Agenda item

Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

Cofnodion:

Darparodd swyddogion drosolwg cryno i'r aelodau o'r adroddiad a gynhwysir yn y pecyn agenda. Ymgynghorir ag aelodau’n flynyddol tua'r adeg hon gan Banel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol Cymru (IRPW); a bydd drafft terfynol yr adroddiad ar gael tua mis Chwefror, a fydd yn hysbysu'r aelodau o'r gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer 2025/26. Mae'r pwyllgor fel arfer yn gwneud cais i Swyddogion y Gwasanaethau Democrataidd ymateb i'r ymgynghoriad ar eu rhan, fodd bynnag, gall aelodau ymateb yn unigol os ydynt yn dymuno.


Cododd yr aelodau bryder ynghylch aelodau etholedig a chanddynt gyfrifoldebau gofalu hefyd, ac effaith cydbwyso cyfrifoldebau a chyflawni eu dyletswyddau fel cynghorwyr. Holodd yr aelodau ynghylch pa gymorth oedd ar waith a pha mor hygyrch oedd hyn.


Cadarnhaodd swyddogion fod pecyn cymorth i'w gael ar gyfer aelodau a oedd yn cynnwys ad-dalu unrhyw gostau gofal plant yr aethpwyd iddynt. Nid yw'r pecyn cymorth yn cael ei grybwyll yn yr adroddiad gan na fu unrhyw newidiadau iddo. Nid yw'r cymorth yn cael ei ddefnyddio gan aelodau a bydd swyddogion yn edrych ar sut y gellir rhoi gwybod i aelodau am y cymorth sydd ar gael.

 

Gofynnodd yr aelodau am ymagwedd fwy ragweithiol ac a fyddai modd safoni mewn perthynas â lwfans wythnosol i alluogi rhieni/gofalwyr i allu cyflawni eu dyletswyddau.


Holodd yr aelodau a fu adolygiad o nifer yr oriau y mae aelodau etholedig yn eu cyflawni wrth ymgymryd â'u rôl fel cynghorwyr.

 

Dywedodd swyddogion wrth yr aelodau nad oes adolygiad wedi'i gynnal hyd y gwyddant ac anogasant yr aelodau i roi adborth i'r perwyl hwn i'r IRPW.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y gellid cynnwys y pwynt hwn fel rhan o'r ymateb i adroddiad drafft yr IRPW. Efallai bydd angen i'r IRPW ystyried dogfennu sut y cyrhaeddir casgliadau a'r dystiolaeth sydd yno i'w cynnal yn yr adroddiad drafft.


Gofynnodd yr aelodau ynghylch beth fyddai'r pwysau ariannol ar y Cyngor o'r cynnydd arfaethedig a grybwyllir yn yr adroddiad drafft.


Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd nad yw'r Cyngor yn derbyn unrhyw gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r cynnydd arfaethedig yng nghostau cyflog aelodau. Mae disgwyl i'r Cyngor ddod o hyd i'r cynnydd fel rhan o'r broses pennu cyllideb gyffredinol.

 

Cadarnhaodd swyddogion y codwyd cynigion drafft yr IRPW gyda'r Cyfarwyddwr Cyllid i'w hystyried wrth bennu'r gyllideb. Gellir gofyn am ddadansoddiad ar gyfer cyfarfod mis Chwefror.


Ailadroddodd yr Aelodau sylwadau blaenorol mewn perthynas â phwysigrwydd pecyn cymorth ariannol safonol i gynorthwyo cynghorwyr i gyflawni eu rôl; mae'n bosib y bydd pecyn safonol ar gyfer rhieni a gofalwyr yn denu grŵp mwy amrywiol o gynghorwyr.


Cynigiodd swyddogion ddarparu manylion y pecyn cymorth presennol i atgoffa aelodau o'r cymorth sydd ar gael. Nid yw'r pecyn cymorth wedi newid, felly anogwyd yr aelodau i roi adborth ar yr elfen honno mewn perthynas â'r ymgynghoriad, os nad ystyriwyd bod y ddarpariaeth bresennol yn ddigonol.


Gofynnodd yr aelodau i fanylion y pecyn cymorth gael ei hanfon at bob cynghorydd.


Penderfynwyd:

·Bod y Pwyllgor yn ystyried y penderfyniadau a wnaed gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn ei Adroddiad Blynyddol drafft ar gyfer 2024/25 ac yn gwneud sylwadau arnynt. 

·Bod Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn cael ei awdurdodi i ymateb ar ran Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd gan adlewyrchu'r penderfyniad a'r sylwadau a wnaed, yn y cyfarfod i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

 

 

 

 

Dogfennau ategol: