Cofnodion:
Penderfyniad:
Bod Aelodau yn:
1. Nodi goblygiadau ariannol adnewyddu cerbydau ailgylchu'r Cyngor ar gyfer
casgliadau ailgylchu;
2. Cadarnhau'r dewis i brynu Cerbydau Ymateb Cyflym trydan a chymeradwyo'r
cyllid cysylltiedig, ac ystyried y cyllid hwnnw yn y rownd gyllidebol gyfredol
3. Cefnogi terfynu’r broses gaffael bresennol a'i hailddechrau gan ystyried
y gwersi a ddysgwyd; a
4. Rhoi Awdurdod Dirprwyedig i'r Pennaeth Gofal
Strydoedd mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros y Strydlun a'r Prif Swyddog
Cyllid i ddyfarnu i'r cyflenwr Cerbydau Ymateb Cyflym trydan mwyaf llwyddiannus
o dan y broses gaffael sy'n cael ei hailddechrau, yn amodol ar gyllid gan LlC.
Rheswm dros y Penderfyniad Arfaethedig:
Sicrhau
bod gan y gwasanaeth casglu ailgylchu gerbydau addas i ddarparu gwasanaethau’n
unol â nodau lles a datgarboneiddio'r Cyngor a rhai cenedlaethol.
Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:
Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o
dridiau.