Agenda item

Events and Festivals Review

Cofnodion:

Rhoddodd Aelod y Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Lles drosolwg byr o'r adroddiad a gynhwysir yn y pecyn agenda.

 

Croesawodd yr Aelodau yr adroddiad. Gall y trefniadau presennol atal sefydliadau rhag trefnu digwyddiadau cymunedol. Holodd yr aelodau a fyddai'r trefniant newydd yn siop dan yr unto ar gyfer trefnu trwyddedau. Nododd yr Aelodau y gallai'r ystod codi tâl, sy'n amrywio o £25 i £100, fod yn rhy ddrud ar gyfer digwyddiadau ar raddfa lai.

 

Cadarnhaodd Aelod y Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Lles y byddai'r tîm arfaethedig yn cydlynu gwaith papur ar gyfer digwyddiadau a chaniatâd mewnol y Cyngor. Ni fyddant yn rheoli ceisiadau ar gyfer offerynnau statudol megis trwyddedu mangreoedd, fodd bynnag, byddant yn gallu cyfeirio at adrannau perthnasol. Mae'r ffioedd a awgrymir yn gymedrol ar gyfer digwyddiadau llai, mae angen costau i dalu costau'r gwasanaeth. Nodwyd y bydd 80% o'r ceisiadau gan drefnwyr digwyddiadau bach a fydd yn effeithio ar amser swyddogion. Er bod yr awdurdod lleol yn awyddus i annog digwyddiadau cymunedol, mae angen adennill rhai costau. Bydd y ffioedd yn cynrychioli gwerth da am arian i drefnwyr oherwydd lefel y cymorth a ddarperir. Mae ffioedd ar gyfer digwyddiadau mwy yn hyblyg er mwyn galluogi penderfynu ar ffioedd masnachol, lle bo hynny'n berthnasol.

 

Holodd yr aelodau a fyddai graddfa symudol o ran ffioedd ar gyfer digwyddiadau llai.

 

Cytunodd Aelod y Cabinet y byddai hyn yn cael ei ystyried.

 

Rhoddodd swyddogion wybod i'r aelodau am y ffi cychwyn o £25 ar gyfer digwyddiadau heb unrhyw ongl fasnachol. Mae digwyddiadau'n rhai masnachol, pan fydd traean o fasnachwyr neu stondinau yn y digwyddiad yn fasnachwyr masnachol. Nodwyd bod y rhan fwyaf o ddigwyddiadau cymunedol yn debygol o fod o fewn pen isaf y strwythur codi tâl. Roedd y ffi yn ymrwymiad i gymryd y broses o ddifrif, mae dadansoddiad wedi dangos bod amser staff yn cael ei wastraffu pan fydd trefnwyr digwyddiadau yn rhoi'r gorau i'r broses. Mae'r pwyslais ar gefnogi trefnwyr digwyddiadau, yn enwedig yn y sector cymunedol, i feithrin galluoedd, gwytnwch a phrofiad.

 

Nododd yr Aelodau fod llawer o Gynghorwyr wedi sefydlu digwyddiadau cymunedol i hyrwyddo cydlyniant cymunedol. Holodd yr aelodau a allai'r tabl taliadau yn y ddogfen ddrafft fod yn fwy eglur. Byddai hyn yn caniatáu i sefydliadau llai godi arian drwy gydol y flwyddyn i dalu am gostau. Byddai'n ddefnyddiol cynnwys y meini prawf o ran nodi'r digwyddiad fel un masnachol yn y tabl.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes y byddai'r tabl sy'n cynnwys ffioedd a thaliadau mor glir â phosib.

 

Cadarnhaodd Aelod y Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Lles mai'r bwriad oedd cael gwared ar rwystrau cyn belled ag y bo modd.

 

Holodd yr aelodau a fyddai cau strydoedd ar dir nad oedd yn eiddo'r Cyngor yn dod o dan gylch gwaith y tîm.

 

Cadarnhaodd swyddogion y byddai'r tîm yn cysylltu â Phriffyrdd ochr yn ochr â threfnwyr y digwyddiad, er mwyn dod o hyd i atebion. Cadarnhaodd swyddogion y byddant yn edrych ar ddewisiadau amgen yn lle cau strydoedd. Os oes angen caniatâd statudol, byddai staff yn cynorthwyo trefnwyr i gysylltu â Phriffyrdd i lywio'r broses.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen 105 yr adroddiad a gorymdeithiau Dydd y Cofio a gefnogwyd yng Nghastell-nedd a Phort Talbot. Holodd yr aelodau a oes unrhyw gynlluniau i gefnogi digwyddiad tebyg yng Nghanol Tref Pontardawe.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Lles fod y Lleng Brydeinig wedi rhoi'r gorau i yswirio aelodau i drefnu'r digwyddiadau hyn ac roedd y Cyngor wedi camu i mewn i sicrhau bod y gorymdeithiau'n digwydd.

 

Cadarnhaodd swyddogion mai'r gred oedd bod sefydliadau ar waith ym Mhontardawe i symud ymlaen â'r orymdaith. Os nad yw hyn yn wir, bydd y tîm yn edrych ar sut y gallant helpu.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd na fyddai'r Lleng Brydeinig ym Mhontardawe yn gallu cynnal digwyddiad Dydd y Cofio eleni, byddwn yn cysylltu â'r tîm i drafod hyn ymhellach.

 

Nododd Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thwf Economaidd bwysigrwydd ymgysylltu'n gynnar i leihau'r pwysau ar staff.

 

Dywedodd swyddogion fod yr adroddiad yn cynnwys cynnig gwario i arbed ar gyfer ariannu staff. Ar hyn o bryd, nid yw'r tîm llawn ar waith a bydd angen blaenoriaethu adnoddau staff. Bydd staff ar gael i gynghori a chyfeirio lle bo hynny'n bosib.

 

Yn dilyn gwaith craffu, cefnogodd yr aelodau yr argymhelliad a amlinellwyd yn adroddiad drafft y Cabinet.

 

 

Dogfennau ategol: