Agenda item

Trefniadau comisiynu ar gyfer Gwasanaethau Monitro Galwadau Technoleg Gynorthwyol ac Ymateb Symudol (Yn eithriedig o dan baragraff 14)

Cofnodion:

 

Penderfyniadau:

 

1.              Cymeradwyo'r gwaith o gynnal ymarfer caffael, sy'n cynnwys dau lwyth i'w comisiynu:

·                 Gwasanaeth monitro galwadau ar gyfer cleientiaid teleofal a llinell fywyd.

·                 Gwasanaeth Ymateb Symudol.

 

2.              Yn dilyn y broses gaffael, rhoddir awdurdod dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaethau Oedolion ymrwymo i gontract gyda'r cynigwyr buddugol.

 

Rheswm dros y Penderfyniadau:

 

Sicrhau bod y Cyngor yn cydymffurfio'n gyfreithiol wrth brynu'r gwasanaethau hyn. Yn ogystal, bydd hyn yn sicrhau mai'r Cyngor sydd yn y sefyllfa orau i barhau i ddiwallu anghenion a gofynion y rheini y mae angen y gwasanaethau hyn arnynt drwy brynu gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n gynaliadwy yn ariannol.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.