darparodd swyddogion
drosolwg cryno i'r aelodau o'r adroddiad a gynhwyswyd yn y pecyn agenda.
Gofynnodd yr Aelodau a oedd y broses yn un i'w chyflawni o fewn amser penodol.
Cadarnhaodd swyddogion
fod yr adolygiad yn broses flynyddol felly nid oedd terfyn amser.
Penderfyniad:
Argymhellir, ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r ffaith nad oes
angen asesiad effaith integredig, fod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn:
· Nodi'r
Cynllun Adolygu Datblygiad Personol Aelodau
·
Cymeradwyo bod rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yn cyfathrebu â Chymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a grwpiau gwleidyddol i archwilio carfan o
aelodau presennol i ymgymryd â'r hyfforddiant i gynnal Adolygiadau Datblygiad
Personol Aelodau.
·
Cymeradwyo bod Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yn cyfathrebu â'r holl
Aelodau drwy e-bost, i'w hatgoffa o'r cynllun a'u gwahodd i gwblhau Adolygiad
Datblygiad Personol os dymunant.
Dogfennau ategol: