Cofnodion:
Rhoddodd Jonathan Burnes
drosolwg i'r aelodau o chwarter mis Ionawr i fis Mawrth a thynnwyd sylw at rai
o'r crynodebau allweddol ar lefel portffolio a'r diweddariadau i'r prosiect a'r
rhaglen.
Ar y dangosfwrdd,
dywedwyd wrth yr aelodau nad oes newid cyffredinol i'r statws, ond bu ychydig o
symudiadau o fewn staffio ac adnoddau ar gyfer seilwaith digidol. Ar gyfer Yr
Egin mae cyflwyniad wedi symud o statws gwyrdd i oren.
Ar y gofrestr risg,
dywedwyd wrth aelodau fod 25 o risgiau ar lefel portffolio ar hyn o bryd, ac
mae pump ohonynt yn risgiau coch. Nid oes unrhyw newid ers chwarter tri.
Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod y pum risg coch yn ymwneud â chostau adeiladu,
TAN 15 sef y mapiau rheoli perygl llifogydd, gwariant yn ystod y flwyddyn,
llithriad a chyflwyno buddion. Dywedodd swyddogion bod gan bob un ohonynt
fesurau lliniaru sy'n gysylltiedig â nhw.
Rhoddwyd gwybod i'r
Aelodau fod 4 risg oren a oedd wedi'u cau ers adroddiad chwarter tri, ac mae'r
rhain yn ymwneud â'r amserlen ar gyfer diwedd rhaglenni ariannu presennol yr UE
sydd wedi'i chwblhau. Y £5.3 miliwn sydd heb ei ddyrannu o gyllid y fargen ddinesig
sydd bellach yn cael ei ddyrannu drwy Gyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer
gweithrediadau canolfan sgiliau Swyddfa Rheoli'r Portffolio Symudodd
gweithrediadau Swyddfa Rheoli'r Portffolio o'r gofrestr risgiau i'r rhestr
broblemau oherwydd mae Ian Williams wedi ymadael. Tynnwyd diffyg presenoldeb
aelodau Cyfetholedig yn y byrddau rhaglenni a rhaglenni ar y cyd s'r
cyd-bwyllgor oddi ar y rhestr risgiau oren, gan eu bod bellach yn dod i'r
cyfarfodydd ac mae swyddogion yn parhau i fonitro'r rheini.
Dywedodd swyddogion nad
oes unrhyw broblemau coch a'r unig broblem goch flaenorol oedd cytundeb cyllido
campws sydd bellach wedi'i lofnodi a'i ddatrys, a gall hynny ddod oddi ar y
gofrestr broblemau erbyn hyn.
O ran yr adroddiadau
chwarterol, roedd cynnydd yn nifer y swyddi a grëwyd o 567 yn chwarter tri i
597 ac mae'r buddsoddiad wedi cynyddu o £272 miliwn i £289 miliwn.
O ran yr asesiad effaith
adeiladu, dywedwyd wrth yr aelodau fod achosion busnes wedi'u hysgrifennu a'u
bod bellach yn mynd i gaffael i edrych ar beth yw'r bwlch ariannu rhwng yr hyn
yr oedd swyddogion yn credu y byddai'n ei gostio a'r hyn y mae'n ei gostio.
Rhoddwyd gwybod i'r
aelodau mai £43 miliwn yw'r prif fwlch ond drwy'r mesurau lliniaru a nodir yn
yr adroddiad, mae bellach wedi lleihau i £12 miliwn, ac mae swyddogion yn
parhau i weithio ar y mesurau lliniaru ar gyfer yr effaith weddilliol honno.
Rhoddwyd gwybod i'r
Aelodau mai nod y mesurau lliniaru allweddol yw sicrhau cyllid ychwanegol,
ailedrych ar y briff adeiladu a dechrau trafodaethau â'r contractwyr.
Eglurodd swyddogion
mai'r prosiectau a nodwyd fel rhai sy'n profi llithriad yw'r glannau, Yr Egin,
seilwaith digidol, campysau a rhaglen cefnogi arloesedd a thwf carbon isel. Mae
pob un o'r rheini'n destun y broses rheoli newid ac adroddir amdanynt drwy drefniadau'r
llywodraeth yn unol â hynny.
Gofynnodd yr Aelodau am
y crynodeb o fuddion a nodwyd, o'i gymharu â'r adroddiad diwethaf, mae Pentre
Awel wedi creu 23 o swyddi, ond ni chynhwyswyd y matrics arloesi o'r blaen, a
dyma'r tro cyntaf iddo fod yn y crynodeb o fuddion hwn.
Esboniodd swyddogion fod
y Matrics Arloesi bron wedi cael ei gwblhau, ac maent wedi creu swyddi
adeiladu. Roedd swyddogion wedi meddwl eu bod wedi adrodd ar rai o'r blaen, ond
mae'r chwech sydd wedi eu nodi yn y chwarter hwn yn debygol o gynyddu eto yn ystod
chwarteri yn y dyfodol. Esboniodd swyddogion eu bod y gallu adrodd unwaith y
bydd y contractwr a'r isgontractwyr wedi adrodd am nifer y swyddi sydd wedi
cael eu creu, yn enwedig drwy waith adeiladu ac unwaith y byddant yn
weithredol. Yna mae'r pwyslais ar y sefydliadau ynddo a sut maen nhw'n tyfu.
Dywedodd swyddogion efallai bydd angen gwerthuso'r rhain ar wahân.
Rhoddwyd gwybod i'r
aelodau bod y matrics arloesi wedi'i gwblhau, ac mae'n destun gwaith gosod
mewnol er mwyn i denantiaid breswylio ynddo dan arweiniad Prifysgol Cymru y
Drindod Dewi Sant.
Gofynnwyd i swyddogion a
fydd y swyddi hyn yn cael eu cynnwys yng nghrynodeb buddion yr adroddiad neu a
ydynt yn mynd i symud i rywle arall?
Cadarnhaodd swyddogion y
bydd y swyddi sydd wedi cael eu creu yn cael eu cronni yn yr adroddiad, a bydd
rhagor o swyddi'n cael eu creu ar gyfer pob un o'r prosiectau fel yr adroddir
amdanynt.
Rhoddwyd gwybod i'r
aelodau fod y 597 o swyddi'n cynnwys y rhai o gampysau'r matrics arloesi a
Phentre Awel o chwarter pedwar.
Nododd yr Aelodau fod
llinell wedi'i chyflwyno yn yr adroddiad nad yw wedi ymddangos mewn adroddiadau
blaenorol mewn perthynas â'r crynodeb buddion ar dudalen 135. Mae'n dangos chwe
swydd ychwanegol yn y matrics arloesi. Dywedodd swyddogion na ddylai hyn fod yn
yr adroddiad oherwydd mae'r matrics arloesi yn rhan o achos busnes Glannau
Abertawe, a dylai fod yn rhan o'r prosiect hwnnw yn lle.
Roedd swyddogion yn
credu bod y swyddog a oedd yn ymdrin â hyn yn tynnu sylw at y ffaith mai dyma
oedd yr ychwanegiad yn unig. Nid yw'n rhan o brif elfen Cyngor Abertawe. Mae'n
rhan o brif elfen y Drindod Dewi Sant. Dylid nodi bod naw prif brosiect a rhaglen
a bydd swyddogion yn cywiro hynny.
Gofynnodd yr Aelodau
beth mae'r swyddogion lliniaru yn edrych arno ar gyfer y diffyg o 12 miliwn o
bunnoedd
Esboniodd swyddogion fod
y £12 miliwn yn ffigwr dangosol ac nad yw wedi symud ymlaen. Dywedodd
swyddogion eu bod wedi nodi bwlch o £12.75 miliwn yn yr adroddiad diwethaf ac o
ran y mesurau lliniaru allweddol mae yna dri ohonynt. Y cyntaf yw sicrhau cyllid
ychwanegol. Gallai hyn fod trwy'r prif ddarparwr neu drwy lywodraethau neu
drwy'r sector preifat. Yr ail opsiwn lliniaru yw ailedrych ar y briff adeiladu
a'r trydydd yw gohirio rhai prosiectau a dechrau deialog gyda chontractwyr.
Dywedodd swyddogion eu
bod yn cael llawer mwy o ddeialog gyda'r contractwyr sylfaenol a chyda'r
cadwyni cyflenwi oherwydd bod gan yr isgontractwyr lawer mwy o ddeialog gyda'r
prif gontractwyr hefyd oherwydd nad ydyn nhw'n creu llawer yn y bôn ac maen nhw
am sicrhau eu bod yn darparu gwaith o safon.
Nododd yr Aelodau nad
oedd swyddi wedi'u targedu yn yr adroddiad buddion ond cafodd swyddi eu creu ym
meysydd sgiliau a thalent a seilwaith digidol a gofynnwyd am y rhesymau dros
hyn.
Gofynnodd yr Aelodau a
oedd modd iddynt gael ffigwr wedi'i ddiweddaru, hyd yn oed os caiff ei e-bostio
atynt am gyfanswm y swyddi, oherwydd mae 6.15% yn eithaf isel a nodwyd eu bod 3
mis ar ei hôl hi wrth adrodd.
Eglurodd swyddogion pan
ysgrifennwyd yr achosion busnes, yn enwedig ar gyfer seilwaith digidol a
sgiliau a thalent, eu bod yn brosiectau cwbl ranbarthol ac yn cynnwys
de-orllewin Cymru gyfan. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau mai galluogwyr oedd y
rhain, ac nad oeddent yn creu swyddi yn uniongyrchol. Dywedodd swyddogion fod y
swyddi'n cael eu creu drwy'r prosiectau a'r rhaglenni eraill ond oherwydd bod
llawer o waith yn cael ei wneud yn arbennig ar gyfer seilwaith digidol a
sgiliau a thalent, mae swyddi'n cael eu creu'n uniongyrchol ac yn
anuniongyrchol drwy'r prosiectau a'r rhaglenni.
Dywedwyd wrth yr aelodau
mai dyma pam y bydd swyddi a grëwyd yn ymddangos yn yr adroddiad ond nid yw'n
ofynnol yn yr achosion busnes hynny i ddangos tystiolaeth o hynny a byddant yn
cael eu cynnwys drwy gydol y broses.
Dywedodd swyddogion, o
ran targedau ac amseriad adroddiadau, cyn gynted ag y byddant yn mynd drwy'r
cyd-bwyllgor, maent ar gael i'r cyhoedd drwy swyddogion gwasanaethau
Democrataidd a bydd Jon Burnes yn sicrhau mai nhw yw'r prosiectau perthnasol
gan y bydd aelodau'n debygol o fod eisiau crynodebau allweddol yn unig.
Rhoddwyd gwybod i'r
Aelodau hefyd fod yn rhaid i adroddiadau rhai swyddi gael eu gwerthuso i
benderfynu ar yr hyn y mae swyddogion yn ei ddweud. Bydd hyn yn gwneud pethau'n
anoddach o ran cael ffigurau union gywir ac esboniwyd er ei bod ar 6% ar hyn o
bryd, mae swyddogion yn gwybod bod y ffigur hwn yn uwch, ond nid ydynt wedi
cynnal y gwerthusiadau i'w gymhwyso.
Esboniodd swyddogion os
ydych yn mynd i wirio'r hawliadau a wnaed gan bobl o'ch blaen, yn enwedig y
rhai anuniongyrchol, yna mae'r rhai uniongyrchol yn hawliadwy oherwydd bod
llwybr archwiliadwy.
Ar gyfer swyddi mwy
anuniongyrchol a grëwyd o ganlyniad i adeiladu, mae'n rhaid iddynt fynd trwy
broses werthuso gyda'r dystiolaeth i sicrhau ei fod yn cael ei wirio'n allanol
(yn ddelfrydol), ond gellid ei wirio'n fewnol hefyd.
Nododd yr aelodau eu bod
yn gweld hyn fel 6% o'r swyddi a gyflawnwyd. Ond efallai bydd y cyhoedd yn
darllen hyn fel 94% sydd heb ei gyflwyno a gofynnwyd a fyddai modd ystyried hyn
fel rhywbeth negyddol ar gyfer y prosiect.
Gofynnodd yr Aelodau
hefyd a ydy hyn yn debyg i'r problemau gyda'r Gwerth Ychwanegol Gros gan eu bod
yn eithaf anodd eu meintioli?
Defnyddiodd yr aelodau
Yr Egin fel enghraifft o adeilad sydd wedi bod ar waith ers tro ac mae ganddo
117 allan o'r 400 o swyddi. Gofynnodd yr Aelodau a oedd Cam 2 Yr Egin yn mynd i
gyflawni'r 300 o swyddi eraill pan fydd hynny wedi'i gwblhau?
Gofynnodd yr Aelodau a
yw hyn oherwydd mae'r ffigurau o'r busnes cychwynnol yn anodd eu cyflawni neu a
oes modd cyflawni unrhyw un ohonynt yn realistig oherwydd yr holl newidiadau
sydd wedi digwydd.
Dywedodd swyddogion mai
blwyddyn wyth yw hon ar hyn o bryd ac roedd achos o gamgychwyn gyda'r Fargen
Ddinesig ar y dechrau a chael yr holl achosion busnes drwy'r broses gymeradwyo,
ond mae bellach ar y trywydd iawn ar gyfer cyflawni, mae swyddogion yn credu
bod modd cyflawni hyn yn realistig.
Mewn perthynas â
gwerthusiadau, mae Swyddogion wedi dweud eu bod wedi cynnal gwerthusiad, a
dyma'r gwerthusiad cyntaf o fargen ddinesig ac nid yw wedi cael ei adrodd drwy
unrhyw fwrdd llywodraethu.
Yn ddiweddarach yn y
flwyddyn ariannol hon, bydd aelodau'n gweld, ac yn gallu craffu ar, y
gwerthusiad cyntaf, sef Yr Egin, gan edrych ar effaith economaidd cam un Yr
Egin a fydd yn cynnwys swyddi ac amrywiaeth o bethau eraill hefyd. Ni allent
fod wedi gwneud gwerthusiad yn ystod cyfyngiadau symud COVID-19, ac roedd angen
blwyddyn weithredol lân arnynt ac felly gwerthuswyd 22/23 fel y flwyddyn
weithredol.
Rhoddwyd arena Abertawe
i'r aelodau fel enghraifft hefyd. Bydd angen blwyddyn neu ddwy o weithredu arni
cyn y gallant ei gwerthuso. Esboniodd swyddogion eu bod yn mynd i werthuso'r
arena i edrych ar yr effaith economaidd ehangach, gan gynnwys swyddi, fel rhan
o hynny.
Gobaith swyddogion yw y
bydd y fframwaith gwerthuso'n tawelu rhai o'r pryderon ynghylch y ffigurau
oherwydd bydd yn cyrraedd wrth i adeiladau ddechrau gweithredu ac wrth effaith
ehangach y rheini ymddangos.
Nododd yr Aelodau fod y
prosiectau'n cael effaith enfawr o ran adfywio a phositifrwydd ar gyfer y
rhanbarth, ar draws y rhanbarth.
Dywedodd yr aelodau eu
bod yn edrych ymlaen at werthusiad Arena Abertawe oherwydd mae 25 o swyddi
llawn amser a nodwyd bod llawer o swyddi rhan-amser eraill o'i gwmpas yn The
Green Room.
Teimlai'r Aelodau y bydd
yn hanfodol iddynt ddeall sut y caiff y broses honno ei chynnal oherwydd dyna
sail yr hyn y mae'r fargen ddinesig yn ei olygu a dywedwyd ei fod yn hynod
bwysig fod y broses honno'n dryloyw ac ar gael i'r cyhoedd hefyd.
Dywedodd swyddogion eu
bod, ar lefel portffolio, wedi cynnal rhai digwyddiadau 'Cwrdd â'r Fargen
Ddinesig' yn ystod y chwarter diwethaf a nodwyd yn y digwyddiad yn Orendy
Margam yng Nghastell-nedd Port Talbot roedd dros 100 o bobl yn bresennol. Bydd
rhan o'r adroddiad blynyddol yn siarad am bedwar digwyddiad Cwrdd â'r Fargen
Ddinesig yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Teimlai'r swyddogion eu
bod yn hynod fuddiol a llwyddiannus.
Rhoddwyd gwybod i'r
aelodau bod y llithrfa a'r pontynau ym Mhrosiect Morol Doc Penfro bellach yn
dechrau cael eu defnyddio ac mae llawer o'r prosiectau eraill ym Mharth Doc
Penfro bellach yn sicrhau ac yn trosoli cyllid trwy fecanweithiau eraill ac
roedd swyddogion yn hapus i weld y gweithgarwch y tu ôl i'r seilwaith.
O ran campysau, mae'r
cytundeb cyllido bellach wedi'i lofnodi ac mae'r broses o greu ail-broffil ar y
gweill ac ers cyhoeddi'r adroddiad, bu cynnydd gyda'r broses gaffael ar gyfer
cam un Singleton.
Rhoddwyd gwybod i'r
aelodau, o ran cefnogi arloesedd a thwf carbon isel, y maes allweddol yw
Canolfan Dechnoleg y Bae. Mae'r adeilad gyda deiliadaeth o ychydig dros 50% ac
mae rhestr o ymholiadau ar gyfer y swyddfa a'r labordy sydd ar gael.
Dywedodd swyddogion, o
ran y prosiect monitro ansawdd aer, mae cwmni o'r enw Ricardo sydd wedi gwneud
adroddiad adolygu, ac maent yn cyflwyno hynny i'r bwrdd ac yn edrych ar beth
yw'r camau nesaf.
Rhoddwyd gwybod i'r
aelodau fod Pentre Awel yn symud ymlaen ac mae dros 2000 o wythnosau hyfforddi
yn y cyfnod adeiladu hyd yma. Mae ganddynt 31 o brentisiaethau sy'n cael eu
cynnal yn yr adeilad ac mae 44 o ymgeiswyr newydd. Ar hyn o bryd mae Pentre Awel
yn gweithio ar ddiweddaru eu hachos busnes. Bydd hyn yn eu helpu i
ail-broffilio achosion economaidd, masnachol ac ariannol eu hachos busnes ar
gyfer parth un a pharthau'r dyfodol (2,3 a 4).
Mewn perthynas â
seilwaith digidol, maent wedi derbyn eu cronfa fuddsoddi 5G gyntaf sy'n
gysylltiedig â phrosiect y campysau, ac mae swyddogion yn ystyried hyn fel
enghraifft dda o gyfnewid syniadau ar draws y portffolio ac mae ar y trywydd
iawn i gael ei gwblhau.
Dywedodd swyddogion fod
yr ymarfer caffael cam un ffibr tywyll wedi'i gwblhau, ac mae'r cyflenwr a
ffefrir wedi'i benodi.
O ran y glannau,
rhoddwyd gwybod i'r Aelodau bod datblygiadau'r gwesty yn mynd gerbron y Cabinet
yr wythnos diwethaf er mwyn iddynt wneud penderfyniad ynghylch penodi
cydweithredwr a ffefrir ynghylch beth yw gwesty'r Arena.
Dywedodd swyddogion fod
llawer o waith yn digwydd gyda 171 Ffordd y Brenin ynghylch tenantiaid darpar
denantiaid.
Rhoddwyd gwybod i'r
Aelodau fod y matrics arloesi'n gwneud cynnydd da ac yn ôl y cynllun, maent yn
gwneud y gwaith gosod nawr er mwyn i'r tenantiaid symud i mewn cyn gynted â
phosibl o fewn y mis nesaf.
Mewn perthynas ag Yr
Egin, dywedwyd wrth yr aelodau ei fod yn symud ymlaen i gam dau ac maent yn
edrych ar ba gais am newid y mae ei angen i wneud hynny'n bosib. Nid yw
swyddogion wedi derbyn unrhyw beth ffurfiol gan y Drindod Dewi Sant ynghylch
hynny hyd yn hyn.
Rhoddwyd gwybod i'r
aelodau hefyd eu bod bellach wedi cyrraedd 19 o brosiectau peilot, ac roedd
swyddogion yn meddwl bod hynny'n wych, yn enwedig oherwydd mae'r rhain wedi
cael eu gwasgaru ar draws yr holl sectorau gwahanol a'r holl ddarparwyr
hyfforddiant gwahanol a chwmnïau sector preifat sy'n wych o safbwynt swyddog.
Nodwyd yr adroddiad.
Dogfennau ategol: