Cofnodion:
Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad a ddosbarthwyd ym
mhecyn yr agenda.
Amlinellodd yr Aelod Cabinet fod yr adroddiad yn
crynhoi'r gwaith y mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi'i wneud i
gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg. Mae Safonau'r Gymraeg yn sicrhau nad yw'r
Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na Saesneg yng Nghymru. Cyflwynwyd
hysbysiad cydymffurfio gan y Comisiynydd ym mis Medi 2015 a oedd yn amlinellu
pa safonau y mae'n rhaid i'r awdurdod gydymffurfio â nhw. Mae dyletswydd ar y
Cyngor i gyhoeddi adroddiad blynyddol i ddangos ei fod wedi cydymffurfio â'r
safonau. Asesodd Comisiynydd y Gymraeg fod cydymffurfiaeth yn dda, ond
cydnabyddir bod gwaith i'w wneud yn y maes hwn o hyd.
Holodd yr aelodau a oedd unrhyw ystadegau i
gyd-fynd â'r adroddiad ac a oeddent yn adlewyrchu a fu cynnydd yn y defnydd o'r
Gymraeg ledled yr awdurdod. Cadarnhaodd y swyddogion fod rhywfaint o wybodaeth
anecdotaidd yn yr adroddiad sy'n nodi y bu cynnydd bach. Mae'r ystadegau sy'n
cael eu casglu yn ymwneud mewn gwirionedd â siaradwyr Cymraeg, lle gofynnir i
bobl nodi eu rhuglder, etc. Nodir y bu cynnydd yn y defnydd o'r Gymraeg yn
fewnol, er enghraifft yn yr arolwg ymgysylltu â chyflogeion, a gynigiwyd yn y Gymraeg
a'r Saesneg. Bydd yr eitemau hyn yn cael eu hadlewyrchu yn yr adroddiad ar
gyfer 2024-2025.
Cyfeiriodd yr aelodau at baragraff ar dudalen 4 yr
adroddiad a oedd yn amlinellu effaith y safonau ar ymgysylltu â'r cyhoedd. Mae
wedi bod yn amlwg lle mae cwestiynau hir iawn am effaith y Gymraeg ar eitem
wedi ymddangos ar ddogfennau ymgynghori allanol. Mynegodd yr aelodau bryder bod
yr awdurdod yn gofyn i'r cyhoedd am yr effaith ar y Gymraeg, er y gellid gwneud
hyn yn ei asesiad.
Nododd yr Aelodau fod tudalen 6 yr adroddiad yn
cyfeirio at gyfieithu ar y pryd. Dylid egluro bod cyfieithu ar y pryd ar gael
ar gyfer cyfarfodydd y Cyngor Llawn yn unig. Mae cyfieithu ar y pryd yn
gyfyngedig.
Cadarnhaodd y swyddogion fod y cwestiynau a
ddefnyddir i benderfynu pa effaith y mae penderfyniad yn ei chael ar y Gymraeg
yn deillio o ganllawiau Comisiynydd y Gymraeg ar arfer da. Mae swyddogion wedi
profi ffyrdd amrywiol o nodi'r cwestiynau. Mae hefyd yn rhan o'r broses
Asesiadau Effaith Integredig. Ar ben hynny, er mwyn sicrhau nad yw pobl yn cael
eu gorlethu, rhoddir esboniad sy'n amlinellu'r rhesymau pam y gofynnir y
cwestiynau.
Cyfeiriodd yr aelodau at yr ystadegau a amlinellir
yn yr adroddiad sy'n cyfeirio at nifer y siaradwyr Cymraeg rhugl/gweddol rugl a
sut mae'r ffigur hwn yn fwy na'r nifer a nodwyd ar y cyfeiriadur. Dywedodd yr
Aelodau fod hyn yn destun pryder iddynt. Amlinellodd y swyddogion fod y
cyfeiriadur yn nodi staff sy'n ateb y ffôn yn Gymraeg yn unig. Mae'r ystadegau
gan iTrent yn casglu data gan bob aelod o staff, gan gynnwys staff rheng flaen
nas nodir yn y cyfeiriadur. Holodd yr aelodau am y gwahaniaeth yn y ddwy set o
ddata a gasglwyd a pham nad yw'r cyfeiriadur staff yn nodi staff rheng flaen
sy'n siarad Cymraeg. Amlinellodd y swyddogion nad ydynt yn cael eu nodi gan nad
oes modd cysylltu â nhw drwy e-bost neu linell ffôn. Fodd bynnag, gall y
swyddogion ystyried sut mae data'n cael ei gasglu ar gyfer adroddiadau yn y
dyfodol.
Roedd aelodau a swyddogion yn cydnabod pwysigrwydd
creu amgylchedd yn y sefydliad sy'n annog dysgwyr Cymraeg i ymarfer eu sgiliau.
Yn dilyn craffu, gwaith nodwyd cynnwys yr
adroddiad.
Dogfennau ategol: