Cofnodion:
Gwnaed
cyflwyniad gan y Swyddogion i'r Pwyllgor Cynllunio ar y cais hwn (Newid defnydd
o Ddosbarth A1 (manwerthu) i Ddosbarth D2) (Campfa) ym Mharc Manwerthu Cwm
Nedd) fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Roedd
yr Aelodau Ward Lleol wedi gofyn i’r cais gael ei benderfynu gan y Pwyllgor
Cynllunio ac roeddent yn bresennol i roi eu sylwadau yn y cyfarfod.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo Cais Rhif P2024/0257 - Pure Gym Limited, Parc
Manwerthu Cwm Nedd - yn unol ag argymhellion y Swyddogion, yn amodol ar yr
amodau a fanylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd a'r daflen ddiwygiadau.