Cofnodion:
Penderfyniad:
Bod Aelodau'n
rhoi caniatâd i swyddogion:
1.
Gynnal ymarfer ymgynghori 30
niwrnod.
2.
Trafod dyddiad terfynu
contract gyda'r darparwr presennol i gwmpasu'r amserlen ymgynghoriad a dod â'r
gwasanaeth yn fewnol os cytunir gwneud hynny.
3.
Cyflwyno papur i'r Cabinet yn
dilyn y cyfnod ymgynghori i adrodd ar y canlyniad a'r cynnig i'w gyflwyno’n
fewnol.
Rhesymau
dros y Penderfyniad Arfaethedig:
Ystyried yr
adnoddau gofal cymdeithasol sydd ar gael wrth gynnal asesiad neu ailasesiad o
anghenion unigolion; sicrhau bod ystod gynaliadwy o wasanaethau o ansawdd da ar
gael i bobl ifanc yng Nghastell-nedd Port Talbot; cyfrannu tuag at yr arbedion
cyllidebol a nodwyd ym Mlaengynllun Ariannol y Cyngor; a chyfrannu at nod
Llywodraeth Cymru i ailgydbwyso'r farchnad gofal cymdeithasol drwy symud
gwasanaethau i ffwrdd o sefydliadau er elw.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau.