Cofnodion:
Ystyriodd yr Aelodau y diweddariad ar bolisi
(drafft) ac ymgynghoriad y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol fel y'i dosbarthwyd
o fewn y pecyn agenda.
Amlinellodd swyddogion mai pwrpas yr adroddiad oedd
rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, y gwahanol
ffrydiau gwaith sydd wedi'u datblygu a'r cynnydd a wnaed i aelodau. Ail bwrpas
yr adroddiad yw ceisio cefnogaeth gan y pwyllgor ar y fframwaith polisi sydd
wedi'i ddrafftio. Cadarnhaodd swyddogion fod y fframwaith polisi wedi ystyried
y fframwaith a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ac maent wedi'i wneud yn
berthnasol ar gyfer fframwaith lleol. Y pwrpas terfynol yw cymeradwyo'r rhaglen
waith datblygu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ddiwygiedig.
Nododd swyddogion fod yr amserlen yn heriol ond bod
cynnydd sylweddol yn cael ei wneud yn erbyn hyn. Dywedodd swyddogion fod llyfr
o ddata wedi'i gynhyrchu a fydd yn helpu i ddeall y rhanbarth a'r effeithiau
tebygol ar y rhwydwaith trafnidiaeth. Cadarnhaodd swyddogion fod llawer iawn o
waith dadansoddi wedi'i wneud sy'n ystyried hygyrchedd i bwyntiau teithio
allweddol yn y rhanbarth, gan ganolbwyntio'n bennaf ar amser teithio. Mae hefyd
yn ystyried teithio llesol.
Cadarnhaodd swyddogion y bu adborth cadarnhaol ar
yr achos o blaid newid gan Lywodraeth Cymru ac mae wedi bod yn destun yr
ymgynghoriad diweddar. Cafwyd 814 o ymatebion i'r ymgynghoriad ac roedd y
mwyafrif helaeth o'r ymatebion hyn gan unigolion. Y ddwy thema allweddol a
ddaeth i'r amlwg o'r ymgynghoriad oedd pryder ynghylch potensial mesurau
teithio llesol y gallai'r cynllun eu cynnwys. Hefyd y gydnabyddiaeth yn yr
ymgynghoriad efallai na fydd gofod teithio llesol yn addas i bawb, yn enwedig
yn yr ardaloedd mwy gwledig. Yr ail thema oedd argaeledd a chost trafnidiaeth
gyhoeddus; bysus a rheilffyrdd. Yn ogystal â hyn roedd pryder am amlder
gweithrediad, y prisiau a godir a chwmpas y rhwydwaith. Roedd pryderon hefyd yn
cynnwys cyfnewid effeithiol rhwng y rhwydweithiau bysus a rheilffyrdd.
Gweithgaredd allweddol a nodwyd dros yr wythnosau
nesaf fydd ymgysylltu â rhanddeiliaid technegol. Bydd adroddiad yn cael ei
gyflwyno sy'n amlinellu'r gweithgareddau a gynhaliwyd, i'w ystyried yn
ddiweddarach.
Ar hyn o bryd mae swyddogion yn y broses o nodi
sail yr asesiad lles integredig. Ymgysylltir â'r cyrff statudol perthnasol i
gytuno â dadansoddiad cwmpasu yr asesiad.
Nododd yr Aelodau fod y Bwrdd Teithio Llesol
Annibynnol wedi cyhoeddi adroddiad am gerdded a beicio lle disgrifiwyd Cymru
fel gwlad sy'n 'arafu cynnydd yn sylweddol' o ran annog pobl i gerdded a
beicio. Er y cydnabuwyd bod yr adroddiad newydd gael ei gyhoeddi, gofynnodd yr
aelodau pa ystyriaeth y rhoddir i'r adroddiad hwn i sicrhau bod y gwerth gorau
yn cael ei gyflawni o ran cerdded a beicio?
Roedd swyddogion yn cydnabod na fydd yr opsiwn
teithio llesol yn opsiwn a fydd yn addas i bawb. Bydd yn fwy perthnasol mewn
rhai ardaloedd nag eraill. Mae'r fframwaith polisi wedi'i ddrafftio i
adlewyrchu'r blaenoriaethau ar draws rhanbarth amrywiol. Er ei fod yn cydnabod
cerdded a beicio, mae hefyd yn adlewyrchu'r angen i gynnwys y mathau eraill o
deithio. Fodd bynnag, nododd swyddogion nad ydynt wedi gallu ystyried yr
adroddiad yn fanwl eto. Cadarnhaodd
swyddogion eu bod yn dilyn cyfeiriad polisi cenedlaethol o ran sut maen nhw'n
gweithio tuag at y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a'r hyn y gallant wneud
ceisiadau ar ei gyfer o ran cynlluniau cyfalaf wedi hynny.
Holodd yr Aelodau sut mae'r Cyd-bwyllgor
Corfforedig yn ystyried ei rôl wrth ddarparu teithio llesol ar draws y
rhanbarth. Cydnabuwyd bod gan bob awdurdod unigol ei bolisïau ei hun ar hyn.
Holodd yr Aelodau a oedd y Cyd-bwyllgor wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i beth fydd
eu ffocws, er enghraifft a fyddant yn canolbwyntio ar brif lwybrau trawsffiniol
allweddol neu brif lwybrau prifwythiennol ar gyfer datblygiad economaidd? Roedd
yr aelodau o'r farn bod y Cyd-bwyllgor yn gatalydd i gynorthwyo gyda chyflwyno'r
isadeiledd. Wrth ystyried rhwydwaith
trafnidiaeth, mae'n bwysig bod person yn gallu cwblhau taith gyfan. Roedd yr
Aelodau'n awyddus i ddeall faint o orgyffwrdd fyddai hyn yn ei olygu rhwng
cylch gwaith yr awdurdod lleol o ran teithio llesol a chylch gwaith y
Cyd-bwyllgor.
Cyfeiriodd yr Aelodau at adroddiad annibynnol y
Bwrdd Teithio Llesol a nodwyd ei fod yn argymell defnyddio cyllid y llywodraeth
yn y dyfodol i ganolbwyntio ar un neu ddwy dref ym mhob awdurdod lleol i
sicrhau mwy o effaith. Fodd bynnag, nododd yr aelodau mai ardaloedd gwledig
sydd angen cael eu cefnogi os yw'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol am gael
effaith fawr a bod yn llwyddiannus, ac mae angen ystyried cyllid ar draws y
rhanbarth.
Cyfeiriodd yr aelodau at faint o arian sy'n cael ei
wario ar deithio llesol. Roedd yn peri pryder i rai aelodau ei bod yn ymddangos
nad yw teithio llesol yn ystyried y rheini efallai nad ydynt yn gallu cerdded a
beicio neu'r rheini sy'n cael trafferth wrth wneud hynny. Roedd yr aelodau o'r
farn y dylai buddsoddiad fod yn fwy eang ac ystyried dulliau teithio eraill.
Holodd yr aelodau a yw swyddogion yn cysylltu â'r gwasanaethau bysus mewn
perthynas â'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol?
Awgrymodd yr Aelodau fod angen ymagwedd systematig
sy'n cysylltu rhwng pob dull trafnidiaeth ac sydd wedi'i gwasgaru ar draws y
rhanbarth. Mynegodd yr Aelodau eu pryder a'r gofyniad am ddiffiniad pellach
ynghylch rhai o'r polisïau a amlinellwyd.
Amlinellodd swyddogion nad mater o fuddsoddiad
cyfalaf yn unig fyddai ei angen er mwyn cael newid moddol. Mae elfen o waith i
ddarparu'r isadeiledd, anogaeth ac ymwybyddiaeth o hyrwyddo y mae angen ei
wneud. Er mwyn hyrwyddo teithio llesol mae angen newid moddol, i bobl fod yn
gyfforddus i newid eu patrymau a gwneud rhywbeth anarferol o bosib. Mae'r newid
hwn yn gofyn am newidiadau i'r isadeiledd, ac mae hefyd angen cyllid pellach ar
gyfer yr adeilad a'r gwaith cynnal a chadw, er mwyn sicrhau bod pethau'n cael
eu cynnal i safon dda.
Yn draddodiadol, roedd teithio llesol yn
gysylltiedig â theithiau byrrach ac roeddent yn ymwneud â beicio a cherdded yn
benodol. Fodd bynnag, mae elfen o normaleiddio teithiau llesol hirach yna bydd
manteision sylweddol yn gyffredinol.
Mae yna neges glir gan Lywodraeth Cymru, bod yn
rhaid blaenoriaethu dulliau trafnidiaeth cynaliadwy. Mae swyddogion y
Cyd-bwyllgor yn ceisio dehongli'r polisïau a darparu argymhellion y gellir eu
rhoi ar waith drwy'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a'r cynlluniau amrywiol
sydd gan awdurdodau lleol unigol.
Anogodd yr aelodau gydweithwyr i ddarllen yr
arweiniad Teithio Llesol gan ei fod yn amlinellu mai nod teithio llesol yw
sicrhau bod cymunedau'n hygyrch.
Yn dilyn gwaith craffu, nododd yr aelodau yr
adroddiadau cynnydd llafar a roddwyd gan swyddogion ar ffrydiau gwaith
datblygiad y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Roedd yr aelodau'n cefnogi
fframwaith polisi'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Roedd yr aelodau'n cefnogi'r rhaglen waith
ddiwygiedig ar gyfer datblygiad y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.
Dogfennau ategol: