Cofnodion:
Rhoddwyd diweddariad i'r aelodau
ynghylch y cynnydd o ran y cynllun cyflawni rhanbarthol ar gyfer Ynni; yn unol
ag ymrwymiad Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru, fel yr amlinellir yn
Amcanion Lles y Cynllun Corfforaethol, gyda phwyslais ar Ynni Rhanbarthol.
Nodwyd bod y tri phrosiect
arfaethedig y manylir arnynt yn atodiadau'r adroddiad a ddosbarthwyd er
gwybodaeth a byddant yn destun datblygiad, cyn ceisio cymeradwyaeth gan
gyfarfod Is-bwyllgor Ynni Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru yn y
dyfodol.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor
fod Llywodraeth Cymru wedi mandadu Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru
i roi Strategaeth Ynni Rhanbarthol ar waith ar gyfer y rhanbarth; ac ar 15
Mawrth 2022, penderfynwyd mabwysiadu Strategaeth Ynni Rhanbarthol De-orllewin
Cymru fel fframwaith ar gyfer rhaglen waith Cyd-bwyllgor Corfforaethol
De-orllewin Cymru. Eglurwyd bod y Cynllun Corfforaethol yn cynnwys sawl amcan
lles fel rhan o'r ymrwymiad hwnnw. Amcan Lles 1 oedd darparu'r Cynllun Cyflawni
Economaidd Rhanbarthol a'r Strategaeth Ynni Rhanbarthol ar y cyd.
Roedd swyddogion yn cydnabod
bod pryderon ynghylch y Cynlluniau Ynni Ardal Leol a sut roeddent yn offeryn ar
gyfer cyflenwi lleol. Fodd bynnag, dywedwyd bod y Cynlluniau Ynni Ardal Leol yn
cyflawni gwaith y Strategaeth Ynni Rhanbarthol ac yn cyflawni camau gweithredu
ar gyfer Amcan Lles 1. I gloi, roedd synergedd a gorgyffwrdd cryf rhwng y
Strategaeth Ynni Rhanbarthol a'r Cynlluniau Ynni Ardal Leol. Bydd y ddau ohonynt yn llywio'r darlun
cenedlaethol.
Tynnwyd sylw at y ffaith bod y
pedwar adroddiad Cynlluniau Ynni Ardal Leol bellach wedi'u cwblhau. Roedd Cynlluniau Ynni Ardal Leol Sir Benfro
wedi'u cwblhau yn 2022, ac erbyn hyn roedd y tri Awdurdod Lleol arall wedi
cwblhau eu rhai nhw. Fel y soniwyd eisoes, bydd yr adroddiadau hyn yn ffurfio'r
Strategaeth Ynni Ranbarthol. Ar hyn o bryd roedd Llywodraeth Cymru'n
cydgrynhoi'r data hwn i ffurfio darlun rhanbarthol ac yna darlun cenedlaethol.
Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau
bod y Cynlluniau Ynni Ardal Leol wedi cael eu datblygu yn seiliedig ar
amgylchiadau a blaenoriaethau pob Awdurdod Lleol. Nodwyd bod y Cynlluniau Ynni
Ardal Leol ar gyfer Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Sir Gaerfyrddin yn cael
eu cyfieithu i'r Gymraeg ar hyn o bryd, a'r cam nesaf yn dilyn hyn fyddai
cyhoeddi.
Rhoddodd swyddogion enghraifft
o un o'r cynlluniau gweithredu ac esboniodd fod y camau gweithredu a'r themâu
allweddol yn ailadrodd yr hyn oedd yn y Strategaeth Ynni Ranbarthol; Roedd hyn
oherwydd mae llawer o'r camau o fewn y Cynlluniau Ynni Ardal Leol yn gamau
gweithredu rhanbarthol. Tynnwyd sylw at y ffaith bod 67 o gamau gweithredu o
fewn y Strategaeth Ynni Rhanbarthol bresennol, a oedd yn rhan o Gynllun
Corfforaethol Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru; Roedd 51 ohonynt yn
cael eu cynnwys yn uniongyrchol yn y Cynlluniau Ynni Ardal Leol, ac nad oedd
angen ymdrin â'r rheini ar lefel genedlaethol.
Nodwyd, dros yr haf roedd
swyddogion wedi adolygu'r camau gweithredu y tynnwyd sylw atynt gan City
Science. Cydnabuwyd bod nifer o gamau yn ymwneud ag ôl-osod a rhoi systemau
gwresogi carbon lleol ar waith nad oeddent wedi cael eu nodi fel camau
gweithredu rhanbarthol, er bod y camau gweithredu hyn naill ai'n cael eu
cynnwys gan fwy nag un Awdurdod Lleol neu roedd ganddynt rai elfennau yr oedd
angen ymdrin â hwy ar lefel ranbarthol.
Yn dilyn yr uchod, cadarnhawyd
bod Swyddogion wedi dechrau blaenoriaethu'r camau gweithredu ar gyfer y Tîm
Ynni Rhanbarthol. Gellir dod o hyd i'r rhestr hon yn Atodiad A yr adroddiad a
ddosbarthwyd. Soniwyd bod y camau gweithredu melyn yn cynnwys gwaith sy'n mynd
rhagddo yr oedd angen gwaith cydlynu ac ymgysylltu arnynt. Y camau gweithredu coch oedd y prosiectau a
oedd yn cael eu datblygu.
Esboniodd swyddogion mai camau
gweithredu cyntaf y Cynlluniau Ynni Ardal Leol diweddaraf oedd llunio'r broses
lywodraethu. Yn hytrach na chreu
grŵp llywio pellach ar gyfer cydlynu rhanbarthol y Cynlluniau Ynni Ardal
Leol, cytunwyd y byddai'r grŵp craidd ynni presennol yn gwasanaethu'r
swyddogaeth honno. Ychwanegwyd y byddai hyn yn galluogi rhanddeiliaid, timau
ynni rhanbarthol a thimau ynni a chynaliadwyedd yr Awdurdod Lleol i fwydo i
mewn i'r broses.
Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch
Rhaglen Waith y Tîm Ynni Rhanbarthol a'r prosiectau. Roedd hyn yn cynnwys Solar
Together gan iChoosr, Rhaglen Newid Ymddygiad Ôl-osod Rhanbarthol a
chynllun peilot gwefru cerbydau trydan trawsffiniol. Amlinellwyd manylion pob
prosiect yn Atodiadau B, C a D yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Rhoddwyd senario i'r Pwyllgor
ynghylch lefel y newid a'r trawsnewidiad a fydd yn digwydd ar draws y
rhanbarth; Tynnodd y ffigurau hyn sylw at bwysigrwydd y prosiectau a'r
cynlluniau bach a oedd yn digwydd yng nghartrefi a busnesau pobl. Esboniwyd mai
cyfuniad o'r prosiectau llai hyn a'r prif brosiectau fydd y ffordd orau o
gyflawni Sero-Net. Roedd gan drawsnewid cwsmeriaid lefelau uchel o
ddatgarboneiddio a newid cymdeithasol.
Cyfeiriwyd at y cynllun peilot
gwefru cerbydau trydan trawsffiniol a nodwyd yn Atodiad D yr adroddiad a
ddosbarthwyd; Gofynnodd yr aelodau a oedd cyfle i rannu rhwydweithiau gyda
phartneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) ac ati. Cadarnhawyd bod Swyddogion
yn dechrau trafodaethau gyda phartneriaid fel Parciau Cenedlaethol a Byrddau
Iechyd, gan fod cyfle clir i gydweithio. Ychwanegwyd y gallai hyn gynnwys
busnesau lleol hefyd.
Yn dilyn y cwestiwn uchod,
nodwyd bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi bod yn gwneud darn o waith dros y pedwar
mis diwethaf gyda phartneriaid Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus sy'n ymwneud â'r
mater hwn a theimlwyd bod y trafodaethau a'r wybodaeth a rannwyd yn gefnogol
iawn. Awgrymodd Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd, Datgarboneiddio a
Chynaliadwyedd yng Nghyngor Sir Gâr y byddai'n ddefnyddiol rhannu manylion
cyswllt y Swyddogion a oedd wedi bod yn arwain ar y darn hwnnw o waith.
Mewn perthynas â phrosiect
Solar Together gan iChoosr, holwyd a fydd y llythyrau sy'n cael eu hanfon
i'r eiddo yn cael eu brandio gan yr Awdurdod Lleol perthnasol. Yn ogystal â
hyn, gofynnwyd a oedd unrhyw wersi wedi cael eu dysgu neu a oedd unrhyw risgiau
i'w nodi gan Awdurdodau eraill a oedd wedi ymgymryd â'r prosiect hwn. Nodwyd
bod y nifer o Awdurdodau Lleol yr oedd Swyddogion wedi siarad â nhw yn Lloegr
yn ganmoliaethus iawn o'r prosiect. Mewn rhai blynyddoedd roeddent hyd yn oed
wedi gwneud elw bach o'r prosiect. Er y byddai'r prosiect yn cael ei drefnu'n
rhanbarthol, dywedwyd y byddai llythyrau wedi'u targedu yn cael eu hanfon allan
gyda brand yr Awdurdod Lleol perthnasol.
Byddai hyn yn helpu i roi hyder i drigolion yn y prosiect.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.
Dogfennau ategol: