Agenda item

Hysbysebu Gorchmynion Rheoleiddio Traffig amrywiol sy'n gysylltiedig â Rhaglen Gyfalaf y Cyngor 2024-2025 a Rhaglen Waith a Ariennir gan Grant Llywodraeth Cymru 2024-2025.

Cofnodion:

 

Penderfyniadau:

 

1.              Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, rhoddir cymeradwyaeth i Swyddogion yr Is-adran Traffig hysbysebu cynlluniau a gynhwysir o fewn y canlynol yn unol â'r gofynion statudol:

 

o       Rhaglen Gyfalaf Traffig 2024-2025 (fel a fanylir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) 

 

o       Rhaglen Teithio Llesol 2024-2025 (fel a fanylir yn Atodiad B i'r adroddiad a ddosbarthwyd)

 

o       Rhaglen Lleoedd Parcio Unigol i'r Anabl 2024-2025 (fel a fanylir yn Atodiad C i'r adroddiad a ddosbarthwyd)

 

o       Rhaglen Cyflwyno Terfyn Cyflymder Diofyn 20mya Cenedlaethol Llywodraeth Cymru 2024-2025 (fel a fanylir yn Atodiad D i'r adroddiad a ddosbarthwyd)

 

o       Grant Diogelwch ar y Ffyrdd Cyfalaf Llywodraeth Cymru (fel a fanylir yn Atodiad E i'r adroddiad a ddosbarthwyd)

 

2.              Bod y cynlluniau'n cael eu rhoi ar waith yn unol â'r gofynion statudol perthnasol a gynhwysir yn y Rheoliadau Traffig Ffyrdd cyfredol, ar yr amod na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau. Os caiff unrhyw wrthwynebiadau eu derbyn mewn perthynas ag unrhyw gynlluniau, bydd y rhain yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Cabinet er mwyn gwneud penderfyniad.

 

Rheswm dros y Penderfyniadau:

 

Mae'r cynlluniau'n angenrheidiol er budd diogelwch ar y ffyrdd, gan ddarparu gostyngiad cyflymder, hyrwyddo Teithio Llesol, rhoi blaenoriaeth i leoedd parcio unigol i'r anabl wrth barcio ar y stryd, darparu digon o ddarpariaeth barcio a lleihau anafiadau yn y Fwrdeistref.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal gyda'r Aelodau(au) lleol ar gyfer pob ward yr effeithir arno gan gynllun cyn i'r ymgynghoriad ffurfiol gael ei gynnal gyda'r cyhoedd ac unrhyw gyrff eraill yr effeithir arnynt.

 

                   

 

Dogfennau ategol: