Mae'n
rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd,
democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith
cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda.
Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.
Cofnodion:
Roedd un cwestiwn wedi'i gyflwyno i'r Cyngor.
Croesawyd Mr Dewitt a gofynnodd yntau’r cwestiynau
canlynol i'r Cyngor:
1.
Mewn rhai blynyddoedd
diweddar, nid yw Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cyflwyno ceisiadau i'r
gronfa teithio llesol o gwbl ac yn fwy diweddar pan mae wedi gwneud hyn, mae
wedi bod yn aflwyddiannus. Byddwn yn gobeithio gweld rhai strategaethau newydd
i wella hyn ond nid yw'n glir beth yw'r rhain. Yn ddiamau, CNPT yw'r awdurdod
lleol sy'n perfformio waethaf yn yr ardal hon a hoffwn weld rhai nodau penodol
a all ddechrau'r broses wella.
2. Mae awdurdodau lleol eraill wedi ceisio adeiladu prosiectau unigryw
arwyddocaol ac mae'r rhain yn cael cyllid. Mae Trefynwy yn adeiladu pont dros
afon Gwy, ac adeiladodd Casnewydd lwybr beicio a cherdded enfawr dros
reilffordd gan gysylltu pobl mewn ffyrdd na fu’n bosib o’r blaen. Mae gan
Abertawe sawl darn o isadeiledd unigryw sy'n cysylltu pobl mewn ffyrdd heblaw
am geir. Ble mae uchelgais CNPT i wneud yr un peth? Pam na allwn ychwanegu
rhywfaint o isadeiledd gweladwy arwyddocaol sy'n darparu drws ffrynt i gerddwyr
a beicio i'n cyrchfannau. Gall a dylai fod yn fwy na hyn fel y mae yn ein
hawdurdodau lleol cyfagos.
Diolchodd Aelod y Cabinet dros Gynllunio Strategol, Trafnidiaeth a
Chysylltedd i Mr Dewitt am ei gwestiynau ac ymatebodd i'r Pwyllgor. Ers 2014,
mae Castell-nedd Port Talbot wedi cyflwyno ceisiadau i Lywodraeth Cymru am
welliannau Teithio Llesol gwerth dros £13,000,000 ac wedi llwyddo i sicrhau
dros £6,000,000. Mae ceisiadau am gyllid wedi cael eu cyflwyno bob blwyddyn ers
2014.
O ran cynigion aflwyddiannus, mae bob amser gormod o geisiadau'n cael eu
cyflwyno i'r Gronfa Teithio Llesol gan fod dros 22 o Awdurdodau Lleol yng
Nghymru'n cyflwyno cynigion.
Mae Adran 5 yn y Cynllun Cyflawni Teithio Llesol yn manylu ar welliannau
arfaethedig. Mae'r cynllun yn cynnwys 29 o gamau gweithredu a byddai'r cyllid
yn arwain at gyflawni gwelliannau mewn nifer o ardaloedd, gan gynnwys Canol
Tref Castell-nedd, Aberafan, Port Talbot, Cimla i Ganol Tref Castell-nedd,
Camlas Castell-nedd i Bont Llansawel. Yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae 400 o
lwybrau ar gyfer y dyfodol a bydd y gwelliannau arfaethedig hyn yn amodol ar
gyllid. Bydd hyn yn gwella 35% o lwybrau'r dyfodol ar Fap Rhwydwaith Teithio
Llesol Castell-nedd Port Talbot yn y dyfodol.
Diolchwyd i Mr Dewitt am y cwestiynau, ac am ymuno ag Aelodau a Swyddogion
yng nghyfarfod y Cabinet.