Cofnodion:
Penderfyniad:
Ar
ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig a'r asesiadau risg,
argymhellir, yn unol ag Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion
(Cymru) 2013, fod yr ymgynghoriad ar gynnig i gau darpariaeth y ganolfan
cefnogi dysgu arbenigol ar gyfer disgyblion oedran uwchradd â nam ar eu golwg
yn Ysgol Gyfun Cefn Saeson, yn cael ei gymeradwyo.
Rhesymau dros
y penderfyniad arfaethedig:
Mae
angen y penderfyniad hwn i gydymffurfio â gofynion yr ymgynghoriad ffurfiol a
osodir ar y Cyngor gan y Côd Trefniadaeth Ysgolion. Yn amodol ar ganlyniad yr
ymgynghoriad, bydd rhoi'r cynnig ar waith yn galluogi'r Cyngor i hyrwyddo
safonau addysgol uchel a chyflawni potensial pob plentyn. Bydd hefyd yn
galluogi'r Cyngor i gyflawni ei ddyletswydd i sicrhau bod adnoddau'n cael eu
defnyddio'n effeithiol yn unol â'r angen am leoedd arbenigol yn y Fwrdeistref
Sirol.
Rhoi'r penderfyniad ar waith:
Cynigir
rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Dogfennau ategol: