Cofnodion:
Cyfeiriodd
swyddogion at y Flaenraglen Waith arfaethedig ar gyfer y flwyddyn ddinesig sydd
ar ddod, a oedd wedi'i chynnwys ym mhecyn yr agenda. Dywedwyd wrth yr aelodau
fod cyfarfod ychwanegol wedi'i drefnu ar gyfer 30 Medi i reoli llwyth gwaith y
pwyllgor. Rhoddwyd cyfle i'r aelodau ddarparu adborth ar unrhyw un o'r eitemau
neu godi eitemau i'w hystyried yn y dyfodol.
Cododd yr aelodau
bryder ynghylch y ffaith y dylai fod ystyriaeth ehangach wrth gynnal adolygiad
o fodel craffu newydd.
Cadarnhaodd
swyddogion fod penderfyniad y cyngor i roi model craffu newydd ar waith yn cael
ei adolygu ac adroddir wrth y cyngor am y canlyniadau. Gellir cynnwys Pwyllgor
y Gwasanaethau Democrataidd fel rhan o'r broses adolygu.
Nodwyd y
Flaenraglen Waith.
Dogfennau ategol: