Cofnodion:
Gwnaeth yr Aelodau a'r Swyddogion canlynol
ddatganiadau o fudd ar ddechrau'r cyfarfod:
Y Cynghorydd T Bowen - Cofnod Rhif 11 – (B4287 Efail Fach i Bont-rhyd-y-fen,
Efail Fach) – gan ei fod yn aelod ward.
Cofnod Rhif 21 -
Diweddariad ar Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac
Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 a Chartref Diogel i Blant Hillside – gan fod
ganddo aelod o'r teulu sy'n gweithio yn Hillside
Cofnod
Rhif 22 – Adroddiad y Rheolwr ar Gartref Diogel i Blant Hillside - gan fod
ganddo aelod o'r teulu sy'n gweithio yng Hillside.
Cofnod
Rhif 12. 24 – Darparu cefnogaeth i Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn ei rôl
fel Corff Atebol ar gyfer y Porthladd Rhydd Celtaidd - gan ei fod yn Gadeirydd
y Cydbwyllgor Craffu.
Y Cynghorydd S Pursey - Cofnod Rhif 24 – Darparu cefnogaeth i Gyngor
Castell-nedd Port Talbot yn ei rôl fel Corff Atebol ar gyfer y Porthladd Rhydd
Celtaidd - gan ei fod yn rhan o'r trefniadau Craffu ar y Cyd.
Cofnod Rhif 12. 8 -
Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 – Cynllun Cyflawni Teithio Llesol
Castell-nedd Port Talbot (2024-2029) – gan y caiff ei enwi yn yr adroddiad fel
un o'r ymgyngoreion.
Y Cynghorydd J Hurley -
Cofnod Rhif 11 (Y B4287 Efail Fach i Bont-rhyd-y-fen, Efail Fach) – gan ei fod
yn aelod ward.
Nicola Pearce - Cofnod Rhif 24 – Darparu cefnogaeth i Gyngor Castell-nedd
Port Talbot yn ei rôl fel Corff Atebol ar gyfer y Porthladd Rhydd Celtaidd –
gan ei bod yn gyfarwyddwr cwmni Celtic Freeport Company Ltd. Teimlai fod
y budd hwn yn rhagfarnus, felly gadawodd y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.
Cofnod
Rhif 12. - Adolygiad o ffioedd a thaliadau a dalwyd mewn etholiadau Llywodraeth
Leol - Datganodd pob swyddog gysylltiad â hyn; cyflwynodd K Jones yr eitem.