Agenda item

Caffael Cytundeb Cynghreirio Rhanbarthol ar gyfer Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, y dylid cymeradwyo'r canlynol:

 

1.              Ymgymryd ag ymarfer caffael i gomisiynu cynghrair o ddarparwyr i ddarparu gwasanaethau defnyddio sylweddau ar draws rhanbarth Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. 

 

2.              Yn dilyn y broses gaffael, rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Tai a Chymunedau i ymrwymo i gontract gyda'r cynigwyr buddugol.

 

3.              Bod y Pennaeth Tai a Chymunedau'n ymrwymo i gytundeb partneriaeth gyda sefydliadau partner APB.

 

Rheswm dros y Penderfyniadau:

 

Sicrhau bod gwasanaethau defnyddio sylweddau ar draws rhanbarth Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot o ansawdd uchel, yn gynaliadwy yn ariannol ac yn gallu diwallu anghenion presennol y boblogaeth ac anghenion y boblogaeth yn y dyfodol

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Mae'r eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol.

 

        

 

Dogfennau ategol: