Agenda item

Portffolio Monitro Chwarterol Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Cofnodion:

Rhoddodd Johnathan Burnes drosolwg i'r aelodau o adroddiad portffolio Monitro Chwarterol Bargen Ddinesig Bae Abertawe fel y'i cynhwysir yn y pecyn agenda.

 

Nododd aelodau mai 9,700 yw'r targed ar gyfer swyddi ar hyn o bryd, ond mae'r adroddiad yn dweud bod 615 o swyddi erbyn hyn. Gofynnodd yr aelodau pryd mae swyddogion yn credu y byddai'n dod yn agosach at y targed.

 

Atgoffodd swyddogion yr aelodau fod fframwaith gwerthuso wedi'i gyflwyno yn y cyfarfod diwethaf ac yn hynny roedd amserlenni awgrymedig o bryd y bydd pob prosiect yn gwerthuso elfennau o'u prosiectau.

 

Dywedodd swyddogion y byddant yn edrych ar effaith ehangach yr adeiladau ac nid gwaith codi'r adeilad yn unig. Pan fydd y gwerthusiadau hynny'n cael eu llunio a'u rhoi drwy'r system, bydd aelodau'n dechrau gweld niferoedd y swyddi yn cynyddu'n gyflym.

 

Rhoddwyd gwybod i'r aelodau o ran pryd y byddant yn cael yr adroddiadau, a'r un cyntaf fydd cam un Yr Egin a bydd hynny'n mynd i'r cydbwyllgor ym mis Rhagfyr ar gyfer eu gwerthusiad economaidd. Marina Abertawe fyddai nesaf, ac yna Arena Abertawe. Ar ôl hynny, bydd cyfres gyfan o bethau a fydd yn digwydd dros y blynyddoedd nesaf.

 

Dywedodd swyddogion eu bod yn cynnal gwerthusiad economaidd o brosiectau ar ôl o leiaf blwyddyn neu ddwy o weithredu a rhoddwyd enghraifft o brosiect SWITCH na fydd yn cael ei gwblhau ar ddiwedd 2026. Mae hyn yn dangos y gallai'r gwerthusiadau fynd hyd at oddeutu 2028/2029.

 

Gofynnodd yr aelodau am eglurhad ynghylch y ffigurau ar yr adroddiad. Nododd yr aelodau nad yw cyfanswm y targed buddsoddi wedi newid o'r adroddiad blaenorol, sef £1262.19m, a chyfanswm y buddsoddiad hyd yn hyn yw £318.23m. Nododd yr Aelodau, os ydych yn darllen y gwariant ariannol ar gyfer chwarter pedwar y llynedd a'r adroddiad diweddaru blynyddol, mae cyfanswm y targed buddsoddi'n ffigwr gwahanol, sef £1278.27m ar gyfer chwarter pedwar y llynedd ac mai cyfanswm y buddsoddiad hyd yn hyn yw £354m. Ceisiodd yr aelodau eglurhad o ran a oedden nhw'n darllen y ffigurau'n anghywir neu a yw'r ffigurau yn yr adroddiad yn anghywir.

 

Dywedodd swyddogion y byddent yn gwirio'r rhesymau y tu ôl i'r amrywiad eto a dywedodd y byddent yn rhoi ateb ffurfiol i'r aelodau'n ysgrifenedig drwy'r Cadeirydd i esbonio pam mae amrywiaeth yn y gwerthoedd.

 

Dywedodd yr Aelodau fod Cyngor Sir Penfro'n bryderus iawn ar hyn o bryd gyda'r Porthladd Rhydd Celtaidd a gofynnwyd pa effaith y mae'r porthladd rhydd yn ei chael ar y Fargen Ddinesig, neu a fydd yn cael unrhyw effaith ar gynlluniau'r Fargen Ddinesig.

 

Dywedodd swyddogion eu bod wedi canfod mewn perthynas â Bargen Ddinesig Bae Abertawe, fod llawer o'r partneriaid sy'n ymwneud â'r fargen ddinesig a'r porthladdoedd rhydd. Mae'r uwch berchnogion cyfrifol, fel Nicola Pearce, sef Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio yng Nghastell-nedd Port Talbot a Rachel Moxie o Gyngor Sir Penfro, yn uwch berchnogion cyfrifol ar gyfer prosiectau'r fargen ddinesig.

Dywedodd swyddogion fod Prosiect Morol Doc Penfro a chefnogi arloesedd a thwf carbon isel wedi helpu i sbarduno'r cais am borthladdoedd rhydd. Dywedodd swyddogion fod llawer o bethau eraill yn digwydd a bod partneriaid yn ymwneud â phethau sy'n ehangach na'r Fargen Ddinesig, ond roedd y rheini'n rhan o'r broses ymgeisio.

 

Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod cysylltiad rhwng y bobl ac amcanion yr hyn y mae'r fargen ddinesig a'r Porthladd Rhydd yn ceisio ei wneud, megis creu swyddi, buddsoddiad a chydweithio. Hysbysodd swyddogion yr aelodau fod popeth yn cael ei adlewyrchu ar draws y ddwy fenter oherwydd bod llawer o bethau eraill sy'n digwydd ar draws y rhanbarth sydd hefyd yn cael eu heffeithio gan y fargen ddinesig, o ran mewnbwn ac allbwn. Defnyddiodd swyddogion esiampl Arena Abertawe, sydd hefyd wedi helpu i sbarduno pethau eraill ar draws canol y ddinas.

Mae swyddogion yn teimlo y gallent ddewis pob prosiect unigol ac edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd o'u cwmpas a dyna maen nhw'n gobeithio ei wneud drwy'r gwerthusiadau gan edrych ar y gwerthusiad effaith ehangach o'r hyn y mae'r prosiectau hyn wedi'i ysgogi a'i gyflwyno ar gyfer y rhanbarth.

 

Cynigiodd Jonathan Burnes i siarad â'r cynghorwyr am y materion hyn os oedd ganddynt unrhyw gwestiynau ychwanegol.

 

Rhoddodd y Cadeirydd wybod i'r aelodau y cynhaliwyd y cyfarfodydd pwyllgor craffu ar y Porthladd Rhydd cyntaf ar gyfer y tîm Craffu a'r aelodau, ac maent wedi awdurdodi'r cyllid 1af o £25,000,000 i symud y Porthladd Rhydd yn ei flaen gyda £10 miliwn ar gyfer Cyngor Sir Penfro a £15,000,000 i Gastell-nedd Port Talbot i ddechrau ar bopeth.

 

Gofynnodd yr aelodau pryd y byddent yn derbyn yr adroddiadau gwerthuso. Eglurodd swyddogion fod llawer o amserlenni ar draws y portffolio, ond yr adroddiad gwerthuso cyntaf fydd ar gyfer Yr Egin a'r gobaith yw y gwneir hyn erbyn y cyfarfod nesaf. Yr adroddiad nesaf ar ôl hynny fydd ar gyfer Arena Abertawe, sydd wedi'i drefnu ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Dywedodd yr aelodau yr hoffent weld pa fanyleb yw'r gwerthusiad, sut mae'n cael ei werthuso a phwy sy'n gwneud y gwerthusiad.

 

Eglurodd swyddogion y bydd yn amlwg ar gyfer Yr Egin pan gaiff ei adrodd, ond ni wnaed penderfyniad eto ynghylch yr hyn y gofynnir amdano yn y gwerthusiad a phwy fydd yn cael ei benodi i'w wneud. Rhaid i'r holl werthusiadau yn y dyfodol fynd trwy broses gaffael.

 

Defnyddiodd yr aelodau esiampl Arena Abertawe a dywedodd y gallwch ofyn yn y gwerthusiad sut mae'r arena o fudd i'r rhanbarth cyfan, neu gallwch ofyn sut y mae o fudd i'r ardal lle mae'r arena wedi'i lleoli. Teimlai'r aelodau mai dyma'r fethodoleg a fydd yn rhoi cysur i bobl sydd eisiau gwybod yr hyn maen nhw wedi'i dderbyn o ganlyniad i'w buddsoddiad.

 

Esboniodd swyddogion fod rhan o'r fethodoleg honno yn y fframwaith gwerthuso, ond ni fyddai'n nodi pob un manylyn unigol, ond byddai'n dweud yn y fframwaith gwerthuso y byddai unrhyw amcan portffolio fel swyddi, effaith economaidd a buddsoddiad yn cael ei werthuso. Byddai hyn yn cael ei werthuso'n lleol, yn rhanbarthol ac o bosib yn genedlaethol.

 

Dywedwyd wrth yr aelodau'n ogystal fod gan bob prosiect a rhaglen gynllun gwireddu buddion, a dylid profi'r buddion hynny yn erbyn gwerthusiad o'r prosiect neu'r rhaglen a dyna'r hyn a ddylai fod yn ffocws ar gyfer y rheini, er mai mater i'r sefydliadau cyflawni arweiniol yw nodi'r hyn y byddant yn ei werthuso.

Dywedodd swyddogion fod ganddynt broffiliau gwerthuso ar gyfer pob prosiect unigol sy'n manylu ar yr hyn y maent yn bwriadu ei werthuso ac ar yr adeg pan fyddant wedi amcangyfrif pryd y maent yn gobeithio cyflawni'r rhain.

 

Dywedodd yr aelodau fod llawer o ragamcanion yn yr holl gynlluniau busnes y mae'n rhaid eu profi yn eu herbyn a'u bod yn teimlo ei fod yn fater pwysig o ran y fethodoleg a sut y bydd hynny'n cael ei strwythuro a phwy sy'n mynd i wneud hynny.

 

Nodwyd yr adroddiad.

Dogfennau ategol: