Agenda item

Gwasanaeth Diogelu Iechyd - Ystyried Cytundeb Lefel Gwasanaeth Bae Abertawe

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, argymhellir bod:

 

1.    Yr Aelodau'n nodi cynnwys 'Cytundeb Lefel Gwasanaeth Bae Abertawe' fel y'i cyflwynwyd yn Atodiad 2.

 

2.    Awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i'r Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd i ymrwymo i'r cytundeb gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

 

Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig:

Mae angen y penderfyniad i sefydlu trefniadau gweithio ffurfiol i gyflawni yn erbyn egwyddorion craidd Llywodraeth Cymru ar gyfer diogelu iechyd, a sefydlu gweithlu cynaliadwy a gwydn sydd â'r gallu i baratoi ac ymateb i faterion diogelu iechyd ar draws ôl troed rhanbarthol Bae Abertawe.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

Dogfennau ategol: