Cofnodion:
Dywedodd
Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai wrth aelodau fod y
broses o benderfynu ar gyllideb wedi bod yn anodd, roedd yr arbedion gofynnol o
5% o'r gyfarwyddiaeth gwerth £5.4m yn ystod cyfnod lle mae pwysau cynyddol ar
wasanaethau a chymhlethdodau anghenion. Nododd y Cyfarwyddwr fod asiantaethau
eraill megis yr heddlu, gwasanaethau carchardai a chyfnod phrawf yn ogystal â
rhai meysydd iechyd, yn lleihau gwasanaethau i bobl sy'n agored i niwed ac
roedd hyn yn creu galw ychwanegol.
Rhoddodd y
Penaethiaid Gwasanaeth drosolwg o bob un o'r cynigion cyllideb a gynhwysir yn
yr adroddiad.
Cyfeirnod
SSH&CS-A: Dywedodd y
Pennaeth Tai a Chymunedau wrth aelodau mai'r arbedion effeithlonrwydd
disgwyliedig ar gyfer yr adran oedd £112k a chaiff hynny ei gyflawni drwy
leihau costau wrth ddarparu gwasanaethau digartrefedd drwy ailgynllunio
gwasanaethau ac atal pobl rhag bod mewn sefyllfa lle mae angen llety dros dro.
Mae hyn yn unol â'r strategaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor yn flaenorol.
Gwnaed gwaith i
ailstrwythuro'r Tîm Opsiynau Tai ym mis Awst ac mae swyddogaeth tai strategol
ar waith. Mae'r targed effeithlonrwydd yn gysylltiedig â'r timau sydd bellach
ar waith ac mae'r gwaith yn y strategaeth yn cael ei ddatblygu.
Cyfeirnod
SSH&CS-B. Dywedodd
Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc wrth aelodau fod yr arbediad a
ragwelir o £232k yn ymwneud â gostyngiad naturiol yn nifer y plant sy'n derbyn
gofal. Bydd gostyngiad yn nifer y lwfansau sy'n cael eu talu ar hyn o bryd ond
a fydd yn dod i ben pan fydd y person ifanc yn troi'n 18 oed.
Holodd yr aelodau
sut yr effeithir ar y ffigwr hwn pe bai cynnydd yn nifer y bobl ifanc y mae
angen gofal arnynt yn y dyfodol.
Cadarnhaodd y
Pennaeth Gwasanaeth y darperir ar gyfer unrhyw blentyn y mae angen gofal
arnynt. Fodd bynnag, oherwydd y gwasanaeth a sefydlwyd ac ansawdd arferion
gwaith cymdeithasol, bu tuedd ar i lawr dros y 10 mlynedd diwethaf yn nifer y
bobl ifanc y mae angen gofal arnynt, ac er bod hyn yn risg, rhagwelir y bydd y
niferoedd yn lleihau unwaith eto.
Gofynnodd yr
aelodau am eglurhad o'r term 'plant nad ydynt yn derbyn gofal' a ddefnyddiwyd
yn yr adroddiad.
Cadarnhaodd y
Pennaeth Gwasanaeth fod y term hwn yn ymwneud â phobl ifanc a oedd yn derbyn
gofal yn y gorffennol ond daeth y gofal i ben pan roedd y plentyn yn 18 oed.
Cyfeiriodd yr
Aelodau at dudalen 20 yr adroddiad a'r cynnwys canlynol, 'yn hanesyddol mae'r
tanwariant ar gyfer lwfansau mewnol wedi gwrthbwyso gorwariant darpariaethau
preswyl allanol' a gofynnwyd a ana rbedwyd y tanwariant ac a oedd yn
gysylltiedig â'r cynnig cyllideb hwn.
Cadarnhaodd y
Pennaeth Gwasanaeth y gellid trafod hyn o dan gynnig cyllideb ddiweddarach.
Gofynnodd yr
Aelodau am ddata mewn perthynas â'r gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig.
Esboniodd
Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai nad yw'r awdurdod lleol
bellach yn gofalu am blant sydd wedi cael eu mabwysiadu neu sy'n destun
gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig ac maent yn cael eu hystyried yn blant nad
ydynt yn derbyn gofal.
Holodd yr aelodau
a oedd angen trafnidiaeth ar unrhyw un o'r plant nad oeddent yn derbyn gofal.
Cadarnhaodd y
Cyfarwyddwr y gallai hyn fod yn wir, cefnogwyd y bobl ifanc i aros gyda'u
gwarcheidwaid arbennig neu'u rhieni mabwysiedig.
SSH&CS-C Dywedodd Bennaeth y Gwasanaethau Plant a
Phobl Ifanc wrth aelodau y cynhaliwyd adolygiad o weithwyr cefnogi o fewn y
Gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd. Roedd y cynnig ar gyfer gweithlu mwy hyblyg,
gyda staff cymorth ar raddfa is sy'n gallu darparu cymorth ymarferol y tu allan
i oriau swyddfa traddodiadol.
Gofynnodd yr
Aelodau am ragor o wybodaeth ynghylch effaith negyddol y cynnig.
Cadarnhaodd y
Pennaeth Gwasanaeth y byddai'r ymarfer hwn wedi cael ei gynnal ni waeth beth
oedd yr arbedion cyllideb angenrheidiol. Yr adborth a gafwyd gan deuluoedd oedd
bod angen cefnogaeth fwy hyblyg. Roeddent yn hyderus y gellid cyflawni'r cynnig
cynilo hwn heb effaith, ond pe bai'r ymarfer yn cael ei ailadrodd, yna byddai
effaith ar gyflenwi gwasanaethau.
Dywedodd y
Cadeirydd fod yr wybodaeth am gynigion cyllideb a ddarparwyd yn gyfyngedig.
Roedd angen ystyried unrhyw gyfeiriad at effeithiau negyddol yn ofalus.
Cydnabuwyd bod risgiau ynghylch rhai cynigion cyllideb ond roeddent yn hyderus
y byddai staff yn ystyried y risgiau'n briodol. Mae disgwyl y byddai unrhyw
risgiau'n cael eu hailgyflwyno i'r pwyllgor i'w hystyried ymhellach.
Cadarnhaodd y
Pennaeth Gwasanaeth fod cynigion ar gyfer arbedion gwerth £1.4m ond roedd
ganddynt hyder y gellid cyflawni'r rhain yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.
Fodd bynnag, bydd unrhyw leihad pellach yn y gwasanaethau cefnogi'n cael
effaith uniongyrchol ar y teuluoedd mwyaf agored i niwed.
Holodd yr aelodau
a fyddai'r gostyngiad mewn costau staffio yn cael ei gyflawni'n naturiol neu a
fyddai diswyddiadau.
Cadarnhaodd y
Pennaeth Gwasanaeth fod staff, adnoddau dynol ac undebau'n cyfarfod yn fuan i
drafod hyn ymhellach. Efallai y bydd gan rai staff ddiddordeb mewn ymddeoliad
hyblyg neu golli swydd yn wirfoddol o bosib. Rhagwelwyd y byddai'r targed yn
cael ei gyrraedd yn naturiol.
Gofynnodd yr
Aelodau am ragor o wybodaeth am y cynnig a holwyd a oedd hyn yn risg uchel? Pe
bai'r cynnig yn arwain at ddiswyddiadau, byddai angen rhagor o fanylion.
Cadarnhaodd y
Pennaeth Gwasanaeth fod modd cyflawni'r cynnig am arbedion oherwydd
sefydlogrwydd y gwasanaeth ac nad oedd yn risg uchel fel ymarfer unigol.
Byddai'r risg yn cynyddu pe bai'r ymarfer yn cael ei ailadrodd. Bydd papur yn
cael ei ddatblygu a fydd yn darparu rhagor o fanylion am y math o waith a'r
oriau y bydd staff yn gallu eu gweithio, er mwyn eu galluogi i fod yn fwy
ymatebol a gweladwy yn y gymuned.
Gofynnodd yr
Aelodau am eglurhad pellach ynghylch y posibilrwydd o gynyddu oriau staff a
newid contractau ac a oedd argostau wedi cael eu hystyried.
Cadarnhaodd y
Pennaeth Gwasanaeth na fyddai cynnydd yn nifer yr oriau ond byddai newidiadau i
oriau a chontractau. Mae'r contractau presennol yn nodi bod angen hyblygrwydd.
Mae'r argostau wedi cael eu cynnwys yn y cynnig.
Dywedodd y
Cyfarwyddwr ei fod wedi bod yn heriol nodi arbedion heb risg. Roedd staff wedi
ceisio cael cydbwysedd rhwng arbedion a chadw cynigion mor risg isel â phosib.
Unwaith y bydd gwaith pellach wedi'i gwblhau, gellir cyflwyno adroddiad i'r
pwyllgor craffu i'w ystyried ymhellach.
SSH & CS-D – Dywedodd Bennaeth y Gwasanaethau Plant
a Phobl Ifanc wrth aelodau fod gostyngiad mewn lwfansau mewnol, costau
asiantaethau allanol a chyllideb teithio gofalwyr. Yn hanesyddol mae'r
tanwariant ar gyfer lwfansau mewnol wedi gwrthbwyso gorwariant darpariaethau
preswyl allanol. Roedd niferoedd preswyl wedi dyblu, yn enwedig yn ystod
COVID-19 ond maent yn dechrau lleihau. Wrth ddefnyddio'r tanwariant, mae perygl
y bydd y byffer yn diflannu. Mae risg hefyd gyda'r posibilrwydd o
gysoni lwfansau
maethu ar draws Cymru a allai arwain at gynnydd mewn taliadau gofalwyr maeth.
Cynhaliwyd ymarfer i leihau costau teithio ac mae swm costau'r asiantaethau
maethu annibynnol wedi lleihau sydd wedi cyfrannu at yr arbediad cyffredinol.
Holodd y
Cadeirydd sut roedd y gostyngiad yn nifer y bobl sy'n gwneud cais i fod yn
ofalwr maeth yn effeithio ar y gwasanaeth.
Cadarnhaodd
Bennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, fel rhan o'r gwaith trawsnewid,
roeddent yn ceisio gofalwyr maeth profiadol ar gyfer pobl ifanc sydd mewn gofal
preswyl er mwyn eu trosglwyddo i gartref teuluol, gyda chefnogaeth gynhwysol ar
gyfer y gofalwyr. Bu cynnydd yn nifer yr asesiadau ar gyfer y math hwn o ofalwr
a chynnydd yn nifer y gofalwyr maeth prif ffrwd posib sy'n cyflwyno'u hunain.
Gofynnodd yr
Aelodau am ddata mewn perthynas â chostau a ffigurau ar gyfer pobl mewn gofal
preswyl y tu allan i'r sir. Mynegwyd pryder y bydd pwysau cyllidebol yn cyfyngu
ar nifer y bobl sy'n mynd i'r system ofal. Bydd lleihau lwfansau mewnol o bosib
yn rhwystr i ddarpar ofalwyr maeth. Holodd yr Aelodau a oedd y cynnig cyllideb
hwn yn realistig.
Dywedodd
Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai, wrth aelodau fod
anghenion plentyn y mae angen gofal arnynt yn flaenoriaeth, hyd yn oed os yw
hyn yn arwain at orwariant. Mae gorwariant ym maes gofal preswyl yn bwysau
cyfredol y mae angen mynd i'r afael ag ef, fodd bynnag, ni fydd plant yn cael
eu symud o ofal preswyl heb sicrhau y bydd eu hanghenion yn cael eu diwallu'n
briodol mewn lleoliad eraill. Cadarnhawyd nad oedd lwfansau gofal maeth yn cael
eu lleihau. Roedd y tanwariant yn y gyllideb faethu'n gysylltiedig â'r
lleihad yn nifer
y plant sy'n derbyn gofal sydd mewn lleoliadau drud y tu allan i'r sir mewn
asiantaethau preifat. Cadarnhaodd y cyfarwyddwr fod risg yn gysylltiedig â'r
cynnig a'r flwyddyn nesaf byddai nifer y plant mewn gofal preswyl yn llai na'r
nifer presennol. O fewn y rhaglen drawsnewid mae cynlluniau ar waith ar gyfer
camu i lawr, os na ellir cyflawni hyn o fewn yr amserlen, adroddir yn ôl am
hyn, a bydd plant yn aros yn eu lleoliadau presennol.
Diolchodd yr
Aelodau i'r Cyfarwyddwr am ei sicrwydd, ond dywedodd na ddylid rhoi pwysau ar
staff, ac mae anghenion plant yn dod yn gyntaf.
Dywedodd y
Pennaeth Gwasanaeth fod yr holl benderfyniadau wedi'u gwneud gyda diogelu fel
blaenoriaeth.
SSH&CS-E Dywedodd
Bennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, wrth yr aelodau fod y cynnig ar
gyfer cynhyrchu incwm. Mae darpariaeth ar draws Cymru lle gellir cynnig
lleoliadau maeth nad ydynt yn cael eu defnyddio i awdurdodau cyfagos am gost
rad. Mae'r cynllun yn cefnogi anghenion ar draws awdurdodau eraill ac yn
caniatáu i ofalwyr maeth ofalu am blant. Cadarnhaodd swyddogion fod yr incwm a
gynhyrchwyd ar gyfer y flwyddyn nesaf oddeutu £52,000 ond mae'r swm yn
ddibynnol ar nifer a hyd y lleoliadau.
SSH&CS-F – Cadarnhaodd Bennaeth y Gwasanaethau
Plant a Phobl Ifanc fod yr arbediad arfaethedig yn ymwneud â swydd ymwelydd
iechyd a ariennir ar y cyd. Nid yw'r Bwrdd Iechyd wedi gallu cyfrannu at y
cyllid ac mae trefniant arall ar waith ar gyfer y gwasanaeth.
SSH&CS – G Esboniodd Bennaeth y Gwasanaethau Plant a
Phobl Ifanc wrth yr aelodau fod y gyllideb gwariant dewisol wedi'i dyrannu i
dimau a'i bod yn cael ei defnyddio i gefnogi teuluoedd mewn argyfwng.
SSH&CS- H Dywedodd Bennaeth y Gwasanaethau Plant a
Phobl Ifanc wrth aelodau fod cost llwybrau tacsi plant sy'n derbyn gofal wedi'i
lleihau drwy gydweithio ar draws y Cyngor.
Holodd yr Aelodau
a oeddent yn cyfeirio at dacsis y Gwasanaethau Cymdeithasol neu'r Adran Addysg.
Cadarnhaodd y
Pennaeth Gwasanaeth mai tacsis yr Adran Addysg oedden nhw.
Dywedodd yr
Aelodau y byddai'r gost yn dod o gyllideb y Gwasanaethau Cymdeithasol a nodwyd
bod problemau gyda theuluoedd y mae angen trafnidiaeth arnynt, ond mae'r
ddarpariaeth wedi cael ei thorri. Mae ymgynghorwyr wedi cael eu cyflogi i
gynnal adolygiad trafnidiaeth, am gost, ac roedd aelodau'n teimlo y gallai
staff fod wedi cynnal yr adolygiad.
Rhoddodd y
Pennaeth Gwasanaeth sicrwydd i'r aelodau fod trafnidiaeth yn cael ei ddarparu o
hyd ac nad oedd unrhyw enghreifftiau lle na ddarparwyd trafnidiaeth i
deuluoedd. Cynhaliwyd yr adolygiad gan staff sy'n cefnogi teuluoedd. Mae
gofalwyr maeth yn darparu trafnidiaeth. Ni fu toriad i nifer y teithiau a wnaed
ond cafwyd ymagwedd wahanol wrth eu darparu.
Mewn perthynas â
chynigion cyllideb SSH&CS-I – SSH&CS-P, cadarnhaodd Bennaeth y
Gwasanaethau Oedolion fod gwerth £3.9m o arbedion a gwerth £1.3m o swyddi gwag
y mae'n rhaid eu nodi yn ystod y flwyddyn nesaf. Mae rhywfaint o'r naratif yn
gryno yn bwrpasol, mae'r wybodaeth yn sensitif a bydd angen ymgynghoriad
cyhoeddus llawn. Bydd yr holl gynigion yn destun gwaith dilynol, sef
adroddiadau manwl ar gyfer y Pwyllgor Craffu a'r Cabinet.
SSH&CS-I – Cynhelir adolygiad o Daliadau
Uniongyrchol. Efallai bod gormod o alw am rai pecynnau gofal. Mae symiau
sylweddol o arian wedi cronni mewn cyfrifon banc lle mae oedi o ran apwyntiadau
cynorthwywyr personol ac mae problemau sy'n gysylltiedig â chyfrifon a reolir.
Cwestiynodd yr
aelodau sut roedd y ddeddfwriaeth yn effeithio ar y Cyngor?
Cadarnhaodd y
Pennaeth Gwasanaeth y byddai ailasesiadau'n cael eu cynnal gan Weithwyr
Cymdeithasol i sicrhau bod y pecynnau gofal maint cywir ar waith. Mae gan yr
awdurdod ddyletswydd o dan y ddeddf i gynnig taliad uniongyrchol, ond mae angen
edrych ar wahanol ganlyniadau a sut y cânt eu cyflawni er mwyn sicrhau nad
taliad uniongyrchol yw'r unig ateb.
Holodd yr Aelodau
a fyddai gweithdrefn apelio a dywedwyd, os felly, y byddai goblygiad ariannol i
hyn.
Cadarnhaodd y
Pennaeth Gwasanaeth fod hyn yn wir ar hyn o bryd a bydd hyn yn parhau.
SSH&CS-J/SSH&CS-K/SSH&CS-N Cadarnhaodd Bennaeth y Gwasanaethau i
Oedolion fod y cynigion ar gyfer datblygu darpariaeth fewnol ar gyfer anghenion
gofal cymhleth. Roedd y cynigion yn cynnwys y safle yng Ngelligron ar gyfer
darpariaeth byw â chymorth neu ofal ychwanegol, gwasanaethau dydd ychwanegol yn
Afan Nedd o bosib a chynyddu nifer y gwelyau seibiant yn Nhrem y Môr. Nodwyd ar
hyn o bryd roedd 19 o bobl â phroblemau iechyd meddwl ac roedd 26 o bobl ag
anableddau dysgu'n byw mewn lleoliadau byw â chymorth neu leoliadau preswyl
sy'n costio £4.5m i'r Cyngor. Trwy ddatblygu darpariaeth fewnol, rhagwelwyd y
gellid gwneud arbediad o £2m. Fodd bynnag, roedd perygl na fydd modd cyflawni
hyn o fewn yr amserlenni gofynnol.
Holodd yr aelodau
a oedd ffigwr yr arbedion yn realistig ac yn gyraeddadwy.
Cadarnhaodd y
Pennaeth Gwasanaeth fod y ffigyrau wedi'u cyfrifo ac ar hyn o bryd roedd 45 o
bobl mewn lleoliadau nad oes angen iddynt fod ynddynt. Ar hyn o bryd nid oes
darpariaeth amgen na mewnol a gall darparwyr allanol godi prisiau uchel, £4k -
£8k yr wythnos ar gyfartaledd. Mae hwn yn gynnig buddsoddi i arbed.
Holodd yr Aelodau
a fyddai prosesau mewnol yn oedi'r prosiect ac yn effeithio ar y gallu i
gyflawni'r cynigion hyn o fewn amserlenni penodol.
Dywedodd y
Pennaeth Gwasanaeth wrth aelodau fod y Cyfarwyddwr yn cadeirio rhaglen
drawsnewid ac mae swyddog penodol ar waith mewn perthynas â'r agenda
trawsnewid. Mae cynnydd yn cael ei wneud a byddant mewn sefyllfa well o fis
Ionawr ymlaen. Nodwyd bod osgoi risgiau gan ddarparwyr yn broblem sy'n wynebu'r
gwasanaeth a gellid rheoli risgiau'n well yn fewnol.
SSH&CS-L Dywedodd Bennaeth y Gwasanaethau i
Oedolion wrth aelodau fod adolygiad parhaus yn cael ei gynnal gan y tîm
comisiynu i adolygu lleoliadau, cynlluniau byw â chymorth a herio costau
darparwyr allanol. Eleni arbedwyd £720k ac mae yna hyder bod modd gwneud arbediad
o £650k ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Cadarnhawyd nad oedd yr adolygiad
wedi arwain at unrhyw leihad i wasanaethau.
SSH&CS-M Dywedodd Bennaeth y Gwasanaethau i
Oedolion wrth aelodau fod y cynnig ar gyfer adolygiad o'r gwasanaethau gofal
cartref yn y gymuned ac mewn cynlluniau byw â chymorth. Mae'r cynnig yn
cyflwyno rhywfaint o risg ond gyda'r defnydd o dechnoleg, roedd hyder y gellid
cyflawni'r arbediad. Nodwyd na fyddai lleihad mewn pecynnau gofal ond byddwn yn
adolygu'r holl gefnogaeth. Mae problemau ynghylch costau gwasanaethau eistedd
gyda phobl a thrwy ddarparu'r gwasanaeth yn fewnol neu gan ddefnyddio
sefydliadau trydydd sector, gellid lleihau'r gost.
Cwestiynodd yr
aelodau a fyddai arbedion effeithlonrwydd lleoliad yn effeithio ar ysbytai gyda
blocio gwelyau.
Cadarnhaodd y
Pennaeth Gwasanaeth nad oedd hynny'n wir. Roedd arbedion effeithlonrwydd
lleoliadau'n ymwneud â chostau heriol a gorbenion sy'n cael eu codi o fewn
trefniadau byw â chymorth.
SSH&CS-O Dywedodd Bennaeth y Gwasanaethau i
Oedolion wrth yr aelodau, trwy greu nifer o leoedd ailalluogi preswyl yn Nhrem
y Glyn, y bydd y Cyngor yn gallu darparu cyfnod o seibiant i bobl o'r gymuned
ac o ysbytai am hyd at chwe wythnos, a byddai pobl yn dychwelyd adref gyda
phecyn gofal llai neu heb becyn gofal o gwbl. Byddai'r arbedion yn ddibynnol ar
y ffaith bod deuddeg gwely, mae pedwar gwely ar gael ar hyn o bryd gyda'r
posibilrwydd o ddau wely ychwanegol yn fuan.
SSH&CS-P Dywedodd Bennaeth y Gwasanaethau i
Oedolion wrth aelodau y byddai unrhyw leihad yn nifer y staff yn ddewis olaf.
Os oes angen arbedion pellach, bydd rhannau o'r gwasanaeth yn cael eu
hailstrwythuro. Bu rhywfaint o ddiddordeb mewn ymddeoliad cynnar.
Cadarnhaodd
Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai nad oedd y cynigion yn
hawdd i'w rhoi ar waith ac nad oedd modd dod o hyd i arbedion heb gael effaith
ar wasanaethau. Mae angen gwneud rhagor o waith ar rai o'r cynigion a bydd
aelodau'n cael eu diweddaru drwy gydol y broses.
Yn dilyn gwaith
craffu, nododd yr aelodau'r adroddiad a'r awgrymiadau a'r safbwyntiau a
gyflwynwyd gan y pwyllgor.
Dogfennau ategol: