Cofnodion:
Oonagh
Gavin yw rheolwr y prosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer. Rhoddwyd cyflwyniad byr i'r aelodau am yr adroddiad a ddarparwyd.
Gofynnodd yr aelodau a yw'r tîm Cartrefi
fel Gorsafoedd Pŵer wedi creu unrhyw dai
yn ogystal â'r fflatiau ar
lan Môr Aberafan?
Dywedodd swyddogion fod llawer o weithgarwch yn digwydd ar
draws y rhanbarth ac maent yn coladu nifer
y tai yn rheolaidd. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod
tai Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer eisoes yn bodoli
ar draws pob un o'r pedair ardal
awdurdod lleol.
Dywedodd yr aelodau ei bod yn dda gweld
bod y fenter Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer mor gadarnhaol a bod cymaint o ganlyniadau eisoes.
Holodd yr Aelodau a oedd y
cyllid gwerth £3.7 miliwn wedi'i ddyrannu,
ei ddefnyddio a'i ddatblygu. Gofynnodd yr aelodau a yw'r
swyddogion bellach yn edrych ar
ddefnyddio arian ychwanegol o'r gronfa ffyniant gyffredin ac a yw'r prosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer yn parhau
i dyfu.
Nododd yr aelodau hefyd fod yr adroddiad yn nodi bod 1804 o swyddi wedi eu creu
a gofynnwyd am amlinelliad ynghylch ble mae'r
swyddi hynny.
Gofynnwyd hefyd i swyddogion a oes unrhyw
waith yn cael ei wneud
ynghylch systemau adfer dŵr glaw ac a yw'n cael ei gynnwys
mewn unrhyw eiddo Cartrefi Fel Gorsafoedd Pŵer.
Eglurodd swyddogion mai 1800
o swyddi yw targed y prosiect ac nad yw hynny
wedi'i gyflawni eto. Mae'n rhan
o'r ymarfer olrhain a fydd yn parhau wrth
i'r prosiect ddatblygu. Eglurodd swyddogion ei bod hi'n gynnar o ran coladu'r data hwnnw ond mae swyddogion
yn gobeithio o fewn y misoedd nesaf bydd ganddynt
ragor o fanylion am hynny.
Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod y prosiect
wedi derbyn yr arian yn hwyr
y llynedd ac mae rhai o'r contractau
hynny ar gyfer adeiladu'r tai neu ôl-osod tai yn mynd drwy'r cam contractio, ond dywedodd swyddogion fod hynny'n creu
swyddi.
Gofynnodd yr aelodau a yw'r holl arian
o gyllid y fargen ddinesig wedi'i ddyrannu eisoes? Esboniodd y swyddogion nad oedd hynny
wedi digwydd. Cyfeiriodd swyddogion at Gronfa Datblygu'r Gadwyn Gyflenwi ac maent yn gweithio
ar gwmpas ac ymarfer y gronfa honno ac esboniwyd bod gan y prosiect £7 miliwn ar gael
i'w ddefnyddio.
Dywedodd swyddogion hefyd eu bod wedi dyrannu
£3.7 miliwn o'r cyfanswm sydd ganddynt
yn y Gronfa Cymhellion Ariannol, sef £5.75 miliwn.
Nododd yr aelodau fod yr adroddiad yn dweud
nad yw swyddogion
wedi cyhoeddi rhestr lawn o gynlluniau hyd yn hyn
oherwydd efallai bod materion cyfreithiol yn digwydd yn
y cefndir a gofynnodd aelodau pryd roeddent
yn debygol o weld rhestr lawn o gynlluniau.
Nododd yr Aelodau fod deg swydd eisoes
wedi cael ei chreu ac ers mis Chwefror mae'r buddsoddiad wedi cynyddu tua £15 miliwn yn ystod
y misoedd diwethaf, ond nid yw
nifer y swyddi wedi cynyddu. Roedd
yr aelodau'n gobeithio y byddant ar gael
ar-lein yn fuan.
Ailadroddodd swyddogion y byddai'n
cymryd ychydig o amser i gasglu'r data swyddi a dywedodd fod pethau wedi
symud ymlaen ers mis Mawrth pan nododd swyddogion eu sefyllfa
o ran y dogfennau cyfreithiol,
a byddant yn gallu cyhoeddi'r cynlluniau yn ystod
yr wythnosau nesaf.
Gofynnodd yr aelodau am y batris
Duracell y crybwyllwyd yn
yr adroddiad a gofynnwyd os ydynt ar
gyfer cyfleusterau storio tai a oes
profion diogelwch yn cael eu
cynnal arnynt ac a oes gan swyddogion
unrhyw sicrwydd nad oes risg
yn gysylltiedig â hynny?
Dywedodd swyddogion fod profion trylwyr wedi cael eu
cynnal ac mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno meini prawf newydd ar
gyfer Safon Ansawdd Tai
Cymru, lle mae argymhelliad bod batris bellach yn cael
eu storio y tu allan i'r
eiddo. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau
fod hyn wedi
creu rhywfaint o waith i'r Landlordiaid
Cymdeithasol Cofrestredig sydd bellach yn
gorfod gosod cwpwrdd allanol lle gellir storio'r
batri. Nid yw hyn wedi
cael unrhyw oblygiadau negyddol ar y Fargen Ddinesig.
Dywedodd swyddogion hefyd, gyda'r newidiadau i safonau tai a'r datblygiad cyson, maent wedi creu'r
cyfle i'r Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig edrych ar ba gynhyrchion
i'w defnyddio. Teimlai swyddogion, yn achos Duracell, mae gan y batri
gwpwrdd storio y gellid ei brynu
hefyd fel rhan o'r ateb
i'r broblem honno.
Gofynnodd yr Aelodau am swyddi
a grëwyd yn ystod y 15 mlynedd diwethaf ac a oes
unrhyw waith yn mynd rhagddo
i fonitro prentisiaethau sydd wedi'u creu
neu sydd ar y gweill oherwydd y fenter hon. Esboniodd swyddogion ei fod
dros gyfnod y 15 mlynedd nesaf hyd
at 2033 ac nid oedd yn ôl-weithredol.
Pan
fydd buddion y prosiect yn cael
eu darganfod, bydd swyddogion yn parhau i wneud
ymarfer olrhain i sicrhau eu bod yn casglu cymaint
o wybodaeth â phosib i ddangos beth yw
buddion y prosiect. Rhan o'r cynllun hwnnw
yw cofnodi faint o brentisiaethau sydd wedi cael eu
creu.
Dywedodd swyddogion eu bod yn gweithio'n agos
gyda phrosiect arall y Fargen Ddinesig Arall, y Rhaglen Sgiliau a Thalent, i nodi a chasglu'r wybodaeth honno hefyd.
Dywedodd Jonathan Burnes hefyd wrth
aelodau fod swyddogion ar draws portffolio'r fargen ddinesig yn monitro
ac yn mesur prentisiaethau ar draws y naw prosiect a rhaglen, gan eu
coladu yn y rhaglen sgiliau a thalentau. Mae swyddogion hefyd yn nodi buddion
cymunedol, gan gynnwys wythnosau hyfforddi hefyd. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod
asesiadau ac adroddiadau ehangach wedi'u cwblhau.
Gofynnodd Aelodau Castell-nedd
Port Talbot a allent ymweld
â phrosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer yn Aberafan
gan eu bod wedi methu'r ymweliad
safle'n flaenorol. Cytunodd swyddogion fod hyn y bosib
a dywedwyd cyn gynted ag y bydd y ddau dŷ, y tai ôl-osod ym Margam Port Talbot, wedi'u cwblhau fydd croeso i aelodau
ddod i ymweld â'r ddau dŷ.
Byddai swyddogion yn trefnu hyn gyda
Tai Tarian.
Nodwyd yr adroddiad.
Dogfennau ategol: