Cofnodion:
Cyflwynodd swyddogion
adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer cynnwys y rhestr o gynigion
cyfalaf sbarduno yn yr Achos Busnes Llawn ar gyfer y Porthladd Rhydd Celtaidd.
Rhoddodd Prif Weithredwr
Cyngor Sir Penfro drosolwg o'r cefndir o ran ymdrech y Porthladd Rhydd hyd yn
hyn, a'r camau nesaf wrth symud ymlaen â'r Achos Busnes Amlinellol a'r Achos
Busnes Llawn.
Esboniwyd bod yr Achos Busnes
Amlinellol wedi cael ei gymeradwyo gan y ddau Awdurdod Lleol yn flaenorol a'i
gyflwyno i Lywodraeth y DU; roedd swyddogion wedi disgwyl derbyn adborth a
phenderfyniad i gymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol erbyn hyn, fodd bynnag
roedd yr Etholiad Cyffredinol sydyn a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2024 wedi
amharu ar yr amserlen. Dywedwyd wrth yr Aelodau nad oedd y broses hon wedi'i
chwblhau eto.
O ran yr Achos Busnes Llawn,
roedd Llywodraeth y DU wedi gofyn am gyflwyno'r achos yn gynt, yn gynnar ym mis
Hydref 2024; roedd hyn er mwyn ceisio sicrhau bod y broses hon wedi'i chwblhau
erbyn diwedd mis Hydref 2024. Nodwyd y bydd Aelodau'r ddau Awdurdod Lleol yn
derbyn yr Achos Busnes Llawn drafft dros yr wythnosau nesaf i'w adolygu a
phenderfynu arno cyn ei gyflwyno'n derfynol i Lywodraeth y DU.
Hysbyswyd y Pwyllgor fod
gofyniad o fewn yr Achos Busnes Llawn i gyflwyno cynigion ar gyfer buddsoddi'r
cyllid cyfalaf sbarduno gan Lywodraeth y DU. Roedd yr adroddiad a gylchredwyd
yn nodi'r defnydd arfaethedig o gyfalaf sbarduno i'w ystyried gan y Cyd-bwyllgor,
ac roedd y Swyddogion yn ceisio
penderfyniad ar y rhestr o brosiectau i'w cynnwys yn yr Achos Busnes
Llawn.
Soniwyd bod y cynigion wedi
bod yn destun proses eithaf trylwyr, fodd bynnag, roedd yr amserlen gyflymach
wedi effeithio ar lefel y craffu ar gyfer rhai prosiectau penodol.
Hysbyswyd yr aelodau fod yr
elfen cyfalaf sbarduno o hyd at £25 miliwn fesul Porthladd Rhydd, yn rhan
hirsefydlog o'r pecyn; gyda'r syniad i helpu i sbarduno prif fuddsoddiadau ar
gam cynnar er mwyn helpu'r Porthladd Rhydd i gyflawni ei amcanion.
Amlygwyd bod yr Achos Busnes
Llawn yn un cam yn y broses o ddyrannu cyfalaf sbarduno; pe bai'r Achos Busnes
Llawn yn cael ei gymeradwyo, yna roedd angen i achosion busnes unigol lenwi
manylion pob un o'r cynigion. Dywedodd swyddogion fod porthladdoedd rhydd
eraill wedi profi'r angen i ailedrych ar eu dyraniad gan nad oedd yr achosion
busnes manwl mewn perthynas â rhai o'r cynigion, yn cyflawni'r hyn y dylent;
roedd llawer o resymau am hyn, fel cynlluniau busnes wedi newid, a/neu nid oedd
arian cyfatebol preifat wedi cyrraedd.
Cynhaliwyd trafodaeth
ynglŷn â'r set o brosesau yr oedd y Porthladd Rhydd wedi'i sefydlu i symud
ymlaen gyda dyraniadau; roedd hyn yn cynnwys argymhellion gan banel annibynnol
a oedd yn mynd gerbron Bwrdd y Porthladd Rhydd, cyn cael ei gyflwyno i'r Cyd-bwyllgor.
Nodwyd bod yn rhaid rhagfyrhau'r broses hon, yn benodol y gwaith o graffu ar
gynigion unigol gan y panel annibynnol; fodd bynnag, rhoddwyd argymhellion i
Fwrdd y Porthladd Rhydd, a oedd wedyn wedi llunio'r argymhellion a gynhwysir yn
yr adroddiad a gylchredwyd i'w ystyried gan y Cyd-bwyllgor.
Cytunodd y Cyd-bwyllgor nad oedd Atodiad 1 a 2 i'r adroddiad a gylchredwyd
i'w cyhoeddi, yn unol â Rheoliad 5(2) a (5) o Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 a
pharagraff 14 Rhan 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Yn unol â
Pharagraff 21 o'r Atodlen hefyd, ac yn holl
amgylchiadau'r achos, ystyrir bod budd y cyhoedd wrth gynnal yr eithriad
yn
gorbwyso budd y cyhoedd o ran
datgelu'r wybodaeth.
Er mwyn trafod ac ystyried yr Atodiadau preifat, penderfynodd yr Aelodau
symud i sesiwn breifat, am y rhesymau uchod. Ar ôl trafod yr Atodiadau preifat
hyn, penderfynodd y Cyd-bwyllgor ailddechrau mewn sesiwn gyhoeddus. Cytunwyd ar
y penderfyniad isod mewn sesiwn gyhoeddus.
PENDERFYNWYD:
Bod y rhestr o brosiectau a nodir yn Atodiad 2 yr
adroddiad a gylchredwyd yn cael ei chymeradwyo i'w chynnwys yn yr Achos Busnes
Llawn.
Dogfennau ategol: