Cofnodion:
Rhoddodd
Aelod y Cabinet dros Strydlun, y Cyng. Scott Jones, rywfaint o gefndir i'r
pwyllgor ynghylch yr adroddiad. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod cynnydd
sylweddol yn y gyfradd ynni yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf sydd wedi rhoi
pwysau mawr ar gyllidebau adrannol. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod Adran
Goleuadau Strydoedd Cyhoeddus wedi tynnu sylw at 3 strategaeth arbed ynni posib
yn ystod 2023/24 i gyfyngu ar y gorwariant.
Lleihawyd
lefelau pŵer pob colofn golau stryd gwerth 3 Watt ac yn dilyn
cymeradwyaeth y Cabinet ar 22 Mawrth 2024, rhoddwyd pylu goleuadau 25% ar waith
ar draws 10,000 o lusernau LED. Cyn i'r Cabinet gymeradwyo pylu goleuadau 25%,
cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ochr yn ochr â phrawf llwyddiannus yn 2024.
Dywedodd
Aelod y Cabinet fod y trydydd opsiwn o oleuadau rhan amser gyda'r nos wedi'i
ohirio nes y cynhelir astudiaeth beilot i gael gwell dealltwriaeth o effeithiau
strategaethau arbed a thrwy hynny alluogi gwneud penderfyniadau ar sail
tystiolaeth yn y dyfodol, os oes angen.
Atgoffwyd
yr Aelodau eu bod fel pwyllgor, cyn cynnal y prawf, wedi gofyn i Fwrdd y
Cabinet am adroddiad pellach sy'n cynnwys manylion lleoliadau daearyddol, hyd y
prawf a'r amseroedd ar gyfer cynnau a diffodd y goleuadau fel y'u cyflwynwyd yn
yr adroddiad.
Nododd
Aelod y Cabinet fod aelodau yng nghyfarfod Craffu mis Mawrth wedi argymell
pryderon ynghylch diffodd goleuadau stryd am 9.00pm gyda'r nos, a allai golygu
bod menywod a merched yn fwy agored i niwed ac eglurodd fod y pryder hwn wedi'i
ystyried, a'i fod yn cael ei adlewyrchu yn yr amseroedd ac yn adlewyrchu'r
pryderon a godwyd yn flaenorol.
Mynegwyd
hefyd y byddai'r ymgynghoriad yn cael ei gynnal fel rhan o astudiaeth beilot
cyn dechrau'r prawf a bydd yn cynnwys asesiad o'r effaith ar fenywod a merched
ifanc o ran trais, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Cadarnhaodd
Aelod y Cabinet fod y broses o ymgynghori â'r partneriaid hynny wedi dechrau ac
os cymeradwyir y cynllun peilot goleuadau rhan amser gyda'r nos arfaethedig gan
y Cabinet, caiff ei gynnal drwy gydol mis Tachwedd, a bydd yn cynnwys cyfanswm
o 133 o lusernau dros saith lleoliad.
Bydd
y llusernau'n cael eu diffodd rhwng 1.00am a 5.00am ac ar ôl cwblhau
canlyniadau'r cynllun peilot bydd adborth gan randdeiliaid yn cael ei gasglu yn
barod ar gyfer unrhyw drafodaethau yn y dyfodol neu gyfnod brawf hwy.
Rhoddwyd
gwybod i'r Aelodau, fel rhan o'r broses ymgynghori, y bydd asiantaethau a
phreswylwyr yr effeithir arnynt yn cael gwybod am hyn cyn dechrau'r cynllun
peilot a chaiff adborth gan y Pwyllgor Craffu ac aelodau hefyd ei ystyried fel
rhan o'r adroddiad terfynol i'w gyhoeddi ym mis Medi.
Esboniodd
swyddogion fod dewis y lleoliadau wedi bod yn broses anodd gan ei fod yn fater
sensitif ond mae'n rhaid ei wneud fel rhan o'r prawf.
Rhoddwyd
gwybod i'r Aelodau y gallai hyn fod yn rhagflas ar brawf pellach yn
ddiweddarach ar gyfer diffodd mwy o oleuadau ac y bydd hynny'n arwain at
ymgynghori pellach.
Esboniodd
swyddogion eu bod hefyd wedi trefnu cyfarfodydd gyda grŵp lleol o'r enw
'Thrive' sy'n dechrau ddydd Gwener nesaf ac mae swyddogion wedi bod yn trafod
â'r tîm diogelwch cymunedol sydd wedi darparu rhestr o fannau lle mae nifer o
broblemau o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol i swyddogion ac mae'r swyddogion
wedi ceisio osgoi'r mannau hyn yn ystod y prawf.
Rhoddwyd
gwybod i'r aelodau, pe bai prawf pellach a/neu fwy yn cael ei ystyried yn
briodol, y byddai'n cael ei gynnal ar draws ardal fwy eang oherwydd y byddai
cyfanswm o 133 o oleuadau, sef 19 o oleuadau fesul lleoliad ar gyfartaledd.
Nododd
swyddogion na fyddai'r rhan fwyaf o bobl am i'w goleuadau cael eu diffodd ac
mae hynny'n ei gwneud hi'n anodd dewis y lleoliadau. Dywedodd swyddogion eu bod
wedi ceisio ei wneud yn onest ac yn agored gyda chalon dda a heb unrhyw
ymyrraeth gan unrhyw un.
Awgrymodd
yr aelodau y dylid cynnal y cynllun prawf mewn rhai ardaloedd gwledig iawn i
gael adlewyrchiad cywir o'r sefyllfa a gofynnwyd sut y bydd yn effeithio ar yr
ardaloedd hynny.
Dywedodd
swyddogion eu bod wedi siarad â'r heddlu a'u bod yn credu, er mwyn sicrhau bod
y prawf gwerth chweil, eu bod wedi edrych ar ardaloedd mwy trefol yn hytrach
nag ardaloedd gwledig oherwydd eu bod yn credu y gallai fod mwy o broblemau o
bosib gyda lleoliadau trefol yn hytrach na rhai gwledig.
Nododd
yr Aelodau mai dim ond un gymuned yn y cymoedd sydd wedi'i chynnwys yn y prawf
a gofynnwyd sut y bydd hynny'n cynhyrchu cipolwg o ddosbarthiad daearyddol o
awdurdod 34 ward pan fydd ardaloedd trefol yn cael eu dewis yn bennaf? Nododd
yr aelodau hefyd fod lleoliadau 5 a 6 yn y prawf o fewn yr un ward, sef Margam
a Thai-bach, a gofyn a oes unrhyw reswm y tu ôl i hynny?
Dywedodd
swyddogion eu bod wedi bod yn ymgynghori â'r heddlu, ac fe wnaethant nodi trwy
hynny fod mwy o debygolrwydd y bydd problemau sy'n gysylltiedig â'r ardaloedd
trefol ac mae llawer mwy o oleuadau i'w diffodd yn yr ardaloedd trefol ac
oherwydd hyn, mae swyddogion wedi penderfynu ar hollt cyfartal ar draws y
fwrdeistref sirol.
O
ran sefyllfa'r ddwy ardal ym Margam, dywedwyd mai penderfyniad swyddog yw hyn
ac nad oes unrhyw reswm arall heblaw am y ffaith eu bod yn teimlo mai dyma'r
peth cywir i'w wneud yn y lleoliad hwnnw.
Gofynnodd
yr Aelodau o ble cafwyd y data ar gyfer y cyfraddau troseddu a holwyd a oedd
dewis ardaloedd trosedd isel yn golygu nad oes hyder yn y polisi ac os felly,
os caiff ei weithredu'n llawn ac a allai'r awdurdod fod yn peryglu diogelwch ei
drigolion?
Dywedodd
swyddogion na fyddant am roi unrhyw un mewn perygl a bod yn rhaid i'r prawf
gael ei gynnal mewn rhai lleoliadau penodol ar draws y sir. Mae swyddogion yn
ymgynghori â'r tîm diogelwch cymunedol, a byddant yn cyfathrebu â Thrive.
Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod y prawf yn cynnwys llai nag 1% o'r goleuadau o
fewn yr awdurdod.
Dywedodd
swyddogion y bydd canlyniad y prawf a'r wybodaeth a gesglir yn llywio'r hyn
sy'n digwydd nesaf. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau hefyd bod mantais i gynnal y
cyfarfodydd craffu cyn cyfarfod y Cabinet, sef bydd yn rhoi 7 wythnos i
swyddogion wneud pethau'n fwy cadarn er mwy iddynt geisio dod yn ôl at y
pwyllgor ym mis Medi gyda rhai manylion am yr ymgynghoriadau y mae swyddogion
wedi eu cynnal.
Gofynnodd
yr Aelodau a oedd unrhyw ffactorau eraill wedi cael eu hystyried sy'n ymwneud â
lleoliad 6 (Margam a Thai-bach) oherwydd bod gan y ffordd bengaead yn benodol
ddemograffig hŷn ac mae llawer o staff allgymorth ac ambiwlansys yn ei
defnyddio. Gofynnodd yr aelodau hefyd sut y gallai hynny effeithio ar y
trigolion hynny os nad oes goleuadau yn ystod oriau mwyaf peryglus y nos?
Nododd
swyddogion yr wybodaeth a dywedwyd efallai rhwng nawr a mis Medi, yn dilyn
adborth, y gallent addasu'r atodiad ychydig.
Gofynnodd
yr Aelodau am ragor o fanylion o ran yr ymgynghoriad, yn benodol ynghylch sut y
cysylltir â thrigolion a pha ffurf y bydd swyddogion yn ei defnyddio i gasglu'r
adborth gan breswylwyr.
Dywedodd
swyddogion eu bod yn bwriadu dosbarthu llythyrau i'r holl breswylwyr i'w
hysbysu o'r cynigion ac ar y llythyr bydd gwybodaeth am sut y gallant roi
adborth ac, os oes angen, cynhelir trafodaethau wyneb yn wyneb â nhw.
Gofynnodd
yr Aelodau a fydd preswylwyr yr effeithir arnynt yn derbyn gostyngiad ar dreth
y Cyngor gan fod lleihad yn eu gwasanaeth? Dywedodd swyddogion nad oeddent yn
meddwl y byddai hynny'n wir.
Gofynnodd
yr Aelodau pwy fydd yn monitro effaith y prawf a beth sydd ar waith o ran os
oes angen iddo gael ei ohirio os bydd tywydd gwael yn arwain at ddamwain neu
unrhyw beth tebyg yn ardaloedd y prawf.
Esboniodd
swyddogion y bydd swyddogion yn cael trafodaethau parhaus gyda'r Heddlu, y Tîm
Diogelwch Cymunedol a Thrive, unwaith y bydd y cynlluniau posib hyn i ddiffodd
goleuadau'n cael eu rhoi ar waith. Nid
yw llawer o'r ardaloedd sydd wedi cael eu dewis yn ffyrdd cyflym, a bydd y
cynllun yn cael ei atal os oes angen.
Nododd
swyddogion fod diffodd y goleuadau am hyd yn oed gyfnod byr yn golygu y bydd
hi'n anodd i swyddogion ddeall a fyddai digwyddiad neu drosedd wedi'i chyflawni
oherwydd y diffyg golau neu a fyddai'r trosedd wedi digwydd beth bynnag. Bydd
swyddogion yn ymgynghori'n agos â'r holl bartïon dan sylw ac os oes angen
gwneud unrhyw beth, bydd y gwaith yn cael ei wneud, ac adroddir yn ôl lle bo
angen ar ddiwedd y prawf.
Gofynnodd
yr Aelodau a fydd cronfa'n cael ei sefydlu ar gyfer dioddefwyr o ganlyniad i
weithredoedd y Cyngor mewn perthynas â'r profion hyn? Doedd y swyddogion ddim
yn ymwybodol o gronfa o'r fath.
Gofynnodd
yr Aelodau i Aelod y Cabinet a oedd hwn o ganlyniad i'r Cyngor yn chwarae gemau
gyda bywydau trigolion i arbed arian a nodwyd nad yw'n argoeli'n dda ar gyfer
trigolion Godre'r Graig, sy'n ceisio adeiladu ysgol newydd, gan fod yr awdurdod
wrthi'n diffodd goleuadau yn y pentref hwnnw i arbed arian.
Atebodd
Aelod y Cabinet Scott Jones fod hyn yn ymwneud ag arian, ac mae wedi bod yn
amlwg iawn ers y diwrnod cyntaf bod hyn yn rhan o ymarfer cynilo. Dywedodd
Aelod y Cabinet y byddai'n llawer gwell ganddo dreulio ei amser yn gweithio
gyda'r pwyllgor craffu, gan edrych ar ffyrdd y gall pob un ohonynt wella
ansawdd gwasanaethau yn hytrach na threulio amser ar yr hyn y mae angen ei
dorri ar draws yr awdurdod.
Nododd
Aelod y Cabinet fod newid wedi bod yn ddiweddar yn y llywodraeth, a dywedodd ei
fod yn gobeithio, er nad oedd yn disgwyl gwyrthiau o fewn mater o wythnosau, y
bydd cynghorau ledled Cymru yn derbyn y buddsoddiad y mae ei angen arnynt rhwng
nawr a setliad y gyllideb nesaf ac felly efallai y byddwn yn cael trafodaethau
gwahanol mewn cyfarfodydd craffu wrth symud ymlaen.
Gofynnodd
yr aelodau faint o waith sydd wedi'i wneud gyda chynghorau eraill sydd wedi
gwneud profion ynghylch hyn, er enghraifft Powys a'r adborth roeddent wedi'i
dderbyn a sut roedd hynny wedi effeithio ar y cynllun.
Eglurodd
swyddogion fod ymgynghoriad wedi dechrau cyn cyfarfod y Cabinet ym mis Medi
gydag awdurdodau lleol ledled Cymru ac mae swyddogion yn aros am wybodaeth i
gyrraedd am hynny.
Esboniodd
swyddogion fod lefel eithaf uchel o weithgarwch o ran cyflawni prosiectau. Mae
hyn, yn ogystal â'r Swyddog yn cymryd cyfrifoldeb dros yr adran goleuadau ym
mis Ebrill yn unig, yn golygu bod pethau wedi bod ychydig yn araf, fodd bynnag,
dywedodd swyddogion fod ganddynt wyth wythnos arall i fynd tan yr adroddiad
terfynol a bydd ganddynt lawer mwy o wybodaeth erbyn cyfarfod y Cabinet ym mis
Medi.
Yn
dilyn gwaith craffu, roedd yr aelodau'n gefnogol o'r argymhellion.
Dogfennau ategol: