Cofnodion:
Rhoddwyd diweddariad llafar i'r aelodau.
Dywedodd swyddogion wrth aelodau fod deddfwriaeth
yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol lunio Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer
lle mae Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer Lleol dynodedig fel Margam/Taibach. Mae'r
Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer presennol wedi bod ar waith ers 2012, i ymdrin â
deunydd gronynnol, PM10 ac mae'r cynllun a'r broses yn gofyn am adolygiad
cyfnodol. Bydd yr adroddiad sy'n cael ei gyflwyno i'r Cabinet yn gofyn i
aelodau gytuno i swyddogion fynd allan i ymgynghori ac ymgysylltu ar y cynllun
gweithredu drafft.
Mae'r Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer drafft wedi'i
baratoi gyda chymorth Ricardo, Ymgynghorwyr Ansawdd Aer yr Awdurdod. Mae
Ricardo wedi gweithio ar ddadansoddiadau ac adolygiadau data blynyddol ar gyfer
ansawdd aer. Tynnwyd sylw at y ffaith y bydd y Cynllun Gweithredu'n cynnwys
crynodeb o'r ansawdd aer presennol yng Nghastell-nedd Port Talbot. Bydd yn
nodi'r blaenoriaethau o ran ansawdd aer ac yn y pen draw yn cyflwyno camau
blaenoriaeth i wella ansawdd aer wrth symud ymlaen. Mae grŵp llywio eisoes
wedi'i sefydlu, mae'r aelodau'n cynnwys Bwrdd Iechyd, Priffyrdd, Cyfoeth
Naturiol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r grŵp llywio wedi cyfrannu
at y cynllun gweithredu drafft ac fel rhan o'r broses ymgynghori,
ail-ymgynghorir â nhw ar gyfer sylwadau ffurfiol, ynghyd ag ymgyngoreion
eraill. Bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor craffu ym mis Medi, a
fydd yn darparu crynodeb a chyd-destun deddfwriaethol, ac yn tynnu sylw at yr
hyn y gofynnir i'r Cabinet ei ystyried a'i nodi.
Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am y
diweddariad llafar.
Cyfeiriodd yr aelodau at adroddiad newyddion a
oedd yn nodi nad oedd parthau 50mya ar draffyrdd wedi effeithio ar lefelau
llygredd a chafwyd gwared ar y terfyn cyfyngedig mewn rhai rhannau o Loegr.
Holodd yr aelodau a oedd yr ardal 50mya gyfyngedig o Bort Talbot i Landarcy
wedi effeithio ar lefelau llygredd.
Cadarnhaodd swyddogion fod y cyfyngiad o 50mya ar
yr M4 wedi cael ei roi ar waith gan Lywodraeth Cymru am resymau ansawdd aer.
Mae Ymgynghorwyr Rheoli Ansawdd Aer wedi cynnal adroddiadau ynghylch rhoi'r
mesurau ar waith a'u heffaith, ond nid yw'n glir a yw'r wybodaeth hon wedi'i
chyhoeddi eto. Gall swyddogion gyfeirio aelodau at wybodaeth ar wefan
Llywodraeth Cymru ynghylch hyn. Cadarnhaodd swyddogion ei fod yn faes o
ddiddordeb, ymgymerwyd â monitro
gan ddefnyddio synwyryddion ansawdd aer cost isel mewn ardaloedd ansawdd aer o
amgylch y draffordd. Disgwylir i'r gwaith hwn gael ei adolygu. Nodwyd nad yw
rhai o'r synwyryddion wedi bod yn ddibynadwy o ran casglu data, ond gellir
gwneud rhywfaint o waith dadansoddi. Derbyniwyd arian grant Llywodraeth Cymru
mewn perthynas ag astudiaeth diwb trylediad nitrogen deuocsid i fesur ansawdd
aer. Ni fydd data amser go iawn ar gael, ond disgwylir canlyniadau o fewn 18
mis a byddant yn rhoi adborth i Lywodraeth Cymru.
Dywedodd y Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd
wrth aelodau fod y Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer Drafft yn adroddiad
technegol, byddai'n ddefnyddiol pe gallai aelodau gynghori swyddogion cyn
unrhyw gwestiynau, fel y gellid sicrhau bod gwybodaeth ar gael i ateb cwestiynau'r
aelodau'n briodol.