Agenda item

GOFAL PLANT MEWN YSGOLION/ADEILADAU ADDYSG: MABWYSIADU TREFNIADAU RHENT NEWYDD

Cofnodion:

Penderfyniad:

Bod aelodau'n cytuno mewn egwyddor i'r newidiadau i daliadau rhent i ddarparwyr gofal plant mewn ysgolion ac adeiladau addysg.

 

Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig:

Sicrhau parhad datblygiad gofal plant yng Nghastell-nedd Port Talbot, yn unol â pholisïau a chynlluniau Llywodraeth Cymru.

Caniatáu i swyddogion ymdrechu i gau'r bylchau digonolrwydd gofal plant a nodwyd gan ein Hasesiad Digonolrwydd Gofal Plant.

Cefnogi Cyrff Llywodraethu ysgolion i gefnogi'r cais am ddatblygu cyfleusterau gofal plant ar safleoedd ysgolion. Cefnogi'r Awdurdod Lleol hefyd i gyflawni'r dyletswyddau statudol a osodwyd arno gan Ddeddf Gofal Plant 2006. Bydd hyn yn ei dro yn cefnogi'r agenda Tlodi Plant wrth alluogi rhieni i gael amser i achub ar gyfleoedd hyfforddi neu gyflogaeth, neu i gael mynediad at gyflogaeth neu hyfforddiant yn y sector gofal plant.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Dogfennau ategol: