Cofnodion:
(Ailymunodd y Cynghorydd S Jones â'r cyfarfod)
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad
Effaith Integredig, cytunwyd ar y canlynol:
1.
Bydd swyddogion yn bwrw ymlaen
â'r opsiwn a ffefrir (Opsiwn 1 yn yr Astudiaeth Ddichonoldeb a gynhyrchwyd gan Counter
Culture, fel a fanylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd) ar gyfer defnyddio
adeilad gwag y llyfrgell yng Nghastell-nedd fel hwb creadigol yn y dyfodol.
2.
Bydd swyddogion yn bwrw ymlaen
ag ymarfer caffael i dendro ar gyfer sefydliad i brydlesu a gweithredu'r
adeilad.
Rheswm dros y Penderfyniadau:
Galluogi Cyngor Castell-nedd Port Talbot i fwrw
ymlaen â'r gwaith o ailwampio hen adeilad pwysig a gwag Llyfrgell Castell-nedd
er mwyn ei ddefnyddio er budd y gymuned fel hwb creadigol ac atal yr adeilad
rhag dadfeilio ymhellach.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl
y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Ymgynghoriad:
Cynhaliwyd ymgynghoriad gan Counter Culture gyda
rhanddeiliaid allweddol ac ymgynghoriad ehangach mewn perthynas â chymaryddion
fel rhan o'r astudiaeth dichonoldeb.
Dogfennau ategol: