Cofnodion:
Derbyniodd yr aelodau ddiweddariad
am y broses o roi Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar waith yn ne-orllewin Cymru,
sy'n un o bileri allweddol y Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol.
Esboniodd y swyddogion fod
diweddariadau blaenorol wedi rhoi gwybod i'r pwyllgor am yr amserlenni gan
Lywodraeth y DU ac am greu'r Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol, y manylwyd arno yn
adran gyntaf yr adroddiad a ddosbarthwyd, ynghyd â'r camau a gymerwyd i roi'r
broses ar waith, y gellid dod o hyd iddynt yn ail adran yr adroddiad a
ddosbarthwyd.
Nodwyd mai'r gwahaniaeth
allweddol rhwng y rhaglen yn ne-orllewin Cymru a rhai o'r rhanbarthau eraill
oedd bod cyfres o brosiectau angori wedi cael eu creu yn unol â'r prosiect
cyffredinol. Tynnodd y swyddogion sylw at y ffaith bod rhai o'r prosiectau angori
wedi cael eu rhoi ar waith ar draws pob un o'r pedwar awdurdod lleol, megis y
thema datblygu busnes, er mwyn sicrhau cysondeb rhanbarthol, gan hefyd ganiatáu
i'r holl ardaloedd awdurdodau lleol addasu'r rhaglen hon i'w gofynion penodol
eu hunain. Crybwyllwyd bod hyn hefyd yn berthnasol i themâu eraill megis
gweithgarwch gwledig, creu lleoedd a chefnogi cymunedau.
Rhoddwyd gwybod i'r pwyllgor
fod llai na 4% o'r rhaglen yn cael ei defnyddio at ddibenion gweinyddu, a oedd
yn llawer rhatach na rhaglenni blaenorol; cadarnhaodd y swyddogion mai dyma un
o elfennau cadarnhaol y rhaglen hon.
Dywedodd y swyddogion eu bod
o'r farn yn ystod camau cynnar y rhaglen hon fod angen dirprwyo a bod yn hyblyg
cymaint ag y bo modd, gan lynu wrth ymagwedd gyson; mewn rhai achosion, pan
oedd gan awdurdodau lleol alwad agored am brosiectau annibynnol, bu'n rhaid
iddynt hefyd drafod yr hyn roeddent yn ei gynnig ag arweinwyr angori, yn
enwedig o ran themâu busnes a chyflogadwyedd. Nodwyd bod hyn wedi arwain at
rwydweithiau lleol cryf iawn yn gweithredu ar lefel leol, a oedd yr un mor
bwysig â'r partneriaethau ar lefel genedlaethol.
Crybwyllwyd bod cryn wybodaeth
am fonitro bellach ar gael, y bydd aelodau etholedig yn ei derbyn ar lefel leol
drwy adroddiadau monitro chwarterol helaeth; bydd yr adroddiadau hyn yn
crynhoi'r wybodaeth sy'n deillio o bob prosiect, gan gynnwys data gwariant a
straeon newyddion da sy'n tynnu sylw at fusnesau a chymunedau a oedd wedi cael
cymorth.
Tynnodd y swyddogion sylw at y
ffaith eu bod wedi cwrdd â chydweithwyr o Lywodraeth Cymru i sicrhau bod
swyddogion yn cael yr holl wybodaeth am gynigion er mwyn gwirio nad oeddent yn
gwrthdaro â'r hyn roedd Llywodraeth Cymru'n ei gynnig. Er enghraifft, rhaid i
geisiadau am grantiau busnes gael eu cyflwyno drwy Fusnes Cymru i sicrhau bod
busnesau'n derbyn yr holl gymorth sydd ar gael a bod hynny’n cyd-fynd â
blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
Rhoddwyd gwybod i'r aelodau
fod prosiectau'n dechrau cyflawni canlyniadau; roedd cyfanswm o fwy nag £1m
wedi’i neilltuo i ychydig yn llai na 500 o fusnesau ledled y rhanbarth. Yn
ogystal, roedd y swyddogion yn gweld datblygiadau o ran creu swyddi, gan gynnwys
cwmnïau newydd, y mae rhai ohonynt yn dechrau defnyddio lle ar y strydoedd
mawr, gan ategu'r Rhaglen Trawsnewid Trefi.
Cynhaliwyd trafodaeth am y
ffigurau gwariant. Nodwyd nad oedd proffiliau gwreiddiol Llywodraeth y DU a
gyflwynwyd ochr yn ochr â'r Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol wedi cael eu
diweddaru eto; felly, er ei bod yn ymddangos bod cryn oedi yn erbyn proffiliau,
roedd yn gymesur â'r farn gyffredinol bod y rhaglen oddeutu dau chwarter ar ei
hôl hi. Nodwyd bod hyn oherwydd oedi cyn cymeradwyo'r rhaglen ym mis Rhagfyr
2022 a'r effaith ddilynol ar awdurdodau lleol wrth iddynt symud ymlaen heb
sicrwydd ynghylch a fyddai'r rhaglen yn parhau; mae hyn yn atgyfnerthu achos yr
awdurdodau lleol sydd am weld y rhaglen yn cael ei hymestyn am o leiaf ddau
chwarter, neu'n hwy'n ddelfrydol, er mwyn rhoi rhagor o amser i’r rhaglen
gyflawni ei chanlyniadau'n llwyr. Ychwanegwyd bod y graffiau yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn adlewyrchu hyn.
Roedd yr adroddiad a
ddosbarthwyd hefyd yn cynnwys rhai o brif ffigurau'r rhanbarth, o ran y lleoedd
a oedd yn cael eu creu, y bobl a oedd yn cael cyflogaeth a nifer y mentrau a
oedd yn cael eu cefnogi; er enghraifft, dyfarnwyd grantiau busnes gwerth £5.2m
hyd yn hyn ac roedd hyn yn parhau. Mynegodd y swyddogion eu barn ynghylch sut
roedd y rhanbarth yn gweithio'n gydlynus iawn; roedd perthnasoedd rhwng y
swyddogion yn gryf a'r perthnasoedd â phartneriaid allanol yr un mor gryf, ac
roedd pobl yn weddol fodlon ar y ffordd roedd y rhaglen yn gweithredu gan ei
bod yn fwy hyblyg ac yn llai llethol na threfniadau blaenorol. Ychwanegwyd bod
y brif elfen yn gwneud gwahaniaeth gweladwy mewn cymunedau.
Tynnwyd sylw at y ffaith bod
Cadeirydd yr Is-bwyllgor Lles Economaidd a Datblygiad Economaidd Rhanbarthol
wedi ysgrifennu i'r llywodraeth i ofyn am amser ychwanegol i sicrhau bod
prosiectau'n cael eu cwblhau.
Mynegodd yr aelodau fod
canlyniadau rhanbarthol yn dangos pa mor dda oedd y model hwn a pha mor addas
ydoedd am gynnal y fath gynlluniau; eglurwyd nad oeddent am ailgydio yn y model
blaenorol a oedd wedi cael ei ddefnyddio. Gofynnwyd a fyddai'n ddefnyddiol
ymgymryd â gwaith ynghylch y gwersi a ddysgwyd a'r math o raglenni y gellid eu
cynnal yn y dyfodol; esboniodd y swyddogion y byddai tîm y Fframwaith Buddsoddi
Rhanbarthol yn Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi arolwg dros yr wythnosau nesaf.
Felly, roedd y swyddogion eisoes wedi dechrau crynhoi gwybodaeth a data i
baratoi am hyn; roedd llawer o wybodaeth am effaith wirioneddol y model hwn am
swm weddol fach o arian o'i gymharu â'r symiau a oedd ar gael yn flaenorol.
Mynegodd aelodau'r pwyllgor eu
bod yn ddiolchgar i'r timau dan sylw am fynd â'r rhaglen waith hon
rhagddi.
Dogfennau ategol: