Cofnodion:
Diolchodd y
Cadeirydd i'r swyddogion am yr adroddiad manwl a diddorol.
Rhoddodd y
Pennaeth Tai a Chymunedau drosolwg i'r aelodau o'r adroddiad a gynhwysir yn y
pecyn agenda.
Rhoddodd
swyddogion wybodaeth ychwanegol i'r aelodau nad oedd wedi'i chynnwys yn yr
adroddiad. Mae'r newid i elfen ddisgresiynol y grant wedi sbarduno newid mewn
ymddygiad gyda chynnydd mewn ceisiadau am lifftiau fertigol oherwydd y gost is
o'i gymharu ag estyniadau. Fodd bynnag, nid yw'r ymagwedd hon yn darparu ateb
hirdymor priodol.
Cododd y
Cadeirydd bryder ynghylch risgiau diogelwch posib i rai preswylwyr sy'n
defnyddio lifftiau fertigol.
Gofynnodd yr
aelodau sut y cymhwyswyd taliadau eiddo oes ar gyfer tai cymdeithasol .
Cadarnhaodd
swyddogion y byddai cyllid disgresiynol ar gael i eiddo preifat ac eiddo a
rentir yn breifat yn unig. Roedd yn debygol y byddai unrhyw gyllid disgresiynol
yn cael ei ad-dalu ar ryw adeg o eiddo preifat neu eiddo a rentir yn breifat,
ond nid oedd hyn yn berthnasol i dai cymdeithasol.
Holodd yr Aelodau
a oedd yn ofynnol i landlordiaid preifat gydlofnodi unrhyw gytundeb cyllido.
Cadarnhaodd
swyddogion fod yn rhaid rhoi caniatâd landlord cyn y gellir gwneud unrhyw waith
ar eiddo a rentir yn breifat a bod landlordiaid yn ymwybodol o'r amodau
cyllido.
Gofynnodd yr
aelodau a oedd cleifion ysbyty a oedd yn aros am addasiadau i eiddo yn cael eu
blaenoriaethu ac a oedd y Bwrdd Iechyd yn cyfrannu'n ariannol.
Cadarnhaodd
swyddogion nad yw'r Grant Rhyddhau o'r Ysbyty a oedd ar gael yn flaenorol yn
cael ei gynnig bellach a bod yn rhaid i Therapyddion Galwedigaethol
flaenoriaethu angen. Lle nodir angen blaenoriaethol, byddai'r cais yn cael ei
symud cyn belled ag y bo modd ar y rhestr aros, yn dibynnu ar gyflwr presennol
y gwariant. Nodwyd bod ymrwymiadau eisoes ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf.
Holodd yr aelodau
a oes angen mwy o arian oddi wrth y bwrdd iechyd a holwyd pam nad yw'r Grant
Cyllido Rhyddhau o'r Ysbyty ar gael mwyach.
Cadarnhaodd
swyddogion fod ymdrechion wedi'u gwneud i gael arian ychwanegol gan y bwrdd
iechyd, ond ni chafwyd unrhyw arian. Bu newid i Grantiau Bae'r Gorllewin, ac
ataliwyd cymeradwyaeth. Nodwyd bod llawer o bobl ar y rhestr aros yn cael yr un
flaenoriaeth a bod anawsterau o ran blaenoriaethu gan fod yr adnoddau sydd ar
gael yn brin. Mewn rhai achosion, cyflwynodd Therapyddion Galwedigaethol
ddarnau o waith â blaenoriaeth gyda gweddill y gwaith yn cael ei wneud yn
ddiweddarach.
Rhoddodd Pennaeth
y Gwasanaethau i Oedolion sicrwydd na fyddai cleifion ysbyty sy'n aros am
addasiadau yn aros yn yr ysbyty am gyfnodau estynedig ond y byddent yn cael eu
symud i leoliad gofal estynedig mewn gwely preswyl, gyda'r Cyngor yn talu'r.
Holodd yr
aelodau, pe bai'r cynnig yn cael ei weithredu, pa mor gyflym y byddai'r
ôl-groniad presennol yn clirio.
Cadarnhaodd
swyddogion pe bai'r Cabinet yn cymeradwyo hyn y byddai angen newidiadau i'r
offer polisi a'r ddogfen gyfreithiol, gyda'r nod o roi'r newid ar waith erbyn
dechrau'r flwyddyn ariannol nesaf. Ar hyn o bryd mae 274 ar y rhestr aros ond
rhagwelir y bydd rhai pobl yn gadael y rhestr os ailgyflwynwyd profion modd.
Bydd pobl ar y rhestr aros yn cael eu hysbysu os caiff profion modd eu
hailgyflwyno.
Gofynnodd yr
Aelodau am weld copi o'r prawf modd ac awgrymwyd y dylai'r Cyngor gael rhai
pwerau disgresiwn.
Dywedodd
swyddogion wrth yr aelodau na fyddai disgresiwn dros grantiau mawr lle mae
profion modd ar waith. Nodwyd bod y grantiau bach/canolig wedi'u tynnu allan i
greu grant disgresiynol newydd ac mae pwerau disgresiwn wedi'u defnyddio fel
nad oes angen prawf modd ar eu cyfer.
Croesawyd system
prawf modd gan yr aelodau. Gofynnodd yr aelodau a fyddai unrhyw ddiffyg
ariannol yn cael ei adfachu o Lywodraeth Cymru ac a allai Bae'r Gorllewin fynd
i gyfarfod pwyllgor i roi eglurder ynghylch grantiau.
Cadarnhaodd y
Pennaeth Tai a Chymunedau fod Llywodraeth Cymru wedi darparu gwerth £90,000 o
gyllid ychwanegol i helpu gyda'r galw cynyddol yn sgîl dileu'r prawf modd, a
bydd rhywfaint o gyllid hefyd ar gael gan Fae'r Gorllewin mewn perthynas â
Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl. Bu newid mewn perthynas ag arian cyfalaf sydd
wedi effeithio ar faint o arian sydd ar gael i'w ddefnyddio tuag at Grantiau
Cyfleusterau i'r Anabl. Mae Grŵp Cyfalaf Gorllewin Morgannwg yn siarad â
Llywodraeth Cymru ynghylch y gallu i ddefnyddio mwy o'r arian y mae Llywodraeth
Cymru'n ei ddarparu o dan y grantiau hyn ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i'r
Anabl.
Cadarnhaodd
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai y gellir gwahodd Bwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg i gyfarfod pwyllgor craffu yn y
dyfodol. Atgoffodd y Cyfarwyddwr yr aelodau fod Arweinydd y Cyngor yn
cadeirio'r bwrdd, a bod y cyfarwyddwr hefyd yn aelod o'r bwrdd. Ailadroddodd y
cyfarwyddwr y newid i gyllid rhanbarthol sy'n dod drwy'r bwrdd partneriaeth
rhanbarthol; mae mwy o ffocws ar drawsnewid a defnyddio arian cyfalaf i gefnogi
rhaglenni trawsnewid. Mae hyn wedi effeithio ar y cyllid sydd ar gael ar gyfer
Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl. Mewn blynyddoedd blaenorol mae peth tanwariant
yn y flwyddyn wedi mynd tuag at Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl.
Gofynnodd yr
aelodau am eglurder ynghylch faint y gall Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
Gorllewin Morgannwg ei roi i'r Cyngor ar gyfer grantiau, a gofynnwyd am ragor o
wybodaeth mewn perthynas â chyllid Llywodraeth Cymru o £90,000 a'r diffyg o
£1m+ a grybwyllir yn yr adroddiad.
Cadarnhaodd
swyddogion fod y swm o £90,000 wedi'i gyfrifo gan Lywodraeth Cymru. Fodd
bynnag, nid oedd y ffigwr yn ystyried faint o bobl a oedd wedi canslo neu nad
oeddent wedi cyflwyno cais oherwydd y prawf modd.
Cadarnhaodd
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai nad oedd y Cyngor yn
ariannu £1m ychwanegol; mae'r diffyg profion modd presennol wedi arwain at
gynnydd yn y galw am wasanaethau. Pe bai pob cais yn cael ei gyflawni, byddai'n
arwain at £1m o wariant ychwanegol dros gyllid Llywodraeth Cymru.
Holodd yr Aelodau
ynghylch yr amserlen ar gyfer ailgyflwyno profion modd.
Cadarnhaodd
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai y byddai angen
ymgynghoriad a newid polisi cyn y gellid gwneud unrhyw newid. Y gobaith yw y
gallai trefniadau fod ar waith ac yn cael eu cyflwyno erbyn dechrau'r flwyddyn
ariannol nesaf. Nodwyd efallai na fydd Llywodraeth Cymru'n cymeradwyo'r newid,
ond roedd swyddogion o'r farn ei fod yn gam angenrheidiol i sicrhau bod y
rheini â'r angen mwyaf yn cael mynediad at y gwasanaethau gofynnol.
Holodd Aelod y
Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ac Iechyd sut mae cost
lifftiau fertigol yn cymharu â lifftiau grisiau.
Cadarnhaodd
swyddogion fod lifftiau fertigol yn ddrytach na lifftiau grisiau ac y gallent
gostio tua £20,000.
Yn dilyn gwaith craffu, cefnogodd yr aelodau'r argymhelliad a amlinellwyd yn adroddiad drafft y Cabinet.
Dogfennau ategol: