Cofnodion:
(Ar y pwynt hwn, ailddatganodd y Cyng. S Jones ei
fuddiant, a gadawodd y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon)
Penderfyniadau:
Cymeradwyo'r prosiectau canlynol, y mae'r Aelodau'n
cymryd rhan ynddynt, a gyflwynwyd o dan Gronfa Gwella Cyfleusterau Cymunedol
Cronfa Ffyniant Gyffredin Castell-nedd Port Talbot (UKSPF) y DU:
1.
Clwb Pêl-droed Croeserw –
Uwchraddio'r ystafell newid a'r gwaith trydanol.
2.
Clwb Rygbi Aberavon Green
Stars – gosod paneli solar.
3.
Canolfan Ymgysylltu â'r
Gymuned Cwmafan – Uwchraddio'r lloriau ac uwchraddio trydanol.
4.
Cyfeillion Blaendulais –
Uwchraddio llwybrau cerdded a beicio.
Rheswm dros y Penderfyniadau:
Galluogi Cyngor Castell-nedd Port Talbot i roi
Cynllun Gweithredu Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar waith a dweud wrth
ymgeiswyr am y penderfyniad ariannu.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl
y cyfnod galw i mewn o dridiau.
.
Dogfennau ategol: