Agenda item

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU - Cymeradwyo Prosiectau Cronfa Gwella Cyfleusterau Cymunedol

Cofnodion:

Ailadroddodd y Cynghorydd S Jones ei fudd, a gadawodd y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.

 

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig ac ar ôl ei gymeradwyo yng nghyfarfod y Panel Cyllid a gynhaliwyd ar 29 Awst, argymhellir y canlynol:

 

·       Bod aelodau'n cytuno ar yr argymhelliad i gymeradwyo'r prosiectau canlynol, y mae aelodau'n ymwneud â nhw o dan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU - Castell-nedd Port Talbot drwy'r Gronfa Gwella Cyfleusterau Cymunedol, gan ragdybio eu bod wedi'u cymeradwyo yng nghyfarfod y Panel Cyllid a gynhaliwyd ar 29 Awst:

 

1) Clwb Pêl-droed Croeserw – Gwelliannau ffyrdd/ailwynebu

2) Clwb Rygbi Aberavon Greenstars – Gosod paneli solar, cam 2

3) Canolfan Ymgysylltu Cymunedol Cwmafan – Ailwampio'r gegin

 

Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig:

 

Galluogi Cyngor Castell-nedd Port Talbot i roi Cynllun Gweithredu Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar waith a rhoi gwybod i ymgeiswyr am y penderfyniad ariannu.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y broses galw i mewn o dridiau.

 

Dogfennau ategol: