Cofnodion:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw
dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig
(a) Yn amodol ar
gwblhau Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth/Cytundeb Grant priodol, rhoddir awdurdod
dirprwyedig i Brif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot i ymgymryd â rôl
Corff Atebol a benthyciadau arian Llywodraeth y DU i liniaru effeithiau pontio Tata
Steel fel y manylir yn y cynlluniau cyflawni ar ffurf fer.
(b) Rhoi awdurdod
dirprwyedig i'r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd ac aelod
perthnasol y Cabinet gytuno ac ymrwymo i Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth/Cytundeb
Grant ac unrhyw ddogfennau cysylltiedig eraill gyda Llywodraeth y DU i fenthyg
yr arian y cyfeirir ato ym mharagraff (a) uchod.
(c) Rhoi awdurdod
dirprwyedig i'r Prif Weithredwr gyflawni'r ymyriadau penodol, gan gynnwys
comisiynu sefydliadau allanol, goruchwylio'r cynlluniau, darparu cymorth
uniongyrchol, talu grantiau a dosbarthu cyllid i sefydliadau eraill fel y bo'n
berthnasol.
(d) Rhoi awdurdod
dirprwyedig i'r Prif Weithredwr ymrwymo i gytundebau grant ac unrhyw ddogfennau
cysylltiedig eraill gyda derbynwyr y cronfeydd a nodir ym mharagraff (a) uchod
fel y bo'n berthnasol ar gyfer eu meysydd gwasanaeth ar amodau a thelerau i'w
cytuno mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd.
Rhesymau
dros y Penderfyniad Arfaethedig:
Caniatáu a
galluogi'r Cyngor i ddefnyddio cyllid Llywodraeth y DU i liniaru effeithiau
pontio Tata Steel, lle bo'n briodol.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Cynigir rhoi'r
penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.