Agenda item

Gorchymyn Traffig - Gorchymyn y B4242 Heol Castell-nedd, Abergarwed (Dirymu) a (terfyn cyflymder 40mya 2024

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, diystyru'r gwrthwynebiad i'r B4242 Heol Castell-nedd, Abergarwed (Dirymu) a (Terfyn Cyflymder 40mya) 2024, fel a fanylir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd, rhoi'r cynllun ar waith fel y'i hysbysebir, a hysbysu’r gwrthwynebydd am y penderfyniad yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Darparu terfyn cyflymder clustogi o 40mya ymlaen llaw i'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar rannau bach o'r briffordd a oedd yn defnyddio'r terfyn cyflymder cenedlaethol yn flaenorol, er budd diogelwch ar y ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Mae'r eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol

Dogfennau ategol: