Cofnodion:
Rhoddodd swyddogion ddiweddariad llafar ar y
grwpiau gorchwyl a gorffen a sefydlwyd gan y pwyllgor mewn perthynas ag
aflonyddu, cam-drin a bygythion mewn
democratiaeth. Cynhaliodd y grŵp Ymdrin ag Aflonyddu, Cam-drin a
Bygythiadau ddau weithdy a sbardunodd drafodaeth a syniadau gwirioneddol i'w
datblygu. Dywedodd swyddogion wrth yr aelodau na fu'n bosib ystyried Amrywiaeth
mewn Democratiaeth o fewn yr amserlenni a nodwyd yn flaenorol oherwydd amseru'r
etholiad cyffredinol sydyn. Cynigiwyd y byddai gwaith yn cael ei wneud i nodi
canlyniadau o'r gweithdai Aflonyddu,
Cam-drin a Bygythiadau, gyda gweithdai
Amrywiaeth mewn Democratiaeth yn cael eu haildrefnu yn dilyn gwyliau'r
cyngor. Rhagwelir y bydd y ddau grŵp yn gorffen erbyn yr hydref, pan
adroddir wrth y pwyllgor a'r cyngor am y syniadau.
Nododd yr aelodau'r diweddariad llafar.