Cofnodion:
Rhoddodd y
Pennaeth Tai a Chymunedau drosolwg i'r aelodau o'r adroddiad a gynhwysir yn y
pecyn agenda a dywedwyd wrth aelodau fod cynnydd boddhaol wedi'i gyflawni yn
erbyn y rhaglenni gwaith.
Cyfeiriodd yr
aelodau at dudalen 89 yr adroddiad a gofynnwyd a allai Swyddogion ddarparu
enghreifftiau o'r gwahanol fathau o fodelau sydd wedi'u dadansoddi.
Dywedodd
swyddogion wrth aelodau fod gwaith yn mynd rhagddo gyda chydweithwyr yn yr
adran gomisiynu, i adolygu gwahanol fathau o fodelu. Mae angen edrych ar
amrywiaeth o opsiynau llety â chymorth llawn. Y gobaith oedd y byddai hyn yn
cael ei ddatblygu'n fuan, yn dilyn digwyddiadau gyda chydweithwyr comisiynu,
darparwyr gwasanaethau a chyfarfodydd gyda landlordiaid cymdeithasol
cofrestredig i gynghori ar gyfleoedd gydag eiddo.
Holodd yr aelodau
a oedd swyddogion yn cyfeirio at fodel y system neu fodelau tai gwahanol?
Cadarnhaodd
swyddogion fod modelau tai gwahanol fel tai cynhwysyddion a chychod camlesi
wedi cael eu harchwilio, fodd bynnag, mae'r gost yn uchel. Mae papur briffio'n
cael ei ddatblygu. Mae gwaith parhaus yn cael ei wneud i ddeall anghenion
cleientiaid i helpu i broffilio'r math o lety y mae ei angen.
Cyfeiriodd yr
aelodau at yr adolygiad o lwyfan TG opsiynau tai a gofynnwyd sut y gallai pobl
ddigartref gael mynediad at wybodaeth ddigidol. Dywedodd yr Aelodau nad oedd y
dudalen yn hawdd ei defnyddio.
Diolchodd y
Pennaeth Tai a Chymunedau i'r aelodau am yr adborth a chadarnhaodd fod gwaith
yn mynd rhagddo.
Dywedodd
swyddogion wrth aelodau fod gwaith yn mynd rhagddo gyda'r adran Trawsnewid
Digidol mewn perthynas â gofynion TG brys ar gyfer y gwasanaeth. Cydnabuwyd nad
oedd yr wybodaeth ar y wefan yn foddhaol. Mae intern o Brifysgol Abertawe'n
gweithio gyda'r gwasanaeth i alluogi cyfleoedd ymgysylltu gwell.
Dywedodd yr
aelodau ei fod yn bwysig ystyried anghenion pobl wrth gael mynediad at
wybodaeth.
Cyfeiriodd yr
aelodau at y nifer cynyddol o osodiadau a chost eiddo rhent. Mae problem ar hyn
o bryd gyda landlordiaid preifat yn gwerthu eiddo rhent. Holodd yr aelodau a
oedd newid yn nifer yr hysbysiadau Adran 21.
Cadarnhaodd
swyddogion fod y sefyllfa'n sefydlog ar hyn o bryd ac nad oedd cynnydd yn yr
hysbysiadau Adran 21, fodd bynnag, nid yw'r sector yn hygyrch i rai cleientiaid
oherwydd cost rhent. Mae'r gwasanaeth yn cyflogi swyddog sector preifat sy'n
cynnal gwiriad argaeledd wythnosol ond nid yw'r gost rhent o fewn cyllidebau
pobl.
Rhannodd yr
aelodau bryder ynghylch cost eiddo rhent. Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 19
yr adroddiad o fewn y pecyn agenda a gofynnwyd a oedd diweddariad o'r
dadansoddiad a wnaed o lety dros dro yn The Ambassador a Treetops.
Dywedodd y
Pennaeth Tai a Chymunedau wrth aelodau fod mwy o waith sy'n canolbwyntio ar yr
unigolyn wedi'i wneud i ddeall anghenion cyfannol pobl mewn llety dros dro. Mae
heriau o ran ennill tenantiaethau oherwydd anghenion cymorth.
Dywedodd
swyddogion wrth aelodau fod adroddiadau ar The Ambassador Gwesty Treetops
wedi'u paratoi ac ystyriwyd yr elfen gost ar gyfer y ddau opsiwn hwnnw. Mae
gwaith wedi'i wneud i ddeall y llwybrau tai posib, ac i reoli disgwyliadau pobl
i sicrhau bod y llwybr yn hygyrch. Mae pobl a allai fod wedi bod yn gaeth yn y
system yn cael eu cefnogi. Mae'r gwasanaeth yn ceisio sicrhau bod pobl sy'n
gymwys i symud ymlaen yn manteisio i'r eithaf ar eu cyfleoedd drwy ddangos
diddordeb a derbyn eiddo. Bydd gwaith yn parhau gyda Tai Tarian i sicrhau bod y
gofrestr tai yn gyfredol fel bod yr holl gleientiaid y mae ganddynt hawl i
ddyletswydd ddigartrefedd yn cael eu gosod yn gywir. Caiff y Cytundebau Rhannu
Data gyda Tai Tarian eu hadolygu gydag adolygiad llawn o'r Polisi Gosodiadau
Tai a Rennir yn 2026. Mae nifer o arsylwadau a gofynion i'w hystyried er mwyn
eu cynnwys yn y polisi a chaiff y rhain eu rhannu â'r pwyllgor craffu yn nes
ymlaen.
Gofynnodd yr
Aelodau a oeddent yn cyfarfod â chleientiaid wyneb yn wyneb pan wnaed
penderfyniadau neu a oedd penderfyniadau'n seiliedig ar waith papur. Mynegwyd
pryder y gallai pobl gael eu barnu mewn ffordd annheg yn ôl gwaith papur.
Cadarnhaodd
swyddogion nad oedd pob penderfyniad yn cael ei wneud wyneb yn wyneb ar hyn o
bryd. Mae cyfleoedd yn cael eu harchwilio gyda Tai Tarian i fod yn
gydweithredol ac i gynyddu'r cyfleoedd ar gyfer cyfarfodydd wyneb yn wyneb. Mae
nifer uchel o ymgeiswyr yn gwneud cais i ymuno â'r gofrestr yn wythnosol, sy'n
ei wneud yn anodd cynnal asesiadau anghenion tai wyneb yn wyneb. Mae gwaith yn
mynd rhagddo gyda Tai Tarian i gael ymagwedd sy'n canolbwyntio mwy ar yr
unigolyn ar gyfer cleientiaid opsiynau tai sydd â hawl i ddyletswydd
ddigartref. Mynegwyd pryder bod nifer y bobl sydd ar y gofrestr tai wedi
cynyddu, mae gwaith dadansoddi'n cael ei wneud i benderfynu ar y rheswm dros
hyn. Cytunodd swyddogion ar fanteision cwrdd â chleientiaid wyneb yn wyneb a rhoddwyd
enghraifft o wrthdroi penderfyniad yn dilyn ymyrraeth.
Gofynnodd yr
Aelodau am ragor o wybodaeth am eiddo gwag ar draws y fwrdeistref yn cael ei
defnyddio unwaith eto.
Dywedodd y
Pennaeth Tai a Chymunedau wrth aelodau fod cyllid ar gael er mwyn i bobl wneud
cais am grant i alluogi cartrefi gwag i gael eu defnyddio unwaith eto . Mae hyn
ar wahân i'r darn ehangach o waith a wneir gan Iechyd yr Amgylchedd mewn
perthynas ag eiddo gwag ar draws y fwrdeistref. Cadarnhaodd swyddogion fod
eiddo ar gamau amrywiol o fewn y cynllun. Mae naw safle wedi'u cwblhau hyd yma
gyda 155 o geisiadau ar gyfer y cynllun. Mae'r cynllun yn llawn ar hyn o bryd
ac nid yw wedi'i leoli mewn unrhyw ardaloedd penodol yn y fwrdeistref. Ar hyn o
bryd mae eiddo gwag penodol yn ardal Pontardawe. Mae 15 eiddo wedi'u cyflwyno
gan iechyd yr amgylchedd gydag archwiliadau'n cael eu cynnal dros yr wythnosau
nesaf. Adroddir am y cynnydd i'r pwyllgor yn yr adroddiad diweddaru nesaf.
Gofynnodd yr
Aelodau am gopi o'r adroddiad dadansoddi mewn perthynas â'r llety dros dro yn
The Ambassador a Treetops.
Mynegodd yr
aelodau bryder ynghylch Cynllun Prydlesu Cymru a gofynnwyd am ragor o
wybodaeth.
Cadarnhaodd
swyddogion fod rhai o'r cynlluniau'n llwyddiannus ond gall landlordiaid gael
llawer mwy o rent yn y farchnad breifat na gyda'r cynllun prydlesu. Cafwyd 30 o
ymholiadau dros y pythefnos diwethaf yn dilyn gwaith hyrwyddo gan Rhentu Doeth
Cymru. Nid oedd rhai eiddo'n addas i'w cynnwys yn y cynllun oherwydd y
cyfyngiad o £25k. Mae dau eiddo ar y cam olaf yn y broses a disgwylir iddynt
gwblhau'r broses gyfreithiol yn ystod y ddwy i dair wythnos nesaf. Mae'r
cynllun yn cael ei hyrwyddo cymaint â phosib yn y fforymau landlordiaid. Mae
diddordeb wedi bod yn y cynllun ond mae landlordiaid yn colli diddordeb
oherwydd y lwfans tai lleol isel.
Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad.
Dogfennau ategol: