Cofnodion:
Penderfyniad:
Ar ôl ystyried yr
adroddiad a rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, argymhellir y
canlynol ar gyfer yr eiddo Cam 2:
a) Bod aelodau'n
nodi taliadau iawndal yr adroddiad ariannol ac yn rhoi awdurdod dirprwyedig i'r
Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd gytuno a thalu'r costau rhesymol a
hawlir fel rhan o'r cytundeb dymchwel.
b) Bod aelodau'n
nodi'r camau gweithredu Gorfodi Statudol y gallai fod eu hangen i sicrhau
cydymffurfiaeth â'r Gorchmynion Dymchwel.
c) Bod aelodau'n
nodi bwlch ariannu costau dymchwel ac yn rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth
Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd dalu anfoneb y contractwr dymchwel, a lle bo'n
bosib ac yn berthnasol, adennill y cyfraniadau yswiriant fel rhan o'r cytundeb
dymchwel a lle bo'n briodol cofrestru costau sy'n weddill fel dyled pridiant
tir lleol yn erbyn yr eiddo a'r tir.
d) Rhoi awdurdod
dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio ymrwymo i gytundeb gyda'r perchnogion
i brynu'r tir am £1 yn ogystal â thaliad o hyd at £500 ar gyfer costau
cyfreithiol.
e) Bod aelodau'n
nodi, ar ôl trosglwyddo tir i berchnogaeth y Cyngor, y bydd unrhyw ddyledion
sydd wedi'u cofrestru fel pridiant tir lleol mewn perthynas â'r costau dymchwel
heb yswiriant yn cael eu dileu.
Rhesymau
dros y Penderfyniad Arfaethedig:
I symud ymlaen a chwblhau'r
gwaith o ddymchwel yr eiddo yn 88, 86, 85, 84, 83, 82 ac 81 Heol Cyfyng a
phrynu'r tir er mwyn i'r Cyngor gymryd rheolaeth o'r safle i sicrhau nad oes
unrhyw werthiant pellach na datblygiad anawdurdodedig yn digwydd a allai
danseilio sefydlogrwydd y llethr a pheryglu'r isadeiledd priffyrdd.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Cynigir
rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.