Agenda item

Y Diweddaraf am Gynnydd Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel

Cofnodion:

Rhoddodd Lisa Willis, Rheolwr y Rhaglenni Ariannu Strategol, yr wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am gynnydd y rhaglen cefnogi arloesedd a thwf carbon isel.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod rheolwr blaenorol y rhaglen wedi cymryd rôl arall yng Nghyngor Sir Castell-nedd Port Talbot ac mae'r rôl wedi cael ei hysbysebu ond heb ei llenwi. Mae Lisa Willis wedi cymryd yr awenau fel rheolwr y rhaglen ac mae ei swyddog raglen yn ei chefnogi.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod gan bob un o'r prosiectau ei reolwr prosiect ei hun sy'n adrodd i Lisa Willis, felly nid oes risg i gyflawniad oherwydd y newid.

 

Rhoddwyd trosolwg i'r aelodau o bob un o'r 8 prosiect rhyng-gysylltiedig a nod pob un ohonynt yw sicrhau twf economaidd carbon isel, cynaliadwy a chynhwysol i'r rhanbarth.

Canolfan Dechnoleg y Bae

Rhoddwyd gwybod i'r aelodau mai adeilad ynni-gadarnhaol hybrid yw hwn, ac ar hyn o bryd mae 53% ohono wedi'i lenwi. Eglurodd swyddogion y disgwylir i dri chwmni arwyddo prif delerau ac roedd swyddogion hefyd ar fin cyhoeddi prif delerau eraill i gwmni arall. Ar hyn o bryd mae swyddogion yn cynnal trafodaethau gyda chwmni ychwanegol; byddai hyn yn golygu y dylai 5 cwmni arall ymuno dros y ddau fis nesaf.

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau bod y cyfleuster yn cael ei hyrwyddo drwy'r wefan a thrwy gyfryngau cymdeithasol ac mai'r tenant diweddaraf i gyrraedd yw'r Catapwlt Cynhyrchu Gwerth Uchel ac mae wedi sefydlu swyddfa yng Nghanolfan Dechnoleg y Bae. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod ganddynt offer o'r radd flaenaf sy'n cefnogi busnesau ar draws y rhanbarth, Cymru a'r DU.

 

Canolfan Ddiwydiannol Pontio o Garbon De Cymru (SWITCH)

Dywedodd swyddogion fod SWITCH yn cefnogi datgarboneiddio'r diwydiant dur a metelau a Phrifysgol Abertawe yw'r partner cyflawni. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod y cam dylunio 12 mis wedi dod i ben gydag ymgynghoriad cyn ymgeisio y bwriedir ei gyflwyno'n fuan a bydd cam adeiladu 15-18 mis yn dilyn hyn a disgwylir iddo gael ei gwblhau ar ddiwedd 2026.

Roedd swyddogion yn teimlo bod hwn yn brosiect cyffrous, ac mae hefyd wedi addasu i newidiadau gyda chyhoeddiad Tata Steel sy'n edrych ar ddatgarboneiddio dur yn ogystal â'r diwydiant dur a metelau ar draws y rhanbarth.

Cyfleuster cynhyrchu gweithgynhyrchu uwch

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau y bu oedi gyda'r prosiect hwn o ran trafod opsiynau tir a sicrhau ei fod yn cyd-fynd â'r dirwedd arloesi.

Mae swyddogion yn siarad â Llywodraeth Cymru ynghylch yr ardaloedd tir ac yn ymgysylltu â phartneriaid ar hyn. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau hefyd fod llawer o ddiddordeb yn hyn o ran arallgyfeirio diwydiant ar draws Castell-nedd Port Talbot a'r rhanbarth ehangach.

Canolfan Rhagoriaeth Sgiliau Sero Net

Bydd hyn yn rhannu'r un lleoliad â'r cyfleuster cynhyrchu gweithgynhyrchu uwch ac mae swyddogion yn edrych ar ei leoliad ac yn trafod sawl opsiwn o ran tir.

Prosiect ysgogi hydrogen

Dywedwyd wrth yr aelodau fod y prosiect hwn mewn dwy ran. Prifysgol De Cymru sy'n arwain y rhan gyntaf ac mae honno'n edrych ar gynyddu capasiti cynhyrchu hydrogen ar ei safle ym Mharc Ynni Baglan.

Mae'r ail ran yn edrych ar y cysyniad o gerbydau sy'n cael eu pweru gan hydrogen, gan edrych o bosib ar gasgliadau sbwriel neu gerbydau fflyd y cyngor. Mae swyddogion yn gweithio'n agos gyda nifer o gyflenwyr ar hyn ac yn gweithio'n agos gyda Phrifysgol De Cymru ar y prosiect ysgogi hydrogen.

Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod llawer o ddatblygiadau ar hyn o bryd yn y prosiectau ysgogi hydrogen ar draws Castell-nedd Port Talbot a'r rhanbarth ehangach ac mae swyddogion yn sicrhau bod popeth yn cyfateb â hynny.

Prosiect isadeiledd gwefru cerbydau allyriadau isel

Esboniodd swyddogion fod y prosiect hwn yn edrych ar fapio a sicrhau cydlynu ar draws y rhanbarth. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y prosiect yn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd cyllido ar draws y rhanbarth ac yn edrych ar astudiaeth achos lle gellir gwefru ar y stryd. Mae swyddogion yn edrych ar gysylltu hynny gydag un o'r prosiectau cartrefi fel gorsafoedd pŵer yn ardaloedd y cymoedd yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Prosiect monitro ansawdd aer

Dywedodd swyddogion fod hyn yn dod i ben a bod rhai treialon o synwyryddion symudol cost isel yn digwydd, ac maent yn aros am yr adroddiadau terfynol i gau'r prosiect hwnnw a rhannu'r hyn a ddysgwyd ohono.

Cronfa Datblygu Eiddo

Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod hyn ar gyfer ardal fenter Glannau Port Talbot. Yn y rownd gyntaf, mae swyddogion wedi dyfarnu 3 chontract sy'n werth ychydig dros £1,000,000 a chyda buddsoddiad o £1,000,000 gan y sector preifat ar ben hynny.

Dywedodd swyddogion wrth aelodau hefyd eu bod yn monitro buddion Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel, megis trosoledd y sector preifat a'r nifer gros o swyddi a grëwyd, ynghyd â'r buddion sy'n gysylltiedig â'r targedau portffolio ehangach.

Nododd yr aelodau'r buddsoddiad o £2,000,000 mewn perthynas â'r rhaglen ysgogi hydrogen a gofynnwyd faint o arian o'r fargen ddinesig a roddwyd i hynny.

Dywedodd swyddogion mai'r buddsoddiad o £2,000,000 yw cyfanswm grantiau'r Fargen Ddinesig ar gyfer y prosiect. Mae hynny wedi'i rannu rhwng £1.5 miliwn i Brifysgol De Cymru ar gyfer y gwaith isadeiledd a phrynu'r electrolyswr, a fydd yn cynyddu'r capasiti yn y ganolfan ail-lenwi. Mae'r £500,000 sy'n weddill yn talu am y gwahaniaeth mewn costau rhwng prynu cerbyd safonol a cherbyd hydrogen mwy costus. Clustnodir hyn ac nid yw wedi'i wario hyd yn hyn.

Ar hyn o bryd mae swyddogion yn ceisio datblygu techneg â llawes gan na allent osod gwifren rhwng Canolfan Technoleg Bae Abertawe a Chanolfan Hydrogen Prifysgol De Cymru ym Mharc Ynni Baglan oherwydd heriau amrywiol. Mae swyddogion hefyd yn edrych ar gytundeb prynu pŵer.

Roedd yr aelodau'n poeni mai dim ond 300 o gerbydau sy'n cael eu pweru gan hydrogen yn y DU a llai na 15 o orsafoedd tanwydd ac roeddent yn meddwl tybed faint o gynnydd a wnaed gyda phartneriaid mewn gwirionedd.

Eglurodd swyddogion mai ychydig iawn o gerbydau hydrogen sydd ar gael am fod nifer cyfyngedig o orsafoedd ail-lenwi ar gael. Mae swyddogion yn ei ystyried fel sefyllfa'r wy a'r iâr a phe byddai sawl gorsaf ail-lenwi ledled y wlad, a sawl datblygiad ar eu cyfer yng Nghastell-nedd Port Talbot ac ar draws rhanbarth Dinas Bae Abertawe, bydd hynny'n rhoi sicrwydd i bobl y gallant ail-lenwi eu cerbydau hydrogen.

Fodd bynnag, pwysleisiodd swyddogion nad yw'r prosiect hwn yn edrych ar geir masnachol cyffredinol ac yn hytrach yn edrych ar gerbydluoedd ac ar gerbydau cludo nwyddau trwm yn benodol, oherwydd mae hydrogen yn fwy addas i'w ddefnyddio ar gyfer cerbydau ac maent yn archwilio sawl cerbyd gyda cherbydlu CNPT a'u timau Strydlun.

Rhoddwyd gwybod i'r aelodau mai nod prosiect Bargen Ddinesig Abertawe oedd creu ysgogiad hydrogen, ac mae cwmni Protium bellach wedi buddsoddi ynghyd â Phrifysgol De Cymru ac maent yn ystyried ehangu ymhellach.

Rhoddwyd gwybod i'r aelodau, o ran nod cyffredinol prosiectau ysgogi hydrogen, ei fod yn gwneud yr hyn y bwriadwyd iddo ei wneud ac mae hynny'n annog mwy o orsafoedd ail-lenwi ar draws coridor yr M4 ac ar draws yr ardal ehangach, a bydd hynny'n cynyddu'r nifer sy'n defnyddio cerbydau hydrogen yn fasnachol er bod swyddogion yn edrych ar gerbydlu'r cyngor ac nid ar gerbydau personol.

Dywedodd swyddogion fod yr hanner miliwn ychwanegol wedi'i neilltuo i ariannu'r bwlch rhwng cerbyd safonol a cherbyd hydrogen ac ni wariwyd hynny hyd yn hyn.

Nododd yr Aelodau fod y cerbydau'n ddrud ac ychydig iawn o leoedd y gallwch redeg cerbydau hydrogen oherwydd nad oes rhwydwaith eto, ac mae'n ymddangos bod y prosiect ar lefel sy'n debycach i lefel ymchwil.

Dywedodd swyddogion fod Protium wedi buddsoddi yn ardal Prifysgol De Cymru a gall swyddogion roi mwy o fanylion am hynny.

Roedd aelodau'n teimlo bod ganddyn nhw gyfrifoldeb i ofyn pam y gwariwyd yr arian hwn ar rywbeth y maen nhw'n credu nad yw'n ddefnyddiol o gwbl o hyd a nodwyd nad oes llawer o enghreifftiau ledled y byd lle defnyddir prosiect hydrogen o hyd. Defnyddiodd yr aelodau enghraifft o'r bysiau yn y Gemau Olympaidd yn Atlanta a nododd, pan fydd yr ysgogiad wedi mynd, nad yw'n ymddangos bod prosiectau'n parhau, er bod aelodau'n nodi ei bod yn rhan o strategaeth ynni llywodraeth y DU i gael tua 18% o gerbydau hydrogen yn y dyfodol.

Roedd yr aelodau'n amheus am y dechnoleg ac yn poeni y gallai arian trethdalwyr gael ei wastraffu arno.

Dywedodd swyddogion eu bod yn gweithio'n agos gyda John Maddie o Brifysgol De Cymru a Phrifysgol Abertawe o ran yr enghreifftiau yn yr Alban o gerbydau hydrogen sy'n cael eu defnyddio gan gynghorau ac yn edrych ar wersi a ddysgwyd o bob rhan o'r Alban a gweddill Ewrop. Dywedodd swyddogion y gwnaed hyn mewn mannau eraill ond mae angen i chi ganolbwyntio ar orsafoedd ail-lenwi. Ar hyn o bryd mae'n bosib y bydd 4 ohonynt yn cael eu datblygu o fewn Dinas-ranbarth Bae Abertawe ar gyfer ail-lenwi.

Ychwanegodd swyddogion gyd-destun pellach a nodwyd mewn perthynas â'r prosiect ysgogi hydrogen o fewn portffolio'r fargen ddinesig eu bod yn gweithio o fewn cyd-destun rhanbarthol a chenedlaethol. Hysbyswyd yr aelodau nad yw hydrogen wedi cael ei ddefnyddio ers amser hir ac mae llawer o waith i'w wneud o hyd o ran cael polisïau a chymeradwyaeth y llywodraeth, yn enwedig o ran cerbydau a defnyddio hydrogen mewn cartrefi.

Nododd swyddogion eu bod yn teimlo, o ran yr hyn sydd yn y rhanbarth rhwng cynhyrchu hydrogen, storio hydrogen a'i ddefnyddio, p'un a fydd hynny mewn cartrefi, mewn diwydiant neu ar gyfer ceir, bod gan hydrogen botensial enfawr. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod llawer o fusnesau a diddordeb o ran hydrogen, ond maent yn y camau cynharach, ond mae gan y fargen ddinesig botensial uchel i'w gwneud yn llwyddiannus yn y rhanbarth ac mae'r prosiect ysgogi hydrogen yn rhan o'r jig-so hwnnw ar gyfer y rhanbarth.

Dywedodd swyddogion mai nod y prosiect yw gweithredu fel prosiect ysgogi ac roeddent yn teimlo bod buddsoddiad Protium ynddo'n dangos bod y prosiect hwn yn gwneud yr hyn y mae'n ei ddweud.

Nid yw'r prosiect yn ymwneud â'r cerbydau hydrogen yn unig, ond mae hefyd yn gysylltiedig â phrosiect SWITCH ac archwilio cyfleoedd yn y maes hwnnw megis masnacheiddio.

Mae swyddogion yn edrych ar y gwersi a ddysgwyd ac yn archwilio cyfleoedd gyda gweddill Ewrop.

Cynigiodd swyddogion i John Maddie, y maent yn gweithio'n agos ag ef ym Mhrifysgol De Cymru, ddod i gyfarfod cynnydd arall a chanolbwyntio ar yr agwedd hydrogen neu i aelodau gyfarfod â Phrifysgol De Cymru i drafod y gwaith hydrogen y mae'n ei wneud a'r cysylltiadau â masnacheiddio.

Cytunodd yr aelodau fod hyn yn syniad da.

 

Nodwyd yr adroddiad.

Dogfennau ategol: