Cofnodion:
Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes
wrth aelodau fod Cyfarwyddwyr, Penaethiaid Gwasanaeth a rheolwyr atebol yn
gweithio i gyflawni'r cynigion arbedion gofynnol ar draws yr awdurdod lleol. Yr
egwyddorion arweiniol, lle bo'n bosib, oedd cynyddu incwm, talu costau craidd
yn erbyn grantiau, diogelu gwasanaethau cyhoeddus a swyddi. Nid yw'r cyfnod
ymgynghori wedi dechrau eto, ac roedd y cynigion a gyflwynwyd i'r aelodau'n
rhan o ymarfer ymgysylltu cyn ymgynghori i dderbyn sylwadau a syniadau'r
aelodau. Mae cynigion yn seiliedig ar wybodaeth sy'n hysbys ar hyn o bryd a'r
dybiaeth y bydd grantiau a lefelau cyllid yn parhau. Nid yw'r holl fanylion ar
gael o hyd, fodd bynnag, os yw'r cynigion yn rhan o'r cynigion ymgynghori
swyddogol, bydd rhagor o fanylion ar gael.
Rhoddodd swyddogion drosolwg o'r cyfeirnod cynigion
cyllideb ELL-A – ELL-G fel a nodwyd yn y pecyn agenda. Mae'r arbedion ar gyfer
Parc Gwledig Margam yn rhan o gynllun tair blynedd a bydd adroddiad yn cael ei
gyflwyno i'r aelodau ym mis Ionawr, a fydd yn cynnwys y cynllun busnes newydd
a'r adolygiad parcio. Mae digwyddiadau newydd wedi'u cyflwyno yn y parc. O ran
staffio, bu ychydig o ddatblygiad staff, ac mae un aelod o staff wedi mynegi
diddordeb mewn ymddeol. Mae ychydig o oedi i brosiect sinema Canolfan
Celfyddydau Pontardawe, ond y gobaith oedd y bydd hyn ar agor er mwyn masnachu
ym mis Mawrth 2025. Mae arbedion wedi eu gwireddu o ganlyniad i gau Pwll Nofio
Pontardawe. Mae cyfleuster arlwyo newydd wedi'i gyflwyno yn Aqua Splash yn
Aberafan, sy'n cael ei weithredu gan Hamdden Celtic. Mae rhai ysgolion yn
adolygu'r cytundeb lefel gwasanaeth sydd ganddynt ar gyfer y Gwasanaeth
Adnoddau Addysg a Dysgu (ELRS). Mae'r arbedion yn y maes ELRS yn ymwneud â
newid y defnydd o dechnolegau.
Mynegodd yr aelodau bryder ynghylch diswyddiadau staff
posib a swyddi gwag sydd heb eu llenwi. Dywedodd yr Aelodau nad oedd Parc
Gwledig Margam yn gwneud arbedion ar hyn o bryd a gofynnwyd sut y bydd arbedion
yn cael eu cyflawni yn y flwyddyn ariannol nesaf. Dywedodd yr Aelodau fod
gwelliannau i fasnachu hamdden dan do yn seiliedig ar forâl staff a gan
ystyried nad oedd Hamdden Celtic yn newid i wasanaeth mewnol y flwyddyn nesaf,
a fyddai morâl staff yn galluogi'r arbedion hyn i gael eu cyflawni.
Cydnabu'r Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes y
gallai ffactorau fel tywydd gwael effeithio ar unrhyw ragfynegiad o incwm uwch
. Roedd modd cyflawni'r targed ar draws y gyfres o wasanaethau’n fras, gyda'r
gallu i or-gyflawni mewn rhai meysydd, megis y sinema a'r cyfleuster arlwyo
newydd yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe. O ran Parc Gwledig Margam, nid
yw'r incwm a ragwelir yn statig yn ystod y flwyddyn ac mae'n dibynnu ar dywydd
a digwyddiadau sydd wedi'u trefnu. Nid oedd y Cyfarwyddwr yn ymwybodol o unrhyw
bwysau cyllidebol a ragwelir ym Mharc Margam. Cydnabu'r Cyfarwyddwr fod
risgiau'n wynebu'r ELRS. Mae ysgolion yn ceisio arbed arian ar feysydd
anstatudol, oherwydd pwysau cyllidebol.
Cyfeiriodd yr Aelodau at y cyfeirnod cynnig cyllideb
ELLL-D a gofynnwyd am ddadansoddiad pellach.
Cadarnhaodd y
Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes fod rhan o'r ffi reoli a
ddarparwyd i Hamdden Celtic ar gyfer cynnal Pwll Nofio Pontardawe a gan fod y pwll wedi cau, bydd
arbedion effeithlonrwydd yn cael eu cyflawni. Mae astudiaeth ddichonoldeb yn
cael ei chynnal ar hyn o bryd i nodi tir a chyllid ar gyfer pwll newydd. Mae
risg wrth symud ymlaen, pe bai tir a chyllid yn cael eu nodi, byddai'n rhaid
cynnwys y cymhorthdal unwaith eto.
Holodd yr aelodau a oedd
cynlluniau tymor hir ar gyfer y tir gwastraff ar ddiwedd Ffordd y Dywysoges
Margaret ar lan môr Aberafan? Holodd yr aelodau a ellid defnyddio'r tir dros
dro i ddarparu cyfleusterau parcio ar gyfer faniau gwersylla am ffi.
Dywedodd Bennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd wrth
aelodau fod y tir wedi'i ddyrannu ar gyfer tai o fewn y Cynllun Datblygu Lleol
presennol sydd wrthi'n cael ei adolygu. Mae opsiynau ar gyfer defnydd o'r tir
yn y dyfodol yn cael eu hystyried, gellid defnyddio'r tir ar gyfer tai, defnydd
masnachol neu gymysgedd o'r ddau. Mae Strategaeth Adfywio Glan y Môr yn destun
ymgynghoriad ar hyn o bryd a chafodd aelodau eu hannog i rannu eu barn.
Rhoddodd Bennaeth y Gwasanaethau Cefnogi a Thrawsnewid
drosolwg o gynnig cyllideb ELLL-H – ELLL-J a gynhwysir o fewn y pecyn agenda.
Roedd gwybodaeth yn gyfyngedig ar hyn o bryd, gan fod bron iawn yr holl
arbedion arfaethedig yn ymwneud â swyddi. Fodd bynnag, roeddent yn hyderus y
byddai diswyddiadau gorfodol yn cael eu hosgoi. Nodwyd bod y cynnig ar gyfer
ailgodi tâl llawn ar gyfer costau glanhau yn anodd gan fod cyllidebau ysgolion
dan bwysau. Mae adolygiad a arweinir yn allanol o'r holl drefniadau presennol
mewn perthynas â chludiant rhwng y cartref a'r ysgol, mae'r gwaith hwn yn
croesi'r Cyfarwyddiaethau Amgylchedd ac Addysg
.
Mynegodd yr Aelodau bryder
ynghylch plant nad oedd darpariaeth ar eu cyfer yn y system cludiant rhwng y
cartref a'r ysgol bresennol a goblygiadau posib yr adolygiad.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr
Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes fod yr adolygiad o gludiant rhwng y cartref
a'r ysgol wedi'i gymeradwyo gan y Cabinet ac ni fydd yn newid hawlogaeth unrhyw
ddisgybl. Mae polisi Cludiant Rhwng y Cartref a'r Ysgol Llywodraeth Cymru yn
glir ond efallai y bydd rhai teuluoedd ychydig y tu allan i'r meini prawf, a
chydnabuwyd bod hyn yn anodd i rai teuluoedd.
Mynegodd yr aelodau bryder
ynghylch y defnydd o ymgynghorwyr allanol a theimlwyd y gallai'r adolygiad fod
wedi cael ei gynnal gan staff presennol.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes wrth aelodau na
fyddai'r adolygiad o gludiant rhwng y cartref a'r ysgol yn arwain at golli unrhyw swyddi o ganlyniad i benodi
ymgynghorwyr allanol. Nodwyd bod y gyllideb a'r strategaeth cludiant rhwng y
cartref a'r ysgol yn cael ei chadw gan y Gyfarwyddiaeth Addysg, ond caiff y
gwaith comisiynu a chaffael ei wneud gan Gyfarwyddiaeth yr Amgylchedd.
Awgrymwyd y gallai'r Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth yng Nghyfarwyddiaeth
yr Amgylchedd ddarparu rhagor o wybodaeth i'r pwyllgor.
Holodd yr Aelodau sut caiff yr ymgynghorwyr allanol eu monitro ac a yw'r swm o
arbedion a gyflawnwyd yn hysbys. Nodwyd ei fod yn gostus ymgysylltu ag
ymgynghorwyr.
Mynegodd yr Aelodau bryder
ynghylch disgyblion a allai gael eu heffeithio gan yr adolygiad o gludiant
rhwng y cartref a'r ysgol a gofynnwyd i ganlyniadau'r adolygiad, unwaith y bydd
wedi dod i ben, gael eu rhannu gyda'r pwyllgor.
Mewn perthynas â chynnig
cyllideb ELLL-I, holodd yr aelodau a oedd unrhyw fodelu wedi'i wneud o ran
ysgolion cynradd sy'n gadael darpariaeth yr awdurdod lleol.
Dywedodd Bennaeth y Gwasanaethau Cefnogi a Thrawsnewid
wrth aelodau fod gwaith modelu helaeth
wedi'i wneud yn y gorffennol mewn perthynas ag ailgodi tâl llawn ar gyfer
cynnig yr ysgolion. Mae ysgolion yn ymwybodol o'r gwasanaethau a gynigir gan yr
awdurdod lleol, sy'n fwy na'r hyn a fyddai ar gael drwy ddarparwyr allanol.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr
Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes fod y strategaeth arbedion hon yn cael ei
chyflwyno os nad oedd angen i ysgolion ddarparu arbedion effeithlonrwydd
eraill. Mae ysgolion yn wynebu pwysau cyllidebol a byddai tair ysgol mewn diffyg
ariannol erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Dyma'r unig doriad yn y gyllideb ar
hyn o bryd a fyddai'n effeithio ar y gyllideb ysgol ddirprwyedig.
Dywedodd Aelod y Cabinet dros Addysg a'r Blynyddoedd Cynnar fod cyllid Cyngor
Castell-nedd Port Talbot fesul disgybl yn un o'r isaf yng Nghymru, yn enwedig
mewn perthynas ag ysgolion uwchradd. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae'r
gyllideb ysgol ddirprwyedig wedi cynyddu o 7.9% i 8.4%, ond roedd y lefel
gychwynnol yn isel ac yn hanesyddol mae diffyg cyllideb yn y gyllideb ysgol
ddirprwyedig.
Dywedodd y Pennaeth Datblygu
Addysg wrth aelodau fod aelod allweddol o staff wedi cael secondiad i
Lywodraeth Cymru am ddeuddydd yr wythnos i gefnogi gwaith ar y cwricwlwm, ac
mae hynny wedi arwain at arbediad.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Addysg Hamdden a Dysgu Gydol Oes
at gynnig cyllideb ELLL-L a dywedwyd wrth yr aelodau fod yr arbedion yn
gysylltiedig â chostau etifeddol sy'n gysylltiedig â'r mynediad cynnar at
gronfeydd pensiwn, ac roedd hyn wedi lleihau dros amser wrth i aelodau'r
cynllun pensiwn farw.
Rhoddodd Bennaeth y
Blynyddoedd Cynnar, Cynhwysiant a Chyfranogiad drosolwg i'r aelodau o gynigion
cyllideb ELLL-M i ELLL-O a nododd fod dwy swydd yn y Gwasanaeth Seicoleg Addysg
a'r Tîm Anawsterau Dysgu wedi'u gwrthbwyso yn erbyn cyllid grant. Mae darn o
waith yn mynd rhagddo gyda phlant hŷn yn benodol gydag anawsterau
ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol. Mae hyn wedi'i wrthbwyso yn erbyn
cyllid grant ar gyfer y flwyddyn hon.
Holodd yr Aelodau a oedd y
grantiau sy'n cael eu gwrthbwyso yn eu herbyn yn bodoli o'r blaen, ac a oeddent
yn ariannu unrhyw beth sydd wedi cael ei golli gan fod y cyllid bellach yn cael
ei wrthbwyso yn erbyn costau staffio?
Cadarnhaodd Bennaeth y Blynyddoedd Cynnar, Cynhwysiant a Chyfranogiad fod y
grantiau eisoes yn bodoli ac yn cael eu hadolygu'n flynyddol. Wrth i'r gwaith
ddod i ben, mae gwaith newydd yn cael ei wneud.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr
Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes fod y cynigion yn seiliedig ar dybiaeth y
bydd y grantiau presennol yn parhau, ac roedd hyn yn risg nes i gyllideb
Llywodraeth y DU gael ei chyhoeddi. Bydd y cynnig hwn yn cael ei adolygu os oes
unrhyw newidiadau i gyllid grant a chydnabuwyd na fydd yr ymagwedd hon yn
gynaliadwy yn y tymor hwy.
Amlinellodd Bennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd gynigion cyllideb ENV-Q i
ENV-Z sy'n ymwneud â Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd, ym meysydd gwasanaeth Iechyd
yr Amgylchedd, Safonau Masnach, Diogelu Bwyd ac Iechyd. Nodwyd bod y cynigion
yn anodd a'u bod yn gymysgedd o syniadau ar gyfer cynhyrchu incwm a lleihau
llinellau cyllideb amrywiol. Bydd y cynigion yn effeithio ar swyddi a chyflwyno
gwasanaethau.
Gan gyfeirio at gynnig
ENV-Q, cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth y byddai hyn yn cael ei gyflawni trwy
gyflwyno targed incwm cynyddol sy'n gysylltiedig â'r gwasanaeth Rheoli Pla.
Nodwyd, yng ngoleuni'r lefelau presennol o alw am wasanaethau a pherfformiad,
bod potensial i gyflawni'r targed incwm uwch hwn heb gynyddu ffïoedd.
Gan gyfeirio at gynnig
ENV-R, cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth fod effaith bosib ar y Gwasanaeth
Rheoli Datblygiad Cynllunio oherwydd mae Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yn
cynnal ymgynghoriadau fel rhan o'r broses gynllunio. Fodd bynnag, nodwyd y
gellid adennill costau o'r fath drwy incwm ffïoedd a gynhyrchir drwy unrhyw
Gytundebau Perfformiad Cynllunio sefydledig.
Gan gyfeirio at gynnig
ENV-X, cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth fod goblygiadau gyda'r cynnig hwn gan
ei fod yn tanseilio cynllunio ar gyfer olyniaeth wrth symud ymlaen. Gall unrhyw
ostyngiad yng nghyllideb ffïoedd proffesiynol penodol y gwasanaeth olygu y bydd
y ganolfan gorfforaethol yn cael ei defnyddio wrth ymdrin ag achosion erlyn
sy'n arbennig o gymhleth.
Gan gyfeirio at gynnig
ENV-Y, nododd y Pennaeth Gwasanaeth y bydd aelodau'n debygol o fod yn ymwybodol
bod y gwasanaeth yn cael trafferth gyda'r gwasanaethau rheoleiddio statudol y
mae'n eu darparu ac mae eisoes wedi rhoi'r gorau i ddarparu rhai swyddogaethau/gwasanaethau
dewisol. Mae yna effaith bosib pellach pe bai'r cynnig cyllideb hwn yn cael ei
ddatblygu.
Mae cynnig cyllideb ENV-Z yn
ymwneud â'r Gwasanaeth Diogelu Bwyd ac Iechyd. Mae swydd ran-amser wag ar hyn o
bryd o fewn y strwythur, clustnodwyd cyllid ar gyfer y swydd at ddibenion
cynllunio ar gyfer olyniaeth. Cynlluniwyd i'r swydd wag gael ei newid i swydd
Swyddog Iechyd yr Amgylchedd dan hyfforddiant i oresgyn problemau recriwtio. Yn
y tymor hwy, byddai'r cynnig hwn, pe bai'n cael ei ddatblygu, yn tanseilio
cynllunio ar gyfer olyniaeth.
Gofynnodd yr Aelodau am hyfforddiant ar faterion sy'n
cael eu cynnwys o fewn Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd.
Gwnaeth yr Aelodau sylwadau
ar gynigion ENV-X-ENV-Z a'r pwysau y byddai'r cynigion hyn yn rhoi ar yr adran
wrth sicrhau bod gwasanaethau'n bodloni'r safonau gofynnol. Trwy wneud toriadau
pellach roedd risg na fyddai'r adran yn cyflawni ei dyletswyddau statudol.
Dywedodd y
Dirprwy Arweinydd, yn hanesyddol, adroddwyd am faterion iechyd yr
amgylchedd i'r pwyllgor hwn ond wrth symud ymlaen efallai nad hwn oedd y
strwythur mwyaf addas. Cytunodd y Dirprwy Arweinydd gyda sylwadau blaenorol a
wnaed ynghylch y patrymau gwariant hanesyddol mewn perthynas â'r gyllideb ysgol
ddirprwyedig. Roedd y weinyddiaeth bresennol yn ymwybodol o'r angen i fynd i'r
afael â hyn, ond roedd anawsterau o ystyried y caledi parhaus a wynebir gan y
Cyngor. Anogodd y Dirprwy Arweinydd yr aelodau i gyflwyno sylwadau i'r
llywodraeth mewn perthynas â'r angen am fuddsoddiad i wasanaethau cyhoeddus ar
bob lefel.
Dywedodd yr Aelodau nad oedd
digon o fanylion yng nghynigion y gyllideb a gofynnwyd am amserlen ar gyfer yr
ymgynghoriad ar y gyllideb. Gofynnodd yr Aelodau hefyd am eglurhad ynghylch y
sefyllfa ariannu fesul disgybl, a allai fod yn wahanol i
awdurdodau lleol eraill.
Cadarnhaodd Bennaeth y
Gwasanaethau Cefnogi a Thrawsnewid fod adroddiad wedi'i drefnu i graffu ar
Bwysau Cyllideb Ysgolion a fyddai'n cynnwys rhagor o wybodaeth am gyllid fesul
disgybl.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyllid wrth aelodau mai dyma'r tro cyntaf i gynigion
y gyllideb gael eu cyflwyno i'r aelodau yn ystod y cam cynnar hwn yn y
broses. Roedd y cynigion yn
cynrychioli'r cynlluniau cynnar a nodwyd i fodloni targedau. Mae'r cynigion
cynnar yn seiliedig ar ragdybiaethau gan nad yw'r gyllideb wedi'i chyhoeddi
eto. Gobeithiwyd, yn dilyn trafodaeth wrth graffu, y gallai aelodau awgrymu
cynigion amgen i helpu i lywio'r cynigion terfynol. Caiff trafodaethau yn ystod
pwyllgorau craffu eu hystyried gan swyddogion, gyda gwybodaeth o
gyhoeddiad cyllideb yr wythnos nesaf, a fydd yn rhoi syniad o'r effaith bosib
ar gyllideb Cymru; Caiff y setliad llywodraeth leol ei gyhoeddi yng nghanol mis
Rhagfyr. Cynhelir cyfarfod y Cabinet arbennig ar 11 Rhagfyr i ystyried rhagor o
fanylion mewn perthynas â'r cynigion i fwrw ymlaen ar gyfer ymgynghoriad
ffurfiol. Bydd asesiadau effaith unigol ar gael unwaith y bydd yr ymgynghoriad
wedi penderfynu ar y cynigion terfynol. Bydd y pwyllgor craffu hwn yn cyfarfod ar
16 Ionawr i ystyried y cynigion ymhellach gyda'r ymgynghoriad yn dod i ben ar
17 Ionawr. Yn dilyn ymgynghoriad, bydd swyddogion yn datblygu cynigion terfynol
i'w hystyried gan y Cabinet ar ddiwedd mis Chwefror, gyda'r Cyngor yn cyfarfod
wythnos yn ddiweddarach.
Rhoddwyd gwybod i'r holl aelodau fod Seminar i'r holl
aelodau'n cael ei gynnal ar 28 Tachwedd ar gyfer hyfforddiant cyllidebol a
ddarperir gan CLlLC.
Yn dilyn gwaith
craffu, nododd yr aelodau'r adroddiad a'r awgrymiadau a'r safbwyntiau a
gyflwynwyd gan y pwyllgor.
Dogfennau ategol: