Agenda item

Cynllun a Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol

Cofnodion:

Rhoddodd Aelod y Cabinet dros Strydlun, Scott Jones, yr wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am yr adroddiad. Dywedodd fod y Cyngor yn gweithredu fel awdurdod llifogydd lleol arweiniol ar gyfer y rhanbarth ac mae ganddo ddyletswydd statudol i gynhyrchu a datblygu strategaeth a chynllun lleol ar gyfer rheoli perygl llifogydd fel y nodir o dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod yr awdurdod wedi cyhoeddi ei strategaeth leol gyntaf yn 2014, gan nodi'r ymagwedd drosfwaol at reoli perygl llifogydd lleol ac, ochr yn ochr â'r strategaeth leol, cyhoeddwyd y Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd yn 2015.

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod y Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd wedi datblygu'r amcanion, y mesurau a'r camau gweithredu a amlinellir yn y Strategaeth Leol yn gynllun manylach ar gyfer rheoli llifogydd yng nghymunedau'r awdurdod yn seiliedig ar wardiau gwleidyddol.

 

Eglurodd Aelod y Cabinet mai'r ail Strategaeth Leol yw'r ddogfen ac er bod yr awdurdod wedi cyhoeddi'r Strategaeth Leol ar wahân yn flaenorol, mae'r strategaeth leol a'r cynllun newydd hon yn integreiddio'r ddwy ddogfen yn un, gan leihau'r cymhlethdod a'r dyblygiad.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau y bydd y ddogfen hon yn gweithio ochr yn ochr â chynlluniau strategol eraill ar gyfer rheoli traethlinau, isadeiledd a chynllunio ac yn nodi'r cyfeiriad y mae'r awdurdod am ei ddilyn.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod y ddogfen yn esbonio sut y bydd llifogydd yn cael eu rheoli ar draws ardal yr Awdurdod Lleol yn gyson â'r amcanion, y mesurau a'r polisïau a'r ddeddfwriaeth gysylltiedig a nodir yn y Strategaethau Cenedlaethol.

 

Eglurodd Aelod y Cabinet fod y ddogfen wedi'i hysgrifennu mewn ffordd y gall y cyhoedd ehangach ac ymarferwyr perygl llifogydd ei defnyddio a'i chyfeirio ato. 

 

Dywedodd Aelod y Cabinet mai bwriad yr awdurdod yw adolygu'r strategaeth a'r cynllun bob dwy flynedd, a bydd y cynllun gweithredu'n cael ei ddiweddaru yn unol â hynny.

 

Dywedodd swyddogion wrth yr aelodau bod hwn yn faes pwysig iawn o fewn y meysydd priffyrdd a systemau draenio. Mae llawer o fuddsoddiadau wedi'u gwneud i'r awdurdod a staffio a chynllunio ymlaen llaw a chynllunio ar gyfer olyniaeth. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod swyddogion mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru yn rheolaidd a bod gan swyddogion gynllun gwaith ar y gweill dros y 10 mlynedd nesaf sydd wedi'i chynllunio ar hyn o bryd ar gyfer cynlluniau ar draws y fwrdeistref sirol yn seiliedig ar angen, sydd â chyfanswm gwerth o £35,000,000.

 

Eglurodd swyddogion fod y rhain yn ddibynnol ar gyllid Llywodraeth Cymru oherwydd ar hyn o bryd yng nghyllideb gyfalaf yr awdurdod £300,000 y flwyddyn yn unig sydd gan yr awdurdod, sydd wedi'i leihau gan chwyddiant. Mae swyddogion yn teimlo bod yr awdurdod ar flaen y gad o ran perygl llifogydd yng Nghymru ac efallai yn y DU ac mae ganddo dîm gwych o unigolion ac maent yn paratoi ar gyfer y dyfodol, ond bydd llawer o'r gwaith hwn yn dibynnu ar gyllid grant wrth symud ymlaen.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod yr awdurdod wedi gwneud llawer iawn o waith ar draws y fwrdeistref sirol ac, er bod Llywodraeth Cymru'n darparu 85% o'r cyllid, mae'n rhaid i'r awdurdod lleol ddod o hyd i 15% o'r cyllid yn fewnol. Dywedodd swyddogion y bydd angen i'r awdurdod ddod o hyd i oddeutu £5.1 miliwn dros y 10 mlynedd nesaf er mwyn dod o hyd i'r £35 miliwn a grybwyllwyd.

 

Dywedodd swyddogion eu bod yn credu bod yr awdurdod mewn sefyllfa llawer gwell heddiw o ran perygl llifogydd o'i gymharu â blynyddoedd yn ôl.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod oddeutu 64,000 eiddo o fewn yr awdurdod ac mae risg posib o lifogydd i oddeutu 24,500 eiddo o fewn yr awdurdod o wahanol ffynhonellau ac o lefelau risg gwahanol.

 

Esboniodd swyddogion fod yr hydroleg sy'n gysylltiedig â charthffosiaeth, yn cael ei arwain gan allu a thrwy systemau trefol a draenio cynaliadwy, mae'r awdurdod yn ceisio tynnu dŵr allan o'r prif systemau draenio. Mae'r cyhoedd yn aml yn meddwl bod y draeniau wedi'u rhwystro, ond mater o allu'n unig yw hyn.

Nododd yr Aelodau fod y camau a restrir yn yr adroddiad yn dibynnu ar Lywodraeth Cymru a chyllid mewnol, ond nid yw'n dweud a yw'r rhain yn brosiectau dyheadol neu'n brosiectau y gellir eu cyflawni. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod cyllid eisoes wedi'i nodi ar gyfer cynllun 10 mlynedd yr awdurdod y cytunwyd arno mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru.

 

Dywedodd swyddogion nad cynlluniau dyheadol yw'r rhain, a dylent allu cael eu cyflawni cyn belled â bod y ffrydiau cyllido'n parhau. Os na fydd y ffrydiau ariannu'n parhau, byddant yn ddyheadol.

 

Rhoddodd swyddogion yr enghraifft o gynllun a gynhigiwyd i'w ddatblygu fel achos busnes llawn eleni, ond ni dderbyniodd yr awdurdod yr arian ar ei gyfer gan Lywodraeth Cymru felly mae hynny wedi'i osod yn ôl ar y cynllun ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Nododd yr Aelodau fod yr awdurdod wedi gallu sicrhau cyllid yn 2018/19 i helpu i ddiogelu'r morglawdd yn Aberafan ac adeiladwyd ramp. Mynegodd yr Aelodau eu pryder ynghylch y pwynt lle mae'r morglawdd yn dod i ben. Mae'r erydiad ar ochr wal y morglawdd wedi parhau'n eithaf difrifol yn ystod blynyddoedd diweddar a chyda'r tebygolrwydd y bydd lefelau'r môr yn codi a'r erydiad yn parhau, roedd aelodau am wybod a oedd gan swyddogion gynllun penodol ar waith gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru. Gofynnodd yr aelodau hefyd a allai'r awdurdod wthio i geisio dod ag arian i mewn i ymestyn y promenâd neu'r amddiffynfeydd môr o'r man lle maent yn dod i ben ar hyn o bryd i'r man a elwir yn 'Clwb Llynges'.

 

Dywedodd swyddogion eu bod yn ymwybodol o hyn ac eglurwyd bod strategaeth 'cynnal y llinell' sy'n gysylltiedig â glan y môr. Mae'r promenâd yn defnyddio rheolaeth naturiol sy'n gysylltiedig â gweddill glan y môr, mae'n erydu dros amser.

 

Nododd swyddogion y byddai Rhodfa Scarlett yn cael ei effeithio, a byddant yn cyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru ar hyn, fodd bynnag, mae ffrydiau cyllido wedi dod i ben ers 2019 ac mae'n dibynnu a fydd cyllid Llywodraeth Cymru ar gael i ymgymryd â gwaith pellach.

 

Mae swyddogion yn credu bod Llywodraeth Cymru'n ceisio cydbwyso erydiad arfordirol a pherygl llifogydd o lu o ardaloedd a bydd swyddogion yn parhau i roi pwysau arnynt, ond nid oes cyllid ar gael.

 

Tynnodd yr Aelodau sylw at dudalen 211. Mae'n nodi bod angen cyllid mewnol ychwanegol sylweddol ar gyfer y cynllun hwn a gofynnwyd ai dyna yw'r £35 Miliwn y cyfeirir ato gan swyddogion.

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau mai'r £35 miliwn yw'r buddsoddiad angenrheidiol er mwyn cyflawni'r cynlluniau dros y 10 mlynedd nesaf ac ar hyn o bryd mae angen i'r awdurdod ddod o hyd i 15% o'r swm hwnnw. Mae swyddogion wedi cael trafodaethau gyda'r adran gyllid ac mae darpariaethau yn y gyllideb ar gyfer hyn ar hyn o bryd.

 

Teimlai'r aelodau y byddai'n ddefnyddiol egluro hyn yn yr adroddiad a theimlwyd bod diffyg manylder ynghylch faint y bydd pethau'n costio ac o ble fydd yr arian yn dod.

 

Gofynnodd yr aelodau hefyd a fyddai'n bosib iddynt gael syniad o'r costau ar gyfer peidio â chynnal y cynlluniau yn yr adroddiad a defnyddiwyd enghraifft o gostau tebygol os bydd busnesau ac aelwydydd yn dioddef llifogydd, neu ddifrod arall.

Cydnabu'r Aelodau y bydd yr awdurdod yn debygol o frwydro am gyllid a dyna pam y byddai'n bwysig gallu rhoi rhif ariannol ar y gost a'r arbedion o ganlyniad i hyn.

 

Nododd yr Aelodau y bydd yr arian o'r Grant Refeniw Llifogydd yn symud i'r Grant Cynnal Refeniw, ac mae'r adroddiad yn nodi mai'r gobaith yw y bydd yr awdurdod yn parhau i gael yr un lefel o gyllid. Gofynnodd yr aelodau pa mor realistig oedd hyn unwaith y byddai'r arian yn symud i'r Grant Cynnal Refeniw.

 

Dywedodd swyddogion eu bod wedi cael sicrwydd y bydd yr arian sydd wedi symud i'r Grant Cynnal Refeniw yn aros o fewn cyllideb y gwasanaethau priffyrdd a draenio.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod gan swyddogion amlinelliad eang o'r cynlluniau ac mae ganddynt flaenoriaethau yn seiliedig ar y cyfrifiadau a wnaed gan y tîm ar risg llifogydd posib o fewn yr awdurdod. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod yr asesiadau'n seiliedig ar 1 digwyddiad llifogydd mewn 30 mlynedd, 1 digwyddiad llifogydd mewn 100 mlynedd ac 1 digwyddiad llifogydd mewn 1000 o flynyddoedd.

 

Eglurodd swyddogion ei fod yn anodd gwneud cyfrifiadau sy'n seiliedig ar gost oherwydd mae asesu cost digwyddiadau llifogydd yn y gymuned yn golygu cost ariannol ac hefyd yr effaith y mae'n ei gael ar yr agweddau cymdeithasol megis pobl yn gorfod symud allan o dai etc. Roedd swyddogion yn teimlo y byddai'n ddefnyddiol cynnwys atodiad a oedd yn nodi'r gwaith sydd ar y gweill gan yr awdurdod dros y 10 mlynedd nesaf a'r costau cysylltiedig. Dywedwyd wrth yr aelodau fod tair blynedd wedi mynd heibio a'u bod wedi cael rhywfaint o lwyddiant wrth gyflawni prosiectau gwerth dros £3 miliwn mewn ardaloedd lleol a dros y 10 mlynedd nesaf byddant yn darparu cynlluniau mwy. Bydd y manteision tymor hir o ganlyniad i hyn yn aruthrol i'r ardal ac mae hynny'n wir ar gyfer y dalgylch hefyd.

 

Esboniodd swyddogion nad oeddent yn gallu mynd i Lywodraeth Cymru i ofyn am arian ar gyfer cynllun. Mae'n rhaid i swyddogion wneud achos busnes amlinellol, yna achos busnes llawn. Yna mae'n rhaid iddynt wneud adroddiad arall sy'n sôn am gyllid, a gall y rhain gymryd blynyddoedd.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau yn hytrach nag edrych ar y cynllun o ran meysydd gwleidyddol, maent wedi penderfynu edrych arno fel dalgylchoedd yn lle. Rhoddwyd enghraifft i'r aelodau ar sut mae glaw yn y Cimla yn cyrraedd y môr ychydig y tu allan i Lansawel. Mae hyn yn golygu bod swyddogion wedi gorfod edrych ar bob ward a phob cymuned y mae'n effeithio arnynt wrth iddo deithio i'r môr i weld a oes digon o wytnwch yn y gridiau neu'r sianeli sydd gan yr awdurdod yno ac yna rhoi'r cyfrifiadau hyn ar waith yn seiliedig ar y mathau o hynny lifogydd. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod 1 digwyddiad llifogydd bob 30 mlynedd yn digwydd yn eithaf rheolaidd erbyn hyn ac mae 1 digwyddiad llifogydd bob 100 mlynedd hefyd yn digwydd yn fwy aml.

 

Nid yw swyddogion yn poeni cymaint am law parhaus ond maent yn gweld llawer mwy o lifogydd dirybudd, sy'n rhoi straen ar bob system ddraenio ni waeth ble ydyn nhw ac mae yna dŵr ffo mewn mannau lle nad ydynt erioed wedi'i weld o'r blaen.

 

Ychwanegodd swyddogion rywfaint o wybodaeth ynghylch y mater o effeithiau ariannol os nad oedd yr awdurdod am roi'r mesurau amddiffynnol ar waith a dywedwyd ei fod yn ymwneud yn fwy â'r gost a'r gwerth i'r asedau sy'n cael eu diogelu yn hytrach nag effeithiau cymdeithasol.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau, er bod agweddau cymdeithasol yn gyffredinol pan fydd llifogydd yn digwydd, y byddai cost y canlyniadau llawer yn uwch na'r buddsoddiad cyfalaf hwnnw gyda difrod i eiddo a'r holl agweddau cymdeithasol sy'n gysylltiedig â phobl yn gorfod symud.

 

Dywedodd swyddogion y byddai'r costau, heb wneud y gwaith lliniaru, yn enfawr o'u cymharu â'r buddsoddiad cyfalaf. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod gan bob awdurdod lleol gyfres o gynlluniau ac fel rhan o'r dadansoddiad cost a budd hwnnw, mae Llywodraeth Cymru yn tueddu i gymryd safbwynt blaenoriaethu wrth edrych ar yr holl gynlluniau.

 

Defnyddiodd swyddogion yr enghraifft o ardal Sandfields lle effeithir ar 6500 eiddo. Roedd hynny'n effaith fawr ac roedd y cynllun hwnnw'n eithaf agos at gyrraedd uchafswm y buddsoddiad a oedd ar gael. Mae hyn yn golygu ei fod yn ymwneud â gwerth asedau a ddiogelir yn hytrach nag effeithiau ariannol canlyniadol, ond byddent yn enfawr.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Hurley, Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thwf Economaidd, adborth bod gan yr awdurdod gynllun cadarn gyda phopeth ar waith yn barod i wneud cais am y cyllid a dywedodd mai'r unig gyfyngiad ar y gwaith yn yr awdurdod i ddiogelu'r ardal a'r fwrdeistref yw cyllid Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Aelod y Cabinet fod angen i aelodau lobïo a helpu swyddogion i geisio cyflawni'r cyllid hwnnw.

 

Mewn perthynas â glan y môr, dywedodd y Cynghorydd Hurley fod yn rhaid iddynt hefyd ystyried fod hen safle British Petroleum y tu hwnt i'r 'Clwb Llynges', sydd bellach yn dir Llywodraeth Cymru ac sydd o bosib wedi'i glustnodi ar gyfer y Porthladd Rhydd a'r datblygiad. Dywedodd Aelod y Cabinet fod angen i'r awdurdod wella'r amddiffyniad yno neu na fydd modd defnyddio'r tir hwnnw ac y bydd hynny'n golled enfawr i'r ardal a'r rhanbarth hefyd.

 

Yn dilyn gwaith craffu, roedd yr aelodau'n gefnogol o'r argymhellion.

 

 

Dogfennau ategol: