Agenda item

Cynnig arfaethedig i waredu tir (Yn eithriedig o dan baragraff 14)

Cofnodion:

Siaradodd Aelod y Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Llesiant am ecoleg a bioamrywiaeth, yn ogystal â chadwraeth natur mewn perthynas â'r tir a gynigir i'w waredu. Pwysleisiodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd fod y tir yn cael ei waredu yn unol ag amodau'r CDLl presennol, ac eglurodd rôl Ecolegwyr y Cyngor.

 

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig, am y rhesymau a fanylir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd cytunwyd i waredu'r tir (ar yr amodau a thelerau a nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd).

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Darparu derbynneb cyfalaf i'r Cyngor.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.